Showing posts with label hanes. Show all posts
Showing posts with label hanes. Show all posts

17.9.26

Hanes a Threftadaeth Bro Ffestiniog

Melin Maenofferen
Mae ein treftadaeth bensaernïol i’w weld yn glir o’n cwmpas – o gapeli i dai cynharaf y fro i olion diwydiannol. Un o’r enghreifftiau amlycaf yw melin lechi Maenofferen, adeilad pedwar rhan gafodd ei adeiladu rhwng 1870 a 1897 yn Chwarel Maenofferen. Mae’r adeilad yn un rhestredig gradd II*, ac yn un o’r melinau llechi mwyaf cyflawn ar ôl yn y gogledd. 

Elusen Slate Heritage International sydd yn gyfrifol am y felin, ac mae gwaith wedi cael ei wneud yn ddiweddar i sefydlogi’r adeilad, gan gynnwys y distiau anferth ddaeth yno o Ganada. Ddechrau Mehefin cafwyd noson agored yn yr Aelwyd er mwyn i’r gymuned gael gwybod am y gwaith sydd wedi digwydd yno, a dechrau rhannu eu syniadau am ei dyfodol. Daeth dros 30 o bobol i’r digwyddiad, a diolch iddyn nhw am rannu eu barn a’u brwdfrydedd.

Bythefnos wedyn, yn ystod yr haul poeth, daeth tua 35 o bobol ar ymweliad i’r felin er mwyn gweld y datblygiadau yno eu hunain. Cafwyd cyflwyniadau yn y felin gan Michael Bewick o elusen Slate Heritage International, y pensaer Rob Chambers, a Dan Amor o gynllun Llewyrch o’r Llechi Cyngor Gwynedd. Roedd yn gyfle i bawb ddechrau dychmygu sut allai dyfodol y felin edrych, a holi cwestiynau am y gwaith gwerth tua £600,000 sydd wedi ei wneud yno i sicrhau nad yw cyflwr yr adeilad yn gwaethygu. Mae croeso i chi gysylltu â fi ar cadi@cwmnibro.cymru i rannu syniadau neu gydag unrhyw gwestiynau.

Gwefan hanes lleol
Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes lleol a diogelu straeon ein bro? Cynhaliwyd sgyrsiau cychwynnol er mwyn trafod sefydlu gwefan hanes lleol ar gyfer Bro Ffestiniog. Byddai’r wefan yn byw dan rwydwaith bro360, prosiect gan Gwmni Golwg i sefydlu gwefannau bro ledled Cymru. Gallai unrhyw un o’r fro greu proffil a chyfrannu pwt o hanes, hen luniau o’r ardal, erthygl hanesyddol, clip sain neu fideo, cyn iddyn nhw gael eu golygu a’u cyhoeddi gan olygydd lleol, y cwbl yn Gymraeg. Hyd yma, mae’r gwefannau eraill yn rhai newyddion lleol a hon fyddai’r gyntaf i gael ei defnyddio yn benodol ar gyfer hanes. Cysylltwch i glywed mwy a mynegi eich diddordeb. Pobol y fro fydd yn siapio’r wefan.

Taith hanes Tanygrisiau
Fore Sadwrn, Gorffennaf 25 bu taith gerdded hanes o amgylch Tanygrisiau yng nghwmni haneswyr lleol. Cyfle i glywed ychydig o hanesion a straeon am y pentref, a dysgu mwy am gefndir y gymuned sydd yn ceisio prynu eu post. 

Cadi Dafydd, Swyddog Datblygu Hanes a Threftadaeth, Cwmni Bro Ffestiniog
- - - - - - - 

Addasiad o erthygl yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2026

 

10.7.25

Cymdeithas Hanes -Atgofion a Chymeriadau!

Dwy noson ddifyr yn cau rhaglen 2024-25 Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog 

Cyfarfu’r Gymdeithas ar nos Fercher, Ebrill 9fed i wrando ar sgwrs ddifyr gan Steffan ab Owain, un o’n haneswyr lleol, ar y testun  Ddoe ni ddaw yn ôl? 

Roedd wedi paratoi cyflwyniad yn llawn o hen luniau'r ardal, lluniau oeddynt yn amlwg yn goglais cof y mwyafrif yn y gynulleidfa ac oedd yn fwy na pharod i wneud sylw a rhoi eu barn wrth ateb gofynion Steffan am eu cof o sawl llun. Noson felly o ddwyn ar gof ac yn ôl Steffan, cwestiwn ydy testun y sgwrs ac nid gosodiad, gan fod y ‘ddoe’ oedd yn y lluniau a ddangoswyd yn dychwelyd yn bur aml yng nghof pawb.  

Aeth Steffan â ni ar daith gan nodi'r hyn a gofiai ar hyn a wnaeth yn blentyn, fel chwarae rowlio teiars i lawr Rhiw Dolwen neu wrth ‘sledjo’ yn Nhalweunydd. Aeth â ni o Ddolwen i fyny i Danygrisiau ac yna nodi atgofion o’r cymunedau a’r strydoedd oedd rhwng post Tanygrisiau a safle’r hen gae ffwtbol lle mae ffatri Metcalfe ers canol 1950au. O ble daeth yr enw crand Haygarth Park tybed?

Chwarel yr Oakeley. Roedd gan Steffan atgofion o chwarae a gweithio yn y cylch fel nifer yn y gynulleidfa yn amlwg. Roedd Steffan wedi cael llawer o’i wybodaeth o’r traddodiad llafar trwy sgwrsio â phobl hŷn ac roedd ganddo gof rhyfeddol am bwy oedd yn byw ac yn ble.

Noson gartrefol a lluniau diddorol oedd yn rhoi cyfle i bawb lynu efo’r testun. 

Diolch i Steffan, mae ganddo wybodaeth anhygoel am ein hardal ac yn wir mae’n gyfeiriadydd penigamp i’r ardal ac yn amlwg wrth ei fodd yn rhannu ei wybodaeth. Ac mae’r nifer sy’n dilyn ac yn amlwg yn mwynhau, ei golofn fisol yn Llafar Bro, sef ‘Stolpia’, wedi dysgu dipyn am yr ardal dros y blynyddoedd. Diolch iddo felly am noson ddiddorol a gwerth chweil.

Nos Fercher, 21 Mai, traddodwyd sgwrs olaf tymor 2024-25 pan ddaeth un o'n haneswyr lleol gorau,
Vivian Parry Williams, i draddodi ar destun gogleisiol, sef Hogia'r Cwt Letrig - y bu ef ei hun yn un ohonynt am y rhan fwyaf o'i yrfa - o 1967 hyd at tua 1991. 

Roedd hynny cyn iddo fynd i Goleg Harlech ac ymlaen i'r Brifysgol ym Mangor ac ennill gradd mewn Hanes.

Y Cwt Letrig yn fan hyn oedd Pwerdy Tanygrisiau a agorwyd yn 1963 ac a newidiodd fywyd rhai o bobl ifanc y fro trwy gynnig cyflogaeth dda a lleol. Yr ‘hogia’ yma oedd ei gyd-weithwyr ... ac fel pob grŵp o weithwyr, ceid cymeriadau ffraeth a doniol gyda'u dywediadau slic, a'r holl gampau a thriciau oedd yn perthyn i'r fath o grŵp o gyd-weithwyr clos! 

Ymysg y grwpiau hynny’r oedd y chwarelwyr, hogia'r post a hogia Crosville - i enwi ond rhai yn Siniog.

Roedd creu llys-enwau weithiau yn grefft ac yn digwydd mewn chwinciad gyda ffraethineb y grwpiau gwaith hyn. Soniodd Vivian am nifer o gymeriadau ac roedd llun ganddo ar y sgrîn trwy gydol y ddarlith i ni gael gweld at bwy yr oedd yn cyfeirio ... llun a dynnwyd tua dechrau'r 1970au. Rhestrodd rai o'r campau a'r doniolwch, ond hefyd, roedd yn talu teyrnged i'r cymeriadau hynny fu'n rhan bwysig o'i fywyd - a chymeriadau yr oedd y mwyafrif yn y gynulleidfa yn eu hadnabod. 

Tua diwedd y sgwrs, talodd deyrnged i Goronwy Owen Davies (Goronwy Post), fel un o'r cymeriadau a ddylanwadodd arno fwyaf yn ystod ei gyfnod yn y Cwt Letrig. Noson ddifyr iawn.

Cyhoeddwyd ar y diwedd fod y tymor drosodd a thalwyd terynged i'r holl siaradwyr am roi i ni dymor mor amrywiol, addysgiadol a difyr. Apeliwyd am siaradwyr ar gyfer y tymor nesaf ... rhoddir gwybodaeth yn Llafar Bro tua mis Medi am amserlen Tymor 2025-26 ...rhowch eich bryd ar ymuno efo ni y tymor nesaf a bydd croeso i bawb wrth gwrs ... hen a newydd. T

Tecwyn Vaughan Jones

- - - - - -

Dwy erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Mai a Mehefin 2025

15.12.24

Y Gymdeithas Hanes -Côr y Moelwyn ar Daith

Gwelodd mis Hydref gyfarfodydd y Gymdeithas Hanes yn ail-gychwyn. Y siaradwr y tro hwn oedd Gareth T. Jones a’i destun oedd Teithiau Côr y Moelwyn ar draws yr Iwerydd yn 1910 ac 1912.

Cychwynnodd gydag ychydig o gefndir yr arweinydd Cadwaladr Roberts o Danygrisiau a chyfeiriodd y gwrandawyr a oedd eisiau mwy o hanes y cerddor nodedig hwn, at erthygl Meredydd Evans yn Rhamant Bro 1991.

Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, llywydd y côr oedd yr aelod seneddol Syr Osmond Williams a phan ddaeth y Brenin Edward VII i agor adeilad newydd prifysgol Bangor yn 1907, gofynnodd i’r côr ganu ar y llong frenhinol tra’r oedd y parti brenhinol yn swpera. 

Yn dilyn hynny, mabwysiadodd y côr y teitl ‘Brenhinol’ yn eu henw, ond dangosodd Gareth ateb a dderbyniodd ei dad (Ernest Jones) oddi wrth y Swyddfa Gartref yn 1973, yn nodi na wnaeth y côr erioed ofyn am ganiatâd i ddefnyddio y teitl hwnnw.

Bu dirywiad sydyn a sylweddol iawn yn y diwydiant llechi yn 1900 ac arweiniodd hynny at lawer iawn o ddynion yn colli eu gwaith neu yn cael torri eu horiau yn y chwareli. 

 

Mae’n dra thebygol bod y gobaith o ennill cyflog da am bedwar mis, wrth ganu yn America, wedi apelio at aelodau o’r côr, a dewiswyd 24 ohonynt i fynd ar daith drwy ogledd-ddwyrain UDA yn niwedd 1909. 

O ddyfyniadau o ddyddiaduron a phapurau newydd y cyfnod, clywyd am lwyddiant ysgubol y daith a’r croeso a gafodd y côr yn ardaloedd Cymreig yr UDA. Daethant adref yn nechrau Mai 1910 (heblaw am bedwar aelod, a ddewisodd aros yno). Yr oeddent wedi canu mewn 115 cyngerdd mewn 118 diwrnod. Fe gostiodd y daith £2,500 (£370,000 heddiw) ac yr oedd £100 yn y banc ar ei diwedd (£15,000).

Tra’r oeddent i ffwrdd, bu farw'r brenin Edward VII a sefydlwyd cronfa er cof amdano i gasglu arian i drechu y ddarfodedigaeth (TB). Gofynnodd y Barwn David Davies (Llandinam) i’r côr fynd ar daith ar draws yr Iwerydd unwaith eto er mwyn casglu arian tuag at y gronfa – a neidiodd Cadwaladr at y cynnig. Y tro hwn, yr oedd y daith am fod yn fwy uchelgeisiol – am fynd coast-to-coast gan dreulio llawer o’r amser yng Nghanada. 

Ymadawodd y côr ym Medi 1911, ond o’r dechrau, ymddangosodd problemau. Nid oedd y trefniadau yn dda, ac yr oeddent yn ymweld â llawer o ardaloedd ble nad oedd llawer o alltudion Cymreig yn byw ynddynt. Wrth iddynt fynd ymhellach tua’r gorllewin aeth pethau o ddrwg i waeth a phenderfynwyd bod y daith yn llyncu’i phen a bod yn rhaid eu galw gartref. 

Cyrhaedd’sant adref ddechrau Chwefror – bedwar mis ynghynt nag a fwriadwyd. Darllenodd Gareth wedyn lythyrau, yr oedd ei dad wedi eu darganfod, rhwng ysgrifennydd David Davies â swyddogion y côr â gwraig y Parch. Silyn Roberts a oedd wedi mynd efo’r côr i siarad yn y cyngherddau i egluro am y Gronfa Goffa. Gwelir o’r llythyrau fod y côr yn anfodlon iawn ar y penderfyniad i’w galw gartref ac yn teimlo eu bod wedi cael cam – ond gwelir hefyd resymau David Davies dros wneud hynny. Yn hytrach na bod wedi codi arian, yr oedd y daith wedi bod yn fethiant ariannol trychinebus. 

Yr oedd colled o £1,000 pan alwyd hwy adref (tua £150,000 heddiw) ac fel ymateb i sylw’r côr am i Davies dorri eu gytundeb â nhw, dadleuai Davies y gallai fod yn dweud mai y côr eu hunain ddylai fod yn atebol am y golled gan mai nhw oedd yn gyfrifol am y trefniadau. 

Yn dilyn hyn oll, fu yna fawr o fri ar gorau meibion yn ’Stiniog am sawl cenhedlaeth. 

Talwyd y diolchiadau gan Tecwyn Williams a fu’n aelod o Gôr y Moelwyn (yn ei newydd wedd) am nifer o flynyddoedd.
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2024


18.10.24

Llys Dorfil- Dyfal Donc

Mae Cymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog wedi cael tymor digon siomedig o ran y tywydd eleni, ond mae’r cloddio a’r hwyl wedi parhau pan fu’n sych ar ddyddiau Llun, Iau, a Gwener.

Mae’r aelodau wedi bod yn astudio’r dystiolaeth hanesyddol sydd ar gael am y safle, er enghraifft gan Owen Jones yn ei gyfrol ‘Cymru’ 1875, ac yn llyfrau ‘Hanes Plwyf Ffestiniog’ gan Ffestinfab (1879) a GJ Williams (1882), sydd i gyd yn son am “wyth neu naw o feddau” a fu yn y cwm ar un adeg. 

Yn rhwystredig iawn, mae'r awdur olaf yn dweud:

 “Dywed traddodiad fod yma feddau, a dangosir y lleoedd tybiedig. Hyderwn gael gwybod trwy archwiliad yn fuan a’i gwir hyn.” 

Ond yn anffodus, ni wyddwn yn lle’n union mae ‘dangosir’ yn ei olygu, nac ychwaith os cynhaliwyd yr ‘archwiliad’!

Llun Paul W

Dyfal donc a dyrr y garreg medden nhw, a gobeithiwn barhau efo’n chwilota ni tra bydd gwirfoddolwyr ar gael i dorchi llewys i geisio gwella ein dealltwriaeth o hanes ein milltir sgwâr. Diolch i Bleddyn Thomas, Cwmbowydd, a’i deulu am eu cefnogaeth i’r gwaith hefyd.     PW
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2024

3.10.24

Stolpia- Damwain Awyren 1952

Y mae gennyf gof o gyffro mawr pan oeddwn yn hogyn a chryn sôn a siarad am ddigwyddiad arswydus rhywle draw tros y mynyddoedd i’r gogledd o Riwbryfdir. Deuthum i ddeall blynyddoedd yn ddiweddarach mai damwain ofnadwy i awyren Douglas Dakota EI-EFL o’r enw ‘Saint Kevin’ yn eiddo i gwmni Aer Lingus, Iwerddon oedd achos y cyffro.

Dyma’r hanes yn fras- Ar y 10fed o Ionawr, 1952 gadawodd yr awyren faes awyr Northolt gerllaw Llundain a hedfan draw am Ddulyn yn Iwerddon gyda 20 o deithwyr a thri aelod o’r criw arni hi. Yn ystod yr ehediad cysylltodd y criw â’r goleudwr yn Daventry, ger Northampton am 5.56 yr hwyr yn ddiffwdan, a dweud mai’r pwynt nesaf i adrodd yn ôl a fyddai Nefyn ym Mhenrhyn Llŷn. Gyda llaw, roedd hi i fod i gyrraedd maes awyr Dulyn am ddeng munud wedi wyth (8:10) y noson honno. 

Pa fodd bynnag, tra roeddynt yn hedfan oddeutu 6,500 troedfedd uwchlaw Bwlch Rhediad, nid nepell o Nant Gwynant ger Beddgelert plymiodd yr awyren a cholli ei hadain dde yn dilyn tyrfedd (h.y. cynnwrf chwyrn o aer), neu efallai oherwydd bod rhew wedi casglu arni hi, ac aeth ar ei phen i ganol y gors yng Nghwm Edno gan ladd pawb a oedd ar ei bwrdd.

Clywyd sŵn yr awyren yn taro’r ddaear gan rai yn Nant Gwynant am 7:10 a gwelwyd goleuni llachar o leoliad y gwrthdrawiad, ac o ganlyniad, ffoniwyd yr heddlu yng Nghaernarfon. Ymhen amser, ac erbyn hanner nos, roedd oddeutu cant o bobl wedi ymgasglu i chwilio amdanynt drwy’r tywydd anghynnes gan gynnwys aelodau o’r heddlu a’r gwahanol awdurdodau. 

Dywedir bod yr adain a gollwyd oddeutu 200 llath oddi wrth weddill y malurion, a’r unig beth a welwyd ger y darnau drylliedig oedd doli merch fach a laddwyd arni hi. Ceisiwyd cael cymaint o’r rhai a gollodd eu bywydau oddi yno a’u hadnabod, ond nid oedd hynny yn bosib gyda’r cyrff yn nyfnder y gors. Cafwyd hyd i rai fodd bynnag a chladdwyd 12 ohonynt ym mynwent newydd Llanbeblig, Caernarfon. 

Cysegrwyd y fan lle digwyddodd y ddamwain ar 17 Ionawr a rhoddwyd ffens oddi amgylch y fynwent. Gosodwyd carreg goffa hefyd gan Barc Cenedlaethol Eryri nid nepell o’r fangre. 

Roedd y ddamwain hon yn cael ei chyfrif fel un o’r rhai gwaethaf i awyrennau, ac yn 10fed ar y rhestr ym Mhrydain ar y pryd. Dyma lun o safle’r ddamwain ychydig ar ôl y gwrthdrawiad-

Dau aelod o’r heddlu yn chwilio gweddillion yr awyren

Awyren fel hon a gollwyd yn y ddamwain ofnadwy yng Nhwm Edno yn 1952






- - - - - - - - - - - - -

Erthygl gan Steffan ab Owain a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2024



21.9.24

Bwrw 'mlaen efo gwaith yr Aelwyd

Erthygl gan Dewi Prysor
Tydi hanes ddim yn ddiog. Mae o’n aros i rywun ddod o hyd i’w stori. Ac rydan ninnau yn aros am ddarnau o hanes, hefyd. Pan ddaw rhywun o hyd i hen botel, neu hen grair, hen ddarn o arian yn y pridd, neu lyfryn yn yr atic, a hen ganeuon a cherddi yn dy dynnu... at dy hendeidiau. Mae ein olion yn y gwreiddiau, a’n gwreiddiau yn ein olion ninnau. 

Rydw i’n defnyddio gryn dipyn o eiriau Ernest Jones yn ei lyfr gwych Stiniog yma. 

“Daeth Urdd Gobaith Cymru i’r Blaenau yn 1926, gan sefydlu eu hunain yn festri eglwys Brynbowydd o dan ofal J.R. Jones, gŵr oedd hefyd yn gof chwarel. Wedyn, symudodd Aelwyd yr Urdd i’r Ysgol Ganol cyn prynu hen neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth yn y flwyddyn 1940.  Bu clwb o arlunwyr swil yn cael defnyddio Aelwyd yr Urdd yn y pumdegau; ‘swil’ oherwydd mai nhw eu hunain roddodd yr enw ‘Y Clwb Poetsio’ ar eu sefydliad. Ond y gwirionedd oedd bod arlunwyr medrus iawn yn ymysg yr aelodau. Ac yn Aelwyd yr Urdd y dechreuodd y Clwb Camera hefyd. Debyg mai symud i’r Ganolfan Gymdeithasol yr aethon nhw ar ôl i’r Ganolfan agor yn 1978.” 

Diolch eto fyth am eiriau haneswyr yr ardal. 

“Gwasanaethodd yr Ysgol Frutanaidd, Dolgarreg-ddu, fel neuadd ychwanegol yn ystod yr 18ed ganrif. Ar ôl rhyfel mawr 1914-18  fe’i galwyd hi yn Drill Hall gan gynnal cyfarfodydd ynddi yn achlysurol. Defnyddwyd y Central Hall hefyd (sef barics Byddin yr Iachawdwriaeth) fel neuadd gyhoeddus ar brydiau, a bu Leila Megane yn canu yno unwaith.” 

DATGELU ATGOFION WRTH ADFER YR AELWYD

Yn y flwyddyn 1887 daeth Byddin yr Iachawdwriaeth i Stiniog. Ac yn yr hen Neuadd Gyhoeddus y cynhaliwyd eu cyfarfodydd cynnar, gan ddefnyddio Hen Gapel Rhiw cyn symud i’r Barics yng nghanol y dref, a symud drachefn i ardal Bodafon. Roeddan nhw hefyd yn cynnal gwasanaethau o gwmpas y dref yn yr awyr agored – fel maen nhw’n wneud o gwmpas y Nadolig heddiw. 

Mae geiriau ar dalcen yr Aelwyd yn wynebu’r ffordd a’r bont, ond codwyd portsh dros fynedfa’r neuadd ac mae crib y portsh yn cuddio canol y geiriau. Yn wir, anodd ydi deall y llythrennau sydd yn y golwg hefyd. 

Mae ‘BARRICKS BYDD___’ ac ar yr ochr arall o’r portsh mae ‘___IAITH’; Barricks Byddin yr Iachawdwriaeth, debyg iawn. Hefyd, mae’n edrych fel bod geiriau eraill wedi bod yno o’r blaen, ac anodd iawn ydi darllen y geiriau hynny. ‘Central Hall’ efallai? 

Diolch eto i haneswyr lleol, ac i’r adeiladwyr hefyd a fu’n pigo’r wal rendro tu allan. Dyma sut mae hanes yn gweithio weithiau. Aros, ac aros ymysg y meini, a daw’r hen straeon i’r golwg. 

Mae dwy lechan yn y wal efo geiriau arnyn nhw – ond enwau personau. Fel y gwelwch gyda’r lluniau, ar un llechan mae enw ‘Dr EVANS’ gyda’r gair ‘LOVE’ odditano. Ac ar y llechan arall mae enw ‘A. DUNLOP’ ac o dan i’r enw mae’r gair ‘PEACE’.

Enw Alexander Dunlop sydd ar yr ail lechan hon, ac os welir rhywun yn iawn mae llythyren ‘M’ felen yn y canol rhwng yr ‘A’ a’r Dunlop, fel y petai nam ar y llechan neu fod y gwaith hacio wedi malu’r ‘M’. Rydw i wedi methu cael hyd i Alexander M. Dunlop, ond mae Ernest wedi cael hyd i Alexander Dunlop, roedd o’n un ymysg rhai oedd yn gweithio i gael mwy o ysgolion i blant niferus y Blaenau. Ei gri oedd bod angen darparu addysg wyddonol i’r plant, ac wrth gwrs fe godwyd pwyllgor i ystyried y mater. 

Felly, mae’n debyg ein bod wedi cael hyd i un o’n dynion sydd ar y llechi. Rwan, am y llall. Wel, dim ond llond llaw o ddoctoriaid efo’r enw Evans fu yn ystod y 120 mlynadd rhwng y ddwy ganrif, yr 18ed a’r 17ed. Ond mae un ddoctor yn tynnu sylw. 

Ernest Jones eto:

“Un o wŷr pwysig eglwys Seion oedd y meddyg R.D. Evans, cyfaill bore oes i David Lloyd George; yr oedd y gwladweinydd yn ymweld â theulu Dr. Evans yn achlysurol. (Roedd cysylltiad teuluol hefyd oherwydd i Olwen Lloyd George briodi Thomas Carey Evans, mab y meddyg.) Bu adeg cyn hynny pryd y cadwai Lloyd George swyddfa yn y Blaenau a thrafeilio iddi efo’r trên bach.

Gallai eglwys Seion, felly, ymfalchîo yn y ffaith y byddai Lloyd George yn y gynulleidfa yn achlysurol efo teulu’r meddyg. Yn wir, dywedid bod Lloyd George fwy nag unwaith wedi rhoi cyngor i weinyddwyr eglwys Seion.” 

Ai Doctor R.D. Evans yw’r doctor hwn, fo sydd ai enw ar y llechen, ‘LOVE’? 

Dyna beth arall mae hanes yn ei wneud, sef eich gadael i wneud y gweddill o’r gwaith. Datgelu hanes. A datgelu atgofion at y tro nesaf.
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2024

Prynwyd yr hen aelwyd gan Antur Stiniog i'w adnewyddu fel adnodd i'r gymuned. Mae Dewi yn gweithio i Gwmni Bro Ffestiniog. 


To Llys Dorfil

Y consensws yw fod gan y tŷ tŵr yn Llys Dorfil do llechi. Darganfuwyd darnau o lechi wrth gloddio yno, rhai gydag ymyl befel wedi eu trin â chyllell naddu, mae hyn yn awgrymu to llechi, ond heb ddim cadarnhad. 

Yna ar ein chweched tymor o gloddio, eleni, darganfuwyd mwy o brawf ar ffurf llechen to wedi ei naddu a thwll hoelen ynddi, yn hytrach na’r twll peg pren disgwyliedig. Y dull cynharaf a ddefnyddiwyd ar gyfer to llechi oedd pegiau pren wedi'u sgwario'n fras, 30 – 40mm o hyd a tua 10mm o drwch, ac wedi'u naddu yn bwynt ar un pen.  Roedd y rhain yn cael eu gwasgu i mewn nes eu bod wedi'u cydio gan ymylon miniog y tyllau peg.

Darn o lechen Llys Dorfil a thwll hoelan ynddi (y blaen ar y chwith, a’r cefn ar y dde)


Defnyddiwyd llechi yng ngogledd Cymru cyn dyfodiad y Rhufeiniaid; gwelsant beth oedd y bobl leol yn ei ddefnyddio i doi, a gwella’r dull.  Roedd y darn o lechen to a ganfuwyd yn llwyd canolig 5-N5 yn y Siart Lliw Creigiau (ailargraffwyd – 1980), ac yn 8.5mm o drwch.
Ymddengys fod y twll, wedi ei yrru o ben blaen y lechen gydag olion rhwd arno, gyda hoelen haearn wedi ei yrru i’r estyll, ac nid hongian arno. 

Roedd y lechen hon yn awgrymu ei bod yn eiddo i berchennog cyfoethog, ac nid o dŷ cominwr, lle roedd pegiau pren yn cael eu defnyddio, yn hytrach na hoelion haearn. Mae'r dystiolaeth hon o do llechi gyda hoelion haearn yn cryfhau ein damcaniaeth bod Llys Dorfil yn dŷ caerog yn hytrach nag yn dŷ cyffredin.

Llechi to Rhufeinig o Llidiard Ysbyty, Tremadog
Darganfuwyd y llechi hyn gyntaf ym 1908 gan Edward Breese, archeolegydd a chyfreithiwr lleol.  Ail ddarganfwyd llechi to y baddondy Rhufeinig yn Llidiard Ysbyty (Ysbyty Alltwen,Tremadog) rhwng 2010/11 wrth wneud ffordd osgoi Porthmadog A487 o Benrhyndeudraeth i Benmorfa.  

Llechi to Rhufeinig o Llidiard Ysbyty, Tremadog

Roedd y llechi to Rhufeinig a ddarganfuwyd yn Llidiart Ysbyty, o faint safonol (‘Pes’ oedden nhw’n galw troedfedd safonol). Gyrrwyd y twll hoelen o ben blaen y lechen, gan adael ceudod yn y cefn. Mae'r dull hwn yn hollol groes i do llechi mwsog, lle gyrrwyd y twll o gefn y lechen ai hongian ar estyll gan beg pren.  Roedd y dull olaf hwn yn caniatâu i'r ceudod fod ar ochor flaen y lechen, a olygai y gellid gosod y peg pren yn y ceudod, a chaniatâu i'r lechen gael man gwastad i orwedd. Roedd mwsog wedi'i bacio o dan y llechi i atal drafft rhag chwythu llwch ac eira i'r gofod yn y to. Felly daw’r enw, cerrig neu llechi mwsog.

Bill a Mary Jones 

- - - - 

GWYBODAETH YDI’R TRYSOR PWYSICAF!
Dyna ddywed Bil Jones, sy’n arwain y cloddio archeolegol ar safle Llys Dorfil yng Nghwmbowydd, pan soniodd rhywun mor braf fysa darganfod trysor ar y safle!

> Darllen mwy

 

Ymddangosodd y ddwy erthygl uchod yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2024

 

25.7.24

Y Gymdeithas Hanes- Llys Dorfil

Roedd nos Fercher, Mai 18fed yn noson braf a daeth nifer fawr i gyfarfod olaf y tymor. Tymor a fu’n llwyddiannus iawn mewn perthynas i amrywiaeth y testunau ac yn wir y niferoedd a ddaeth i wrando.
Mae’r mynychwyr wedi cynyddu drwy’r tymor a gobeithio y cawn sesiynau'r un mor llwyddiannus y tymor nesaf. 

Coronwyd y tymor trwy gael Bill a Mary Jones i ddisgrifio a phendroni dros y gwaith sydd wedi ei gyflawni ar safle Llys Dorfil yng Nghwm Bowydd. 

Mae Llys Dorfil yn adnabyddus i bawb bellach, mae wedi wedi ennyn diddordeb lleol a cheir archeolegwyr o’r fro yn gweithio gyda thîm o’r fro a bob amser yn rhannu’r wybodaeth yn gyson gyda thrigolion y fro. 

Rhan o sfale Llys Dorfil a'r Blaenau yn y cefndir. Llun Paul W

Mae Bill a Mary wedi arwain a chyflawni gwaith pwysig yn cloddio ar y safle hwn ac wedi dod a Llys Dorfil yn ôl fel rhan o’r cof cymunedol. Tybir mai safle amgaeedig (Lloc) o’r Oesoedd Cynnar, oedd yn cael ei ddisgrifio fel prin yn weladwy ac yn adfeiliedig cyn i’r cloddio ddechrau.

Ers 2018 mae’r tîm cloddio wedi darganfod bod y safle yn cynnwys adeilad crwn a nobl. Mae’n glamp o safle. Sicrhawyd sawl arteffact e.e.. pennau saeth llechi wedi eu gweithio â llaw a cherrig llechi glas gydag engrafiadau arnynt. 

Cafwyd rhai darganfyddiadau anarferol, e.e.. wrth gloddio am dystiolaeth o aelwyd, darganfu'r tîm ychydig iawn o dystiolaeth o losgi ond canfuwyd bod pren tua 0.75m o dan wyneb y llawr. 

Darganfuwyd pensel fetel (ar gyfer creu lluniau, geiriau a symbolau)). Hefyd daeth modrwy i’r fei.
Dyma ddywedodd Rhys Mwyn yn ei flog ar ôl ymweld â’r safle yn fuan wedi i’r cloddio ddechrau yn 2018.

Newydd ddechrau cloddio yn Llys Dorfil ar gyrion Tan y Grisiau / Blaenau Ffestiniog mae Bill a’r criw. Y Gymraeg yw iaith naturiol y gwaith hyd yn oed os yw’r di-Gymraeg yn ymuno. Perthyn i le mae’r criw – pobl Blaenau, pobl Tan y Grisiau, pobl y fro – gyda gwybodaeth eang, dealltwriaeth eang.

Does dim diwrnod gwell i’w gael nac ymuno gyda chriw fel hyn yn yr awyr agored, i gloddio, gyda golygfeydd hyfryd draw dros Gwm Bowydd tuag at Blaenau ar y gorwel. 

Rwyf wedi cyfeirio at y criw yma sawl gwaith dros y blynyddoedd yn y golofn hon wrth grybwyll gwaith ardderchog Bill Jones a’r criw yn cloddio ym Mhenamnen, Ffynnon Elen/Elan (Dolwyddelan), chwarel cerrig hogi Moel Siabod neu yng Nghwmorthin.

Cafwyd disgrifiadau o rai o’r hyn a ddarganfuwyd hyd yn hyn gan Bill, Mary a’r tîm ar y safle a chafwyd damcaniaethau archeolegol a sut adeiladau fuasai’n debygol o fod wedi cael eu codi ar y safle pwysig hwn. 

Roedd lluniau di-rif a chafwyd cyfraniadau gan Bill Mary yn eu tro. Dyma bartneriaeth ardderchog yn amlwg! 

Diflannodd awr mor sydyn a buasai awr arall hyd yn oed ddim wedi gwneud cyfiawnder a’r gwaith! Edrych ymlaen at ddarganfyddiadau pellach dros yr haf eleni. Roedd y Gwaith cloddio yn ailddechrau ddiwedd mis Mai.

Yn y llun yma gwelir Bill a Mary Jones sy’n arwain y tîm cloddio a Dafydd Roberts, Cadeirydd y Gymdeithas Hanes ac un o aelodau'r tîm. 

TVJ

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mefehin 2024

 

6.7.24

Y Gymdeithas Hanes -mewn cymeriad

Yng nghyfarfod mis Ebrill o’r Gymdeithas Hanes, cafwyd noson wahanol! Yn hytrach na darlith am berson hanesyddol cafwyd sgwrs gan berson hanesyddol ei hun. 

Ymddangosodd Siân Roberts, Harlech fel Mrs Samuel Holland, wedi ei gwisgo yng ngwisg ganol y 19eg ganrif. Ei bwriad oedd rhoi hanes ei gŵr Samuel Holland gan gymryd rôl ei wraig. Mae cymeriadu fel hyn yn fwyfwy boblogaidd fel dull mynegi, yn enwedig i gyfleu hanes person. Mae Siân Roberts yn cymeriadu nifer o ffigyrau hanesyddol ac mae’n Ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Harlech yn gweithio yn y byd twristiaeth ac wedi ei hyfforddi fel Tywysydd Bathodyn Glas Cymru. Yn hanu o Sir Y Fflint mae wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn.


Ganwyd Samuel Holland ym 1803 yn Lerpwl yn fab i Samuel a Katherine (née Menzies) Holland, a'i fedyddio yng Nghapel Presbyteraidd Paradise Street Lerpwl yn 1804. Roedd ei dad wedi buddsoddi yn helaeth yn y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru. Cafodd ei addysgu mewn ysgolion preswyl yn Lloegr a'r Almaen. 

Yn 18 oed yn 1821 fe'i danfonwyd i oruchwylio mewn chwarel lechi newydd ei dad yn Rhiw, Blaenau Ffestiniog ar dir a osodwyd ar rent gan William Oakeley, a bu fyw ym Meirionnydd am weddill ei oes. Bu’n rheoli'r chwarel hyd 1877 ac wedyn aeth y chwarel yn rhan o weithiau chwarel fawr yr Oakeley. 

Ei ail wraig oedd Anne Rose Robins (ein darlithydd ar y noson) a briododd Samuel ym 1850 yn Allesley, Coventry. Bu Samuel Holland yn aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Meirionnydd am 14 mlynedd gan ennill dwy etholiad yn gyffyrddus efo dros 60% o'r bleidlais a chael ei ethol yn ddiwrthwynebiad unwaith. Cofir am Samuel Holland yn bennaf fel un o arloeswyr y diwydiant llechi yn ardal Ffestiniog.

Bu yn un o'r prif gymhellwyr i adeiladu Rheilffordd Ffestiniog i gysylltu'r gweithfeydd llechi yn Ffestiniog a phorthladd Porthmadog. Yn ogystal bu hefyd yn un o brif gefnogwyr sefydlu Ysgol Dr Williams, ysgol fonedd i ferched yn Nolgellau gan brynu a thalu am y tir yr adeiladwyd yr ysgol arno fel rhodd i'r ymddiriedolwyr. Bu farw Rhagfyr 27 1892 yn 89 oed. 

Cofir am Samuel Holland a’i chwarel yn enw rhes o dai sydd islaw Fron Fawr sydd â golygfa wych i gyfeiriad yr hen chwarel uwchlaw tomen fawr chwarel yr Oakeley
 [TVJ]
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2024


12.5.24

Yr Aelwyd

Erthygl o rifyn Mawrth 2024

Mae cwmni Antur Stiniog wedi llwyddo i brynu hen Aelwyd yr Urdd, ac erbyn hyn mae’r cynlluniau yn barod a’r adeiladwyr hefyd yn barod i ddechrau ar eu gwaith. Pan fydd yr Aelwyd yn barod, bydd yma gyfle gwych i bobol ifanc y fro gael gofod ddelfrydol i greu Hwb gwych reit yng nghanol y dref – canolfan fydd yn cynnig pob math o weithgareddau i’n ieuenctid. 


 

Hefyd, yn ystod yr amser y bydd yr adeiladwyr yn gweithio ar yr Aelwyd, mi fydd Cwmni Bro Ffestiniog yn trefnu llawer o weithgaredd diddorol trwy gydol y flwyddyn sydd yn dod – cyfleon difyr i'r ieuenctid gael cymryd rhan yn eu cymuned, eu cymdeithas a'u diwylliant, er mwyn iddyn nhw greu cymuned gref a bywiog, a dysgu crefftau wrth wneud hynny. Rhan bwysig o hyn fydd clybiau ieuenctid fel Clwb Clinc yn Cell, Clwb Cic yn y Clwb Rygbi a Cell, a chriw ieuenctid GISDA, a gallu cydweithio gyda phawb – yn enwedig Ysgol y Moelwyn, sydd wastad yn barod i gydweithio trwy fynd â’r plant efo ni i weld hanes y fro, a’r henebion sydd yma yn yr ardal, trwy fenter Cynefin a Chymuned, ac hefyd i farddoni a chreu celf a mwy.  

Creu, creu, creu! Yn ogystal â chelf a cherddi gan blant yr ysgol, mae digon o adnoddau yn y dre i’r plant gael syniadau, megis baneri, murluniau a graffiti dychmygus, creu pamffledi, crysau-T, bathodynnau a mwy. Bydd yr ieuenctid yn dysgu sut i drefnu gigs gan fandiau yr ardal, ac hefyd yn helpu trefnu Gŵyl Car Gwyllt a dod yn ran bwysig o’r ŵyl, a mwy, fel bod yr ieuenctid yn dod yn rhan neilltuol o’r gymuned ac yn teimlo fel eu bod hwythau yn ran bwysig o’u tref, yn ieuenctid positif efo balchder yn eu bro – ac hefyd yn rhan o Gymru a’r dyfodol.

Tra bo’r Aelwyd yn cael ei adeiladu, byddwn yn mynd a'r ieuenctid am dro i ddysgu am hanes ein bro, gan weld henebion yr ardal, â mynd i weld archaeolegwyr yn cloddio, a chael helpu'r archeolegwyr hefyd. Yn ogystal, mi fyddwn yn mynd â'r criw ifanc i weld sut mae'r systemau hydro lleol yn gweithio, diolch i fenter GwyrddNi, sut y mae ailgylchu yn cael ei ddefnyddio, a llawer, llawer mwy. 

Mae llu o bethau yn barod ar gyfer y plant, o Chwarel Rhiwbach a’r dramffordd yn ôl i’r dref, Sarn Helen, Bryn y Castell lle fu’r Celtiaid yn creu haearn allan o fawn (bog-iron), y tir tu allan i faes Tomen y Mur, Castelli Cymreig, Llys Castell Prysor, Ranges Trawsfynydd, meini hirion, carneddi a siambrau claddu, a bryngaerau ardal Harlech a Dyffryn Ardudwy. Yn ogystal, yn ystod yr wythnos nesaf, mi fydd plant yr ysgol yn cael mynd i weld yr Aelwyd, iddyn nhw gael gweld y potensial sydd yno. Byddwn ni wedyn yn gofyn iddyn nhw sgwennu cerddi a chreu celf a fydd yn dweud be fath o weithgaredd fyddan nhw’n licio ei weld yn yr Aelwyd. 

Bydd yr Aelwyd yn cynnig pob math o weithgareddau i’r ieuenctid lleol, a syniadau yr ieuenctid fydd y cwbl. Yr ieuenctid fydd yn llywio’r project. Creu celf a barddoniaeth, graffiti clyfar a murluniau, cynnal nosweithiau fel stand-yp, actio, sgetshis, creu ffilmiau byr, cerddoriaeth, meic-agored i’r ieuenctid ddod i’r llwyfan efo’u offerynnau, neu gomedi a ballu, trefnu noson Stomp, neu drefnu Beirdd v Rapwyr. Bydd lle i arluniau y bobl ifanc ar y waliau a’r to, neu ar y tu allan. Bydd lle i chwarae pool, darts, tenis bwrdd, dysgu recordio caneuon, dysgu creu miwsig gyda meddalwedd stiwdio, dysgu DJ'io, rapio, a dysgu offerynnau cerddorol. Bydd digon o le yno i bractisio yn un o’r stafelloedd. Mi ddaw yr ieuenctid at ei gilydd i greu caneuon gyda help ei gilydd, ac erbyn hynny bydd PA ar gael i’r bandiau hyfforddi neu berfformio i’w ffrindiau.

Gyda’r stafell uwchben bydd byrddau isel a cwshins ac ati, lle mae gallu tshilio i siarad neu sgwennu, darllen neu wneud celf, ffotograffiaeth, rhannu miwsig, neu chwarae gemau bwrdd, a siarad a casglu syniadau, creu posteri a sgwennu cerddi, sgriptio a hyd yn oed dechrau nofel! Gyda chamerâu a stiwdio olygu bydd yr ieuenctid yn gallu gwneud ffilmiau byr – tua 10 munud yr un. 

O dan yr ystafell uchel, mae stafell tech (stiwdio miwsig, stiwdio golygu ffilmiau a.y.b.), a stafell arall ble bydd caffi cŵl – a’r ieuenctid fydd yn rhedeg y caffi hwnnw, yr ieuenctid fydd yn rheoli. Bydd y caffi efo vibe cool a chilled, fel yn y stafell uwchben. Fan hyn gewch chi greu mwy o syniadau efo’ch gilydd. Syniad arall ydi rhoi sgrîn, neu ddau neu dri teledu ar y walia, er mwyn i’r ieuenctid wylio DVDs, gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol – a llawer mwy. Caiff yr ieuenctid ddylunio posteri, crysau-T a bathodynnau, a dysgu i ddefnyddio peiriannau celf. 

Mae cymaint o weithgaredd yn aros yr ieuenctid. Rydym yn gobeithio bydd y plant yn deall sut i ymateb i broblemau’r byd, o’r hinsawdd i’r rhyfeloedd a’r cwmnïau mawr yn codi biliynau o arian tra bod bwyd a nwy yn rhy ddrud i bobl fel ni. Rydan ni’n gobeithio y bydd yr ieuenctid yn tyfu i fod yn bobol ifanc cydwybodol, gan obeithio y byddan nhw’n trio gwneud rhywbeth am y problemau hyn. 

Mae mentrau gwych yn Stiniog, sydd yn gwneud pethau gwirioneddol dda. Bydd gweld be mae’r mentrau hyn yn wneud yn siŵr o agor llygaid yr ieuenctid. Tybed mae ein ieuenctid ni fydd yn achub ein ardal, ein cymuned, Cymru a’r Gymraeg, a’r byd? Gyda hyn, rydym am helpu’r plant i greu deisebau os oes rhywbeth yn eu poeni, a sut i’w gyrru nhw i’r gwleidyddion (a cofiwch y cewch bleidleisio o oed 16 i fyny). 

Bydd ‘Yr Aelwyd’ yn hwb llawn creadigaeth, dychymyg a syniadau, ac yn lle cŵl i’r ieuenctid ei ddefnyddio. Lle i greu, lle i drefnu, a lle i tshilio, heb rywun yn dweud wrthyn nhw be i wneud. Gaiff yr ieuenctid reoli, yn creu eu rheolau eu hunain. Yr ieuenctid fydd ‘in charge’!
Dewi Prysor



22.3.24

Hen Furddunod a Phwerdy

Y siaradwr yng nghyfarfod Ionawr Cymdeithas Hanes Bro Ffestinog oedd Steffan ab Owain. Daeth criw da ynghyd i'w glywed yn traddodi ei drydedd darlith ar hen furddunnod y plwyf. 

Y tro hwn cychwynnodd gyda hanes Llennyrch y Moch a Thŷ Coch yn y Manod, cyn symud i dai a safai ger Llyn Dubach yn Chwarel Dŵr Oer. 

Oddi yno aeth â ni at Lyn Bowydd a Llyn Newydd ble yr oedd Hen Dŷ'r Mynydd a Thŷ'r Mynydd gan adrodd hanesion am drigolion yr annedd-dai hynafol hynny. 

Gorffennodd ei sgwrs gyda hanes y tai a oedd yn chwareli Maenofferen a Lord, sef Tyddynnod Maenofferen, Quarry Bank, Tŷ Pwdin, Tai Defn a'r Tŷ Uncorn Uchaf.

Cafwyd trafodaeth ddifyr ar y diwedd a rhannwyd straeon am gymeriadau a oedd yn byw yn rhai o'r hen gartrefi. Diolchwyd i Steffan gan Gwyn Lloyd Jones o'r Bala, sy'n aelod ffyddlon o'r gymdeithas.

Eifion Lewis oedd yn rhoi darlith cyfarfod Chwefror, a'i destun oedd Pwerdy Maentwrog. Cawsom hanes creu Llyn Trawsfynydd ganddo ac adeiladu'r argaeau gwreiddiol yn y 1920au; helaethu'r llyn yn y pumdegau efo camlesi, a'r argae newydd yn y 1990au.

22.10.23

Barn ar Dreftadaeth Llechi

Dau ddarn o rifyn Medi 2023

Colofn y Pigwr

Daeth copi o bapur newyddion Cyngor Gwynedd drwy dwll llythyrau trigolion yr ardal hon ychydig wythnosau’n ôl. Ar y dudalen flaen gwelir pennawd a fyddai’n codi calonnau darllenwyr, yn sicr. Dyma ddywed y geiriau gobeithiol hynny:

‘Tair ardal i elwa ar hanes y chwareli’.

Dyma’r math o eiriau ddylent fod yn ysbrydoliaeth i ardalwyr canolfannau llechi’r gogledd, gan gynnwys ni, breswylwyr prifddinas llechi’r byd, Blaenau Ffestiniog. Ond arhoswch funud, a darllenwch yn fanwl yr hyn sydd gan yr ‘arbenigwyr’ honedig ar ddosbarthu arian a ddaw i goffrau cymunedau’r garreg las dan gynllun a elwir yn ‘Llewyrch o’r Llechi’.  

Llun- Paul W
Cadwch mewn cof mai ‘dan arweiniad Cyngor Gwynedd’,  wedi i’r Cyngor hwnnw dderbyn cymorth ariannol o Gronfa Ffyniant Bro y Llywodraeth, y daeth y newyddion da i olwg y cyhoedd. £26 miliwn yw’r swm a glustnodwyd ar gyfer gwaith megis, a dyfynnaf eto... ‘trawsnewid Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis; sefydlu canolfannau dehongli ac ymgysylltu ym Methesda a Blaenau Ffestiniog’... ynghyd â briwsion eraill.

Fel y gwyddom, bu’r Gymdeithas Hanes leol yn y Blaenau wrthi ers blynyddoedd yn ceisio argyhoeddi Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru o bwysigrwydd cael Canolfan Dreftadaeth i’r dre’ – PRIF Ganolfan lechfaol y BYD!  Ond er cynnal nifer fawr o gyfarfodydd, llawn siarad gwag yn aml, gyda swyddogion dylanwadol o’r ddau sefydliad uchod, dal i aros yr ydym am gymorth tuag at gael codi adeilad haeddiannol i gofio am gyfraniad y chwareli, a’u gweithwyr, tuag at economi’r ardal, Cymru a Phrydain dros y blynyddoedd. Onid yw’r fro hon, oedd unwaith yn cyflogi bron i bum mil yn ei chwareli niferus (mwy na sy’n byw yma bellach!) yn deilwng o gael y gydnabyddiaeth y mae yn ei haeddu?

A pham rhoi blaenoriaeth i bentre’ Llanberis dros dref oedd yr ail fwyaf, ar ôl Wrecsam o ran poblogaeth, dechrau’r 20fed ganrif? Onid rhwbio halen i friw oedd datblygu’r amgueddfa yn Llanberis, ac yn waeth fyth y sarhad o chwalu rhes o dai chwarelwyr gynt yn Nhanygrisiau yn y 1990au, a’u hailgodi ar safle’r amgueddfa newydd yn Llanbêr. Onid yw’n amser i gynghorwyr, tref a sir, a chynrychiolwyr eraill i fynd ati i ofyn sawl cwestiwn perthnasol, er lles ein cymuned yma?  

Mae angen atebion i ambell ddatganiad gan ‘arweinwyr’ y Cyngor Sir, parthed datganiadau yn yr erthygl yn ‘Newyddion Gwynedd’.  Yn gyntaf, beth yw’r cynlluniau i ‘drawsnewid Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis’, a faint o gyfran o’r £26 miliwn o bunnoedd fydd hynny?  

Yn ail, a chwestiwn pwysig i ni ym mhlwy’ Ffestiniog, beth yw'r ‘canolfannau dehongli’ a fwriedir i’w codi yma ac ym Methesda, a faint o gyfran o’r arian mawr gaiff ei neilltuo ar gyfer hynny tybed? Byddai’n newyddion aruthrol o dda cael gwybod mai Canolfannau Treftadaeth, yn cael eu rhedeg dan nawdd Amgueddfa, neu Lywodraeth Cymru fyddai’r ateb. Ystyriwch hyn: Oni fyddai’r math hyn o ddatblygiad yn fendith hir-ddisgwyliedig i economi Blaenau Ffestiniog, a’i phobl, wedi gorfod diodde’ dirywiad anferthol yn ei heconomi, ar bob lefel. Nid wyf am ddechrau cofnodi ystadegau’n ymwneud a’r dirywiad a ddaeth heibio’r hen dre’ dros y blynyddoedd diweddar, ond mae’r cyfnod fel cymdeithas drefol lwyddiannus wedi mynd heibio ers tro.

Bu i aelodau o’r Gymdeithas Hanes gyfarfod â swyddogion yn cynrychioli Llywodraeth Cymru a’r Amgueddfa Lechi, Llanberis yn ddiweddar, a chael gwybod bod cymaint â thros 30 yn cael eu cyflogi yn amgueddfa Llanberis bob haf, a miloedd o ymwelwyr yn dod yn eu ceir a’u bysiau yno’n swydd bwrpas i gael hanes y diwydiant oedd mor flaenllaw yno. Na, dim sôn am gyfraniad chwarelwyr Blaenau Ffestiniog i’r diwydiant hwnnw o gwbl. Onid ydi’n hen bryd i gyfraniad y gweithwyr diwyd rheiny gael ei gydnabod deudwch?  A fyddai’n ormod disgwyl i chithau, ddarllenwyr brwd Llafar Bro i roi pin ar bapur a chysylltu â’r sefydliadau ac unigolion sy’n euog o gau llygaid i sefyllfa echrydus eich annwyl gynefin?

Mae Blaenau Ffestiniog, fu unwaith yn dref lewyrchus iawn, gyda dyfodol disglair iddi yn wirioneddol grefu ar rywun ddechrau gwrando, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.  Pigwr

Be ydych chi’n feddwl? Ydych chi’n cytuno efo’r Pigwr? Gyrrwch air! -Gol.

- - - - - - -

Tai Fron Haul

Dair blynedd yn ôl roedd yr Amgueddfa Lechi yn ‘dathlu’ symud tai Fron Haul o Danygrisiau i Lanberis, ac fe gyhoeddwyd llawer o'u deunydd hyrwyddo yn rhifyn Medi 2020 Llafar Bro.

Roedd son bryd hynny am osod bwrdd dehongli ar safle gwreiddiol y tai, ond hyd yma, does dim golwg o unrhyw weithgaredd ar y safle, ac mae cyflwr truenus yno.

Mi holodd Llafar Bro nhw ynglŷn â'u bwriad -neu beidio- i osod bwrdd gwybodaeth ar y safle. Meddai pennaeth yr Amgueddfa:

“Yn dilyn y prosiect yr ydych yn cyfeirio ato, bu trafodaeth ynglŷn â gosod bwrdd dehongli neu blac ar safle gwreiddiol tai Fron Haul. Trefnwyd cyfarfod efo’r cynghorydd tref, lle cadarnhawyd bod y tir mewn dwylo preifat. Bu mwy nag un ymgais i gysylltu â’r perchennog er mwyn symud ymlaen, ond yn anffodus ni fuom yn llwyddiannus.
Rydym yn parhau i fod yn gefnogol i’r syniad o osod plac. Fe awn ati i edrych eto ar ddatrysiad posib.”

Cyflwr y safle yn 2023. Lluniau- Paul W


18.9.23

Llygad Dieithryn

Erthygl gan Simon Chandler

Mae dechrau fy mherthynas â Blaenau Ffestiniog yn dyddio’n ôl i flwyddyn gyntaf y ganrif hon. Ddydd Llun Gŵyl y Banc, 28ain Mai 2001, a ninnau ar wyliau teuluol yn ardal Porthmadog, roedd hi’n tywallt y glaw. Er mwyn diddanu’n mab ni, a oedd yn 8 oed ar y pryd, fe benderfynodd fy ngwraig i mai ymweld â cheudyllau Llechwedd am y prynhawn fyddai orau i ni. Wel, am benderfyniad tyngedfennol! 

Ni fyddaf byth yn anghofio cael fy nghyfareddu gan y recordiadau sain a gafodd eu chwarae yn yr hen weithfeydd er budd y twristiaid: recordiadau oedd yn llawn straeon am y chwarelwyr, eu bywydau, eu diwylliant a’u hiaith. 

Gwyddwn yn syth fy mod i wedi dod o hyd i fy mhobl i.  Sais amharod oeddwn i erioed. 

Yn wir, cefais fy ysbrydoli’n syth i ysgrifennu nofel (yn Saesneg) am hynt a helynt chwarelwr ifanc o’r dref a deithiodd i Berlin yn y 1920au hwyr. Ar ôl i ni ddychwelyd i Fanceinion, rhois alwad ffôn i Lyfrgell Blaenau Ffestiniog a gofyn i ddynes glên am lyfrau ynghylch hanes y dref y gallwn eu darllen er mwyn fy addysgu fy hun, ond dywedodd hi fod y fath lyfrau i gyd yn Gymraeg. Roedd hynny’n siom aruthrol i mi oherwydd, yn anffodus, roeddwn i newydd gwrdd â dyn ar y ffordd adref o’n gwyliau ni, sef mewn gorsaf betrol ar yr A55, a oedd wedi 'egluro' wrthaf na fyddai gen i obaith mul o ddysgu’r iaith yn oedolyn. “If you haven’t learnt it as a child, you’ve got no chance, mate,” meddai. 

Er mawr gywilydd i mi, er i mi fod yn siaradwr Almaeneg ers peth amser erbyn hynny, ac er y dylwn fod wedi gwybod yn well, roeddwn i mor ffôl â chymryd y dyn hwnnw at ei air. Felly, doedd dysgu Cymraeg ddim yn opsiwn. Ar y llaw arall, roedd gan y llyfrgellydd syniad gwych: awgrymodd hi i mi gysylltu â’r hanesydd lleol, Steffan ab Owain (y mae ei golofn ddifyr, Stolpia, yn ffefryn i mi bellach). Gyda chryn dipyn o amynedd, Steffan a wnaeth fy nghyflwyno i hanes Blaenau Ffestiniog yn 2001, a Steffan sydd (22 o flynyddoedd yn ddiweddarach) wedi darparu llun o Bont y Queens (wedi’i dynnu ym 1933) ar gyfer clawr fy nofel Gymraeg gyntaf, sef “Llygad Dieithryn”, sydd wedi’i chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch ar 7fed Gorffennaf. 

Ond beth ddigwyddodd yn y cyfamser? Wel, ar ôl i mi wastraffu pymtheng mlynedd, diolch i un sylw esgeulus, fe ddywedodd Cymraes Gymraeg o Ben Llŷn wrthaf yn 2016 (ym Manceinion) y byddai modd i mi ddysgu’r iaith wedi’r cwbl, hyd yn oed yn 52 oed. Ar ôl y sgwrs hollbwysig honno, es i ati i ddysgu’n eithaf buan, ac roeddwn i mor lwcus â dod o hyd i diwtor Cymraeg heb ei hail, sef Llinos Griffin o Lanfrothen. Cyn bo hir, a minnau’n benderfynol o wneud iawn am yr holl amser coll, trodd fy meddwl at ysgrifennu’r nofel roeddwn i wedi bod yn awyddus i’w hysgrifennu yn y lle cyntaf, ond yn Gymraeg. 

Trwy Grŵp Facebook Blaenau Ffestiniog, des i i adnabod hanesydd lleol ardderchog arall, sef Vivian Parry Williams, a gytunodd i werthu copi o’i lyfr campus, “Stiniog a’r Rhyfel Mawr”, i mi.  Roedd honno’n foment dyngedfennol arall am ddau reswm. Yn gyntaf, fe ddaeth Vivian a minnau’n gyfeillion da wedyn, ac (yn ei dro) fe wnaeth Vivian fy nghyflwyno i Iwan Morgan, sydd hefyd yn gyfaill da i mi bellach, ac sydd wedi bod mor garedig â chyhoeddi sawl cerdd gaeth o’m heiddo yn ei golofn arbennig, “Rhod y Rhigymwr”. Ac yn ail, darganfyddais fod llyfr Vivian yn cynnwys (ymysg llawer o bethau cyfareddol eraill) wybodaeth amhrisiadwy ac ysbrydoledig ynglŷn â hen waith wisgi Y Frongoch (ger y Bala) a gafodd ei addasu’n wersyll-garchar ar gyfer swyddogion o Fyddin yr Almaen ym 1915. Dyna oedd y wreichionen a gynnodd dân y nofel newydd, a oedd yn lled wahanol i’r un roeddwn i wedi bod yn bwriadu’i hysgrifennu yn 2001.

A bod yn fanwl gywir, mae yna ddau 'ddieithryn' yn y nofel: sef Friedrich, swyddog ym Myddin yr Almaen, a oedd wrthi’n nychu yng ngwersyll-garchar y Frongoch ym 1915, a’i or-orwyres, Katja, sy’n athrawes ieithoedd yn Mannheim (yr Almaen) yn 2019. Wrth iddi hi fynd trwy bapurau ei mam, mae Katja’n taro ar draws llythyr hynod (yn Gymraeg) a anfonwyd at ei hen, hen daid (sef Friedrich) gan ddyn o Flaenau Ffestiniog (o’r enw Alun). Mewn ymgais i ddatrys y pos, mae Katja’n dod i aros yn y dref adeg Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy. Wedyn, gan ddwyn hen gyfrinachau’r ddau deulu i’r golwg, mae hi’n mynd i berygl tynnu nyth cacwn am ei phen…

Simon a Vivian yn Rali Annibyniaeth Wrecsam, Gorffennaf 2022
Yn y bôn, mae’r nofel yn cyfuno hanes a diwylliant y ddwy wlad, sef Cymru a’r Almaen, fel yr adlewyrchir ar y clawr gyda’i luniau o Gofgolofn y Fuddugoliaeth yn Berlin ac (fel y nodwyd uchod) o Bont y Queens ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’n nofel ddirgelwch, ond mae hi hefyd yn llythyr cariad at y Gymraeg, at yr Eisteddfod Genedlaethol ac at Flaenau Ffestiniog ei hun. Gobeithio y bydd y nofel yn eich galluogi chi i weld eich iaith a’ch diwylliant trwy lygad dieithryn sy’n eu caru.

Fawr o syndod mai ym Mlaenau Ffestiniog ei hun y lansiwyd Llygad Dieithryn felly, a’r dref yn un o brif gymeriadau’r nofel: sef yn Siop Lyfrau’r Hen Bost ar nos Lun, 17eg Gorffennaf .

O ran diddordeb, mae llyfr llafar yn cael ei gyhoeddi hefyd (i gyd-fynd â’r nofel), wedi’i leisio gan neb llai na’r Prifardd, y Prif Lenor a’r darpar Archdderwydd, Mererid Hopwood! Mae’n anodd credu.  
Blaenau Ffestiniog yw fy nghartref ysbrydol i bellach, er fy mod i’n dal i fyw ym Manceinion (gwaetha’r modd), a’r dref sydd wedi rhoi croeso dihafal i mi, yn union fel y mae hi wedi croesawu sawl dieithryn arall a oedd yn fodlon gwneud yr ymdrech i ddysgu Cymraeg ac i gofleidio ysbryd cymunedol ei phobl arbennig.  

Ydy, mae’n dueddol o lawio ym Mlaenau Ffestiniog, ond byddaf yn ddiolchgar i’r glaw am byth.
Simon Chandler
- - - - - - - - - - 

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2023


22.6.23

Pentymor y Gymdeithas Hanes

Fel i lawer arall wrth gwrs, bu’r tair blynedd ddiwethaf yn amser eithriadol anodd i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog. Collwyd yr adeilad ble yr oeddem yn arfer cynnal ein cyfarfodydd (Neuadd Sefydliad y Merched), collwyd y gofod ble yr oeddem wedi sefydlu arddangosfa o hanes lleol (yng Nghaffi Antur Stiniog) – ac yn sgìl hynny, collwyd yr incwm a arferai ddod oddi wrth ymwelwyr, ond yn bwysicach na dim, bu’n rhaid rhoi’r gorau i’n cyfarfodydd yn gyfan gwbl.

Gyda chryn betruster felly, fe gychwyn’som ail-afael yn ein cyfarfodydd ym Medi 2022. Yr oeddem yn poeni faint o bobl a fyddai, unwaith eto, yn barod i ddod allan gyda’r nos i fynychu cyfarfodydd - ac yr oedd angen ‘cartref’ newydd. Yn ffodus dros ben, aeth prifathro Ysgol Maenofferen, Mr Aled Williams, allan o’i ffordd i’n cynorthwyo, gan roi defnydd o neuadd yr ysgol i ni am bris gostyngol. Fe wnaethom ninnau gadw ein pris aelodaeth yn isel iawn - £6 am y flwyddyn neu £1 y cyfarfod. Mae hyn yn eithriadol isel, gyda chyfarfodydd cyffelyb mewn ardaloedd eraill yn costio £5+ y noson.

Llun- Paul W

Gyda’n tymor bellach wedi dod i ben, braf adrodd ein bod wedi rhyfeddu at y nifer a fu’n mynychu ein cyfarfodydd (rhyw 40 i 50 bob tro). Profodd yr fenter o ail-ddechrau cyfarfod yn hynod lwyddiannus - yr ydym wedi llwyddo i gynyddu ein aelodaeth. Ond yr oedd pryder yng nghefn ein meddyliau; nid oedd y tâl aelodaeth ar y lefel hwn yn gynaliadwy. Ni fyddai ein incwm yn cyfateb i’n gwariant ac ni fyddai ein balans yn y banc yn caniatáu i ni barhau gyda hyn yn hir iawn.

Felly, fe wnaethom gais i Elusen Freeman Evans am gyfraniad tuag at barhau i weithredu yr un drefn am y dair blynedd nesaf. Pleser o’r mwyaf yw adrodd i ymddiriedolwyr yr Elusen gytuno i’n cais gan roi grant sylweddol i ni, fel y gallwn barhau i gynnig aelodaeth râd a hefyd, na fydd yn rhaid codi pris ‘Rhamant Bro’, am y dair blynedd nesaf. Hoffem ddatgan ein diolchgarwch i ymddiriedolwyr yr Elusen am eu cefnogaeth.
Gareth T. Jones  (Ysgrifennydd)


27.10.22

Lle mae ein trysorau?

Mae’n debyg eich bod chi’n gyfarwydd ag ymdrechion y Groegiaid i gael Marmorau’r Parthenon yn ôl i Athen neu ymgyrch y Nigeriaid i adennill Creiriau Efydd Benin, ac efallai eich bod chi wedi clywed am y galwadau diweddar i ddychwelyd Mantell yr Wyddgrug a Tharian Moel Hebog i Gymru ond oeddech chi’n gwybod fod yna sawl gwrthrych hanesyddol o’r ardal hon hefyd yn yr Amgueddfa Brydeinig yn ogystal ag yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Mae’r crair hynaf o’r ardal hon yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn dyddio’n ôl i’r cyfnod Neolithig, rhwng 4000-2500CC, cyfnod y beddrodau megalithig sydd i’w gweld hyd heddiw ar hyd arfordir Meirionnydd. Yr hyn sydd i’w gael yno yw bwyell garreg a gafodd ei darganfod ger Llyn Stwlan, a beth sydd yn ddiddorol am y fwyell benodol hon yw ei bod yn dod yn wreiddiol o Langdale yng Nghumbria lle roedd yna ddiwydiant bwyelli pwysig.

Cafodd y gwrthrych hynaf o’r ardal yn yr Amgueddfa Brydeinig ei ganfod ychydig y tu allan i ddalgylch y papur hwn ond gobeithio y gwnewch chi faddau i mi: Bwyell Fflat Penrhyndeudraeth yw hon, bwyell addurnedig sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd Gynnar, 2500-2000CC, mae bwyelli o’r fath yn gysylltiedig â phobl y diodlestri (biceri), grŵp o bobl a gyrhaeddodd Brydain o tua 2500CC ymlaen gan ddisodli’r trigolion blaenorol bron yn gyfan gwbl.

Llun Amgueddfa Brydeinig, trwy drwydded CC BY-NC-SA 4.0

Gan aros yn yr Oes Efydd Gynnar, yn yr Amgueddfa Brydeinig mae yna gyllell efydd (uchod) a gafodd ei darganfod yn Ffestiniog, dydy’r gyllell ei hun ddim yn rhyw arbennig iawn ond mae yna stori ehangach yn gysylltiedig â hi gan iddi gael ei darganfod gydag wrn golerog (collared urn), nodwydd bren a charreg gallestr; yn anffodus dim ond y gyllell sydd wedi goroesi er bod llun pensil o’r wrn yn bodoli, a honno’n un hynod o drawiadol.

Y gwrthrychau mwyaf cyffredin o’r ardal hon yn yr Amgueddfa Brydeinig yw palstafau, mae tair o’r rhain i’w cael yno ac mae sawl un o’r ardal yn yr Amgueddfa Genedlaethol hefyd. Math o fwyell ydy palstaf a buon nhw’n cael eu defnyddio yn rhan hwn o Gymru am gyfnod maith, o tua 1500CC hyd at ddiwedd yr Oes Efydd a thu hwnt, maen nhw’n ddarganfyddiadau gweddol gyffredin drwy Wynedd gyfan. O’r tair palstaf yn yr Amgueddfa Brydeinig mae un o Drawsfynydd, un o Faentwrog ac un o Ffestiniog gyda’r olaf yn cael ei chysylltu â Beddau Gwyr Ardudwy er bod y gwrthrychau hyn dros fil o flynyddoedd yn hŷn na’r henebion hynny.

Celc Cwm Moch. Llun Amgueddfa Brydeinig
 

Mae’n debyg mai un o’r casgliadau mwyaf hynod o’r ardal hon yw Celc Cwm Moch sydd hefyd yn yr Amgueddfa Brydeinig, mae’r celc penodol hwn yn cynnwys tri chleddyf main (rapier) a blaen gwaywffon ddolennog (basal looped spearhead). 

 

Cafodd y celc -sy’n dyddio i’r Oes Efydd Hwyr- ei ddarganfod o dan garreg yng Nghwm Moch, Plwyf Maentwrog, roedd Cwm Moch yn rhan o lwybr pwysig cynhanesyddol o’r arfordir ac mae’n debyg i’r celc gael ei guddio am ryw reswm neu’i gilydd o bosib i’w diogelu rhag lladron.

 

 

Erbyn diwedd yr Oes Efydd mae mathau newydd o arfau yn dechrau ymddangos yng Nghymru ac yng ngweddill Prydain, un o’r rhain yw’r cleddyf hardd o Benrhyndeudraeth sydd yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Gelwir y math hwn o gleddyf yn Gleddyf Ewart Park ar ôl celc pwysig a gafodd ei ddarganfod yn Ewart Park yn Northumberland, ac mae’r enghraifft o Benrhyn mewn cyflwr arbennig gyda thyllau’r rhybedi oedd yn dal y carn yn dal i’w gweld. Mae cleddyf arall pur debyg o Ddolwyddelan i’w gael yn yr Amgueddfa Brydeinig, yn yr engraifft honno mae blaen y cleddyf wedi cael ei blygu o bosib fel rhan o ddefod i’w ddatgomisiynu.

Math arall o erfyn sydd yn ymddangos yn y cyfnod hwn yw’r fwyell soced, roedd y rhain yn hynod o boblogaidd yn ne Cymru ac mae cannoedd o enghreifftiau wedi cael eu darganfod yno, ond yn y gogledd maen nhw’n llawer mwy prin gyda’r palstaf yn parhau i gael ei defnyddio, mae’r unig enghraifft o’r ardal hon o Gae Glas yn Nhrawsfynydd ac mae hi yn yr Amgueddfa Genedlaethol.

Llun o replica Llys Ednowain o wefan y BBC
O symud ymlaen ychydig mewn hanes mae gwrthrychau o’r Oes Haearn yn llawer mwy prin na rhai o’r Oes Efydd, yn bennaf oherwydd natur y gwrthrychau eu hunain, ond er hynny mae yna un gwrthrych o’r ardal sydd o bwys cenedlaethol os nad rhyngwladol a Thancard Trawsfynydd yw hwnnw. Mae’r tancard sydd wedi’i wneud o ddarnau o ywen wedi’u gorchuddio ag efydd yn dyddio’n ôl i tua 100CC, mae iddo faint sylweddol ac mae ganddo lawer o addurniadau o arddull La Tène, arddull sydd yn aml yn cael ei ystyried yn un Celtaidd. Mae’r tancard a gafodd ei ddarganfod yn y 1850au wedi newid dwylo sawl gwaith ers hynny a bellach mae’n eiddo i Amgueddfeydd Lerpwl, er fy mod ar ddeall ei fod ar fenthyg yn Sain Ffagan ar hyn o bryd.

A dyna i chi drosolwg bras o rai o’r creiriau cynhanesyddol sydd wedi cael eu darganfod yn yr ardal hon. Cafodd y rhan fwyaf o’r creiriau hyn eu darganfod gryn amser yn ôl ond mae gwrthrychau cynhanesyddol yn dal i gael eu darganfod o bryd i’w gilydd. Mae’r Portable Antiquities Scheme yn gwneud gwaith ardderchog o gofnodi’r canfyddiadau hyn ac mae eu gwefan yn drysorfa o greiriau o bob oed, felly os dewch chi o hyd i rywbeth ryw dro byddwch yn siŵr o roi gwybod iddyn nhw ac fe wnan nhw ei ychwanegu at y wefan i bawb gael ei fwynhau.

Siôn Tomos, Llawrplwyf, Trawsfynydd. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2022

Gallwch ddilyn Siôn ar Trydar- @SPTomos -lle mae'n ysgrifennu am hanes Cymru, archeoleg a dychwelyd creiriau.

1.11.21

Y Dref Werdd -Cynefin, Coed, a Chlonc

Cynefin a Chymuned i Blant
Braf iawn oedd gallu ail-danio cynllun Cynefin a Chymuned i Blant yn ddiweddar, gyda diolch i Mantell Gwynedd am y grant i’w ariannu am flwyddyn. 

Llywelyn Fawr efo criw Cynefin a Chymuned ar safle Castell Prysor.
 

Mae pymtheg o blant o chwe ysgol gynradd Bro Ffestiniog yn rhan ohono, gyda’r ysgolion wedi dewis y plant, ac mae pob un ohonyn nhw’n bleser i fod yn eu cwmni!

Dros yr haf, rydym wedi cynnal sesiwn wythnosol mewn coedlan leol ble mae’r plant wedi bod yn dysgu am fywyd gwyllt, dod i adnabod coed a phlanhigion gwyllt, gwneud gwaith celf naturiol, chwarae gemau a gwneud ffrindiau newydd. Bydd chwe sesiwn yr haf yn golygu y byddent yn derbyn Gwobr Darganfod John Muir.


Bydd sesiynau dan arweiniaeth amryw o arbenigwyr mewn gwahanol feysydd yn digwydd dros y flwyddyn nesaf, gyda phrofiadau unigryw addysgol gwerth chweil. Cynhaliwyd sesiwn hanes drwy law Elfed Wyn ap Elwyn ym mis Awst a sesiwn rhyfeddod pryfaid a chynefinoedd ym mis Medi – profiadau unigryw, cyffrous, llawn hwyl i’r plantos. Bydd mwy i ddod dros y flwyddyn ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr!

Hoffem ddiolch i’r arweinwyr am wirfoddoli eu hamser er mwyn rhannu eu sgiliau gyda’r plant – dyma wir ysbryd hael pobl Bro Ffestiniog. Diolch o galon i bob un ohonoch.

 

Dod yn ôl at dy Goed
Mae’r cynllun presgripsiynu gwyrdd yn mynd yn dda gyda llawer un yn mwynhau gweithgareddau amrywiol yn ein sesiynau. Rydym wedi cynnal ambell i sesiwn ‘Panad yn y Coed’, wedi gwneud cawl danadl poethion blasus, dod i adnabod coed a phlanhigion ar y safle, gwaith celf clai naturiol a Hapa Zome, Tai Chi, Pilates, wedi ymweld â Fferm Pen y Bryn ambell waith, codi sbwriel, garddio ac wedi cael taith gerdded fach o amgylch Llyn Mair. Mae croeso i unrhyw un ymuno – cysylltwch am wybodaeth pellach.

 

Sgwrs
Rydym yn brin o wirfoddolwyr ar gyfer ein cynllun cyfeillio, Sgwrs, a Ffrindiau yn aros am rhywun clên i gael sgwrsio. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gyfeilliwr sy’n sgwrsio unwaith yr wythnos gyda Ffrind, cysylltwch â ni.
Manylion cyswllt - 07385 783340 neu hwb@drefwerdd.cymru.

Prosiectau Amgylcheddol
Gan fanteisio ar y tywydd poeth diweddar, aeth gwirfoddolwyr Gwelliannau Llan ati i dorri'r ddôl blodau gwyllt yng Nghae Bryn Coed, ac yna gwasgaru'r hadau blodau gwyllt i sicrhau ddôl hardd eto'r flwyddyn nesaf.   

Unwaith eto, mae Gardd Gymunedol Hafan Deg wedi derbyn Gwobr Baner Werdd am fannau gwyrdd cymunedol gan Cadwch Gymru’n Daclus. Diolch enfawr i'r holl wirfoddolwyr gweithgar sy'n gweithio'n ddiflino i ofalu am ein lleoedd gwyrdd cymunedol.

Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag ysgolion lleol dros yr ychydig fisoedd diwethaf; dysgu am goed, paratoi gerddi i'w plannu, adeiladu gwestai trychfilod gyda'r plant a'u helpu i ddysgu am bwysigrwydd garddio ar gyfer bywyd gwyllt ac ar gyfer bwyd!   Yr hydref hwn byddwn yn cychwyn ar brosiect peillwyr cyffrous newydd gydag ysgolion y fro, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr ato.
Os hoffech chi gymryd rhan yn unrhyw un o'r prosiectau amgylcheddol gymunedol, cysylltwch â ni ar 07775723767 neu meg@drefwerdd.cymru
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021


1.4.21

Hanes Teulu’r Gors

Wedi cael fy magu yn y Blaenau hyd nes gadael chweched dosbarth Ysgol Sir Ffestiniog, ym 1962, cefais yrfa wedyn fel Peiriannydd Siartredig, yn gweithio gyda’r diwydiant cynhyrchu trydan; ac erbyn hyn wedi byw dros hanner can mlynedd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd fy nhad, Rhys Jones, yn un o ddeg o blant a anwyd i Ann a Lewis Jones a fu’n byw, yn eu dyddiau cynnar, yn Taliesyn Terrace, a hynny cyn bod Jones Street a Fron Fawr wedi cael eu hadeiladu. Mae’n debyg mai “Y Gors” oedd yr enw lleol am yr ardal fach honno. Roedd yn y teulu bump bachgen, sef: Lewis, Bob, Ned, Ifan a Rhys a phump o ferched -  Nellie, Janet, Jane Ann, Leusa (a fu farw’n ifanc), a Gaynor.
 

Jonestryd a Taliesyn Teras, a Fron Fawr ar y chwith

Yn y cyfnod hwnnw, chwareli’r Blaenau oedd yn cyflogi y rhan fwyaf o’r gweithwyr lleol. Ac eto, roedd dinas Lerpwl yn ddylanwad mawr ar y rheini a oedd eisiau gwaith y tu allan i’r chwarel. Roedd Bob, Ned, Evan a Jane Ann ymysg y rhai a aeth am gyfnod i weithio yn Lerpwl.

Mae’n amhosibl croniclo popeth am y teulu, ond mae straeon bach am rai o’r digwyddiadau a ddaeth i’w rhan.

Symudodd y teulu wedi cyfnod, o Taliesyn Terrace rhyw ganllath i’r tŷ pen yn Jones Street. Ond doedd fawr o lwc; ym 1900, fe fu farw y tad, ar ôl damwain, ac yn ystod wythnos ei angladd, ganwyd iddo ferch fach. Yn ôl y sôn, cafodd y babi, Gaynor, ei bedyddio adref ger arch ei thad. Mawr oedd cydymdeimlad y cymdogion a’r gymuned, ac ysgrifennodd y bardd lleol R. J. Roberts, Tanrallt, benillion am yr amgylchiadau yma; ac yn nes ymlaen ysgrifennodd benillion eto am ddygnwch Ann Jones yn magu’r teulu ar ei phen ei hun.

Yn ddiweddar iawn, cefais amser i edrych yn fwy manwl drwy rai o ddogfennau’r teulu, a oedd wedi dod i lawr i mi ar ôl amser fy nhad. Ym mhlith y papurau roedd barddoniaeth R. J. Roberts, ac hefyd dogfen neu ddwy tra diddorol, gyda stori fach ynghlwm iddynt.

Wedi marw Lewis Jones yn 1900, a gadael deg o blant, roedd pethau yn anodd iawn ar y teulu. Erbyn 1903 roedd y mab hynaf, Lewis, yn cyrraedd ei ben-blwydd yn dair ar ddeg oed, a phenderfynwyd  y cai fynd i weithio i’r chwarel. I gwblhau y trefniadau, roedd angen cael hawl swyddogol iddo adael yr ysgol, ac fe ddaeth y caniatâd ar ffurf y papur swyddogol y mae ei lun isod, i’w ganiatáu i ddechrau gweithio.
 


Mewn ychydig flynyddoedd, aeth Evan a’i frodyr, Ned a Bob, i Lerpwl i geisio sicrhau gwaith. Tra roeddynt yn y ddinas, torrodd y rhyfel byd cyntaf, a newid trefn bywyd pawb. Ym 1915, penderfynodd Ifan (Evan) wirfoddoli i ymuno â’r fyddin. Hefyd, yn eu tro, cafodd Lewis, Ned a Bob eu galw i’r fyddin, ac felly roedd gan Ann Jones, y  fam, bedwar o feibion yn filwyr.

Er hyn i gyd, daeth y bechgyn i gyd adref yn saff. Fe fu Ann Jones fyw i weld ei theulu i gyd wedi tyfu, gyda phlant eu hunain, a phawb â pharch mawr at eu mam a’u nain.


Alun R. Jones (gynt o 5 Bryn Bowydd Newydd)
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2021

Llun- Paul W


3.8.20

Iaith ‘Stiniog

Ar gais y golygydd, dyma fi’n mentro sôn am iaith ‘Stiniog. Cofiai amdanaf yn trafod idiomau’r ardal yn y gwersi cyfieithu (2003-05), er mwyn cyfoethogi geirfa aelodau’r dosbarth, yn hytrach na’u bod yn cyfieithu’n rhy lythrennol. Enghraifft bosibl: ‘to give it up as a bad job’, rhoi’r ffidil yn y to. Tybed a hoffech chi restr o enghreifftiau tebyg, fel petai’n rhan o eiriadur? Amheuaf mai buan y blinech: gormod o bwdin dagiff gi, meddai’r hen air. Gwell dweud tipyn o hanes ynglŷn ag ambell air neu sylw, os oes modd.

Cyn cychwyn: o ran iaith, ble mae ffiniau ardal ’Stiniog? Y Blaenau a’r Llan wrth gwrs, ond beth am Traws a Maentwrog? a Dolwyddelan? Ydyn’ nhw, yno, yn siarad yn bur debyg i ni? Gwaetha’r modd, ni fûm i’n byw yn yr un ohonynt, i gael ’nabod eu hiaith yn drwyadl: ond i’r hen Ysgol Cownti a’r Sentral deuai pobl o Groesor a Llanfrothen, y Penrhyn a Minffordd, ac yn yr ysgol felly, amser chwarae yn bennaf, y dysgem ddeall ein gilydd yn llwyr, (gan amlaf i ffraeo, i frolio ein hunain ac i herian ein gilydd.)

Cwestiwn anodd arall: mae galw plentyn yn fwrddrwg, neu ddweud bod peth yn ddrud fel pupur, yn rhannau o’n hiaith yma: ond ai yn ‘Stiniog yn unig y clywir nhw? Go brin. Cofiwch nad o’r plwyf hwn y daeth y miloedd o chwarelwyr i greu tref lle ’roedd, yn 1911, bron ddeuddeng mil o drigolion, ac a oedd felly’r dref ail fwyaf yn y gogledd. O weddill Sir Feirionnydd, ond yn bennaf o Sir Gaernarfon a Dyffryn Conwy, yr hanent, pob un yn siarad iaith ei fro. Cymysgedd felly, mae’n debyg, a siaradwn; tebyg bod hyn yn wir am sawl ardal.

(Llun gan wefan welshconnection- jygiau ar werth yn fanno)
I mi’n blentyn, diarth iawn oedd Sir Feirionnydd, ei phobl a’i hiaith. Ni chofiaf weld na’r Traws, na Harlech, na’r Bala - na Dolgellau cyn tua 1948. ’Roeddwn i ac Eigra wedi ennill gwobrau yn arholiad yr Ysgol Sul, a dyma fynd i Ddolgellau i’w cael. Yn festri’r capel cynigiwyd te inni fel hyn:
Oes eisie llaeth yn eich te?’  Llaeth!!  Ni allem goelio’r fath beth: ych a fi!
Na, dim diolch. A gawn ni lefrith?’ 
’Roeddem wrth gwrs, yn hen gyfarwydd â llaeth enwyn fel diod - ond nid mewn te. Gartref, yn ‘nhai Wilias Bildar’, sef Ffordd Wynne, ’roedd cymdogion i ni o’r Bermo, a digrif i ni blant fu eu clywed yn sôn am gwmpo yn lle cael codwm neu syrthio. Rhag ein cywilydd, yntê!

Rhai blynyddoedd yn ôl, cofiaf roi pàs (nid lifft) yn fy nghar i ŵr ar ei ffordd i’r Traws. Soniodd am ei ferch a oedd yn canlyn llanc a chanddo foto-beic, gan ddweud ‘mi alwodd y cog heibio ddoe’. Gair yr ardal am lanc, nas clywswn erioed o’r blaen. Dywedwch i mi, bobol Traws, pa faint o eiriau eraill sy’n wahanol i eiriau ’Stiniog? Yn y Bala dysgais y gair stodwm (= pentwr, llond gwlad, yn enwedig o wair, ’dw’ i’n meddwl). Soniodd cyfeilles imi o’r ardal sut y byddai merched ifainc yn synnu at ryw bishyn o lanc gan ddweud ‘Wel dacw ged y gog!’. Ni chlywswn ced erioed. Ei ystyr? ‘Anrheg’ (fel yn aberthged y ’Steddfod). Penbleth braidd yw’r gair. Wy a chyw yn nyth aderyn arall yw ‘anrheg’ y gog, wrth gwrs - ai peth i’w groesawu?

Ym Mangor bu gennyf letywr o Ddyffryn Ardudwy a ddysgodd ambell air newydd imi, e.e. twba (= twb), moron gwynion (= pannas - llysiau hollol ddieithr imi cyn mynd i Rydychen). Y mwyaf trawiadol fu clywed mai iafu a ddywedir mewn rhai ardaloedd yn ne Meirionnydd, tra dywedwn ni iau a thra dywedir afu yn y De. Trawiadol oherwydd mae’n rhaid imi ei fod yn hynafol iawn; dyna fu’r ffurf wreiddiol, yn gytras â iecur yn Lladin a hepar yng Ngroeg. Dyna roi ambell flesyn ichi ar iaith Meirionnydd.

Dyn a ŵyr ba faint rhagor o eiriau ac ymadroddion diddorol a dieithr (i mi o leiaf) sydd i’w clywed ynddi eto. Ond na phoenwch: mi gefais i eisoes bentwr o eirfa ’Stiniog gan fy nghyfeillion annwyl, Enid Roberts (gynt o Gae Clyd) a chan Dafydd Jones (yr Hen Bost), ac mae croeso i chwithau gyfrannu, drwy anfon neges at y Golygydd.
Bruce Griffiths
----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2020. Mi fydd mwy yn dilyn yn fan hyn yn yr wythnosau nesa, ond gallwch ddarllen y gyfres trwy lawr-lwytho'r rhifynnau digidol am ddim o'r fan hyn: 
Bro360- Llafar Bro

Smit newyddion- Ambell air a dywediad o Stiniog

Gyda llaw [Gol.]:  Nid llaeth na llefrith oedd gan Laura Davies wrth hel atgofion am Bant Llwyd, ond LLAETH-EFRITH

17.6.20

#CodiLlais am Covid

Erthygl gan Elin Hywel

Yn llofft y plant ydw i heddiw, yn yr atig, wrth y ddesg yn ceisio dal i fyny hefo ychydig o waith ‘go iawn’ neu ‘normal’ yn hytrach na’r paratoi ac ymateb teuluol a chymunedol, calonogol yma sydd wedi llenwi ein hamser ers rhai dyddiau erbyn hyn. Heddiw does dim posib dianc effaith y firws corona – neu covid-19. Mae ein teulu bach yn hunain ynysu ers ddoe hefo symptomau o dagu ysgafn a dolur gwddw. Yn arferol byswn i wedi mynd i’r gwaith, a’r plant i’r ysgol heb feddwl dwywaith. Mae’n rhaid cyfaddef dwi yn teimlo ychydig yn hurt yn cymryd y fath ragofalon hefo mymryn o dagu ond nid amseroedd arferol ydi’r rhain, a gall neb fod yn or-ofalus.

Mae’n gwestiwn gen i beth fydd hoel y cyfnod sydd i ddod arnom ni oll? Beth fydd ffurf y cof fydd yn cael ei drosglwyddo ymlaen i’r genhedlaeth nesaf? A’i blin a chasineb gwyllt y cyfryngau cymdeithasol fydd eu hetifeddiaeth neu oes modd i ni sicrhau fod straen ein profiadau ar gael i greu darlun gwir o bwy oedd yn troedio’r tir yma pan fu i covid-19 newid ein cymdeithas am byth?

Wrth gwrs ‘oes’ ydi’r ateb. Oes, os oes isio gallwn gymryd rheolaeth. Gallwn gyfyngu ar allu pobl i fod yn filain, i ledaenu casineb cul a ffiaidd. Gallwn gau lawr pob ffrwd, pob hanes, pob naratif niweidiol. Fydd dim modd i ni glywed y lleisiau ffrwydrol wedyn – ond mi fyddent yn dal i fod yn bydd? Mae profiadau personol yn bethau lliwgar, pan fo pobl yn teimlo dan fygythiad maent yn ymateb yn lliwgar. Dw’n i ddim os mai iach ydi atal mynegiant o boen, rhwystredigaeth, ofn a galar. Felly beth i’w wneud?

Mae’n boen meddwl i mi hefyd fod dim digon o brofion ar led ar gyfer y firws. Er fod pob un o’r teulu yn hunain ynysu am 14 diwrnod (14 diwrnod hir iawn debyg hefo 3 o rai bach yn ysu i ddenig), fydd dim modd gwybod os mai anwyd neu covid-19 sydd wedi ymgartrefu yma. Ella awn allan i’r byd dim ond i ail ddechrau’r broses o ddal ‘salwch’, hunain ynysu heb sicrwydd ein bod wedi atal ‘rhen covid neu dim ond ei ohirio am fymryn yn hwy.  A pwy fydd i ddweud beth oedd y baich ar ein cymunedau heb ddata swyddogol ar gael i gefnogi cof a hanes pobl dan eu sang?

Os allwn hel hanesion, cofnodi profiadau gallwn rymuso ein dyfodol - ‘Dyma ddigwyddodd i ni a does dim modd i neb wrth-ddweud hynny’. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn helpu ni yma. Rydym wedi mabwysiadu hashnod #CodiLlais_VoiceUp. Boed yn fideo, yn flog, yn lythyr, yn record o lais yn adrodd hanes heddiw neu ddoe, bydd ei rannu gyda’r hashnod uchod yn galluogi ni i’w hel i gyd a’u diogelu ar gyfer ein dyfodol. Helpwch ni drwy wneud hyn hefyd. Cofiwch nodi enw, ardal a dyddiad. Byddwch yn ofalus o hawliau eraill bob tro.

Cawn gymryd rheolaeth o’r naratif drwy fwydo’r naratif. Dim ond ni all ddweud ein hanes ein hunain, efallai na fydd yn hanes hapus bob tro, efallai na fydd yn enghraifft bositif wastad, ond mi fydd bob tro yn bwysig.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2020.
Mae'r rhifyn cyfan dal ar gael i'w lawr-lwytho am ddim, yn ogystal â rhifynnau Mai a Mehefin.