Achosodd y Covid broblemau go fawr i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog fel y gwnaeth i bawb arall; fe stopiodd ein cyfarfodydd ym mis Chwefror 2020 ond yr ydym wedi graddol ail-afael ynddi, ond yn ystyrlon o’r ffaith nad yw Covid wedi’n gadael.
Soniwyd yn Llafar Bro eisoes am ein cyfarfod cyntaf – yn Llys Dorfil, ac mi gafwyd cyfarfod yn yr awyr-agored eto ym mis Medi.
Arweiniodd Steffan ab Owain ni ar daith o gwmpas ei gynefin – sef ardal Glanypwll a’r Rhiw. Rhoddodd hanes datblygiad yr ardal, o fferm fynyddig i un o’r pentrefi a ddaeth wedyn i greu tref Stiniog. Wrth gerdded o gwmpas, tynnodd ein sylw at rai enwau tai sy’n eu clymu yn ôl i’r dyddiau cynnar; mae hyn yn dangos pwysigrwydd cadw yr hen enwau gwreiddiol ar dai.
Yr oedd llawer o hanesion difyr hefyd am hen drigolion nifer o’r tai ac am y busnesau a oedd yn y rhan hon o’r dref. Yr oedd yn rhyfeddol cymaint o hanes oedd i’w gael mewn ardal mor fechan.
Wedyn, fe aeth Dafydd Roberts â ni i weld gweithdy David Nash yng Nghapel y Rhiw a daeth y cerflunydd ei hun atom i’n croesawu. Edrychwn ymlaen i fynd yn ôl i ardal y Rhiw ac i ddysgu mwy rywbryd eto.
Braf iawn ydoedd ail-afael yn ein cyfarfodydd arferol ym mis Hydref, ar ôl cyfnod mor faith a da oedd gweld cynifer wedi dod ynghyd – a nifer o aelodau newydd yn eu plith.
Y siaradwr yng nghyfarfod Hydref oedd Vivian Parry Williams a’i destun oedd ‘Trin Cerrig’. Gyda chymorth lluniau, aeth a ni o gwmpas y fro gan dynnu sylw at rai o’r meini mawrion sydd yn yr ardal.
Yr oedd rhai ohonynt yn dangos olion rhew-lifoedd ac eraill yn dangos ôl llaw dyn. Yr oedd chwedlau hynafol wedi eu cysylltu â rhai o’r meini ac eraill â chysylltiadau crefyddol. Diddorol oedd clywed enwau rhai o’r meini a sylweddolwyd y pwysigrwydd o gofnodi rhai o’r enwau hyn rhag iddynt fynd yn angof.
Vivian Parry Williams yn cyflwyno'i sgwrs, a thu cefn iddo llun o’r Garreg Drwsgl sydd ar ochr y llwybr i fyny’r Manod o GwmTeigl, gerllaw Cae Canol Mawr. |
Diolchwyd i Vivian gan Dafydd Roberts, llywydd y gymdeithas, a diolchodd hefyd i Aled Williams, prifathro Ysgol Maenofferen am gynnig cartref mor gyfleus i’r gymdeithas. Yr oedd wedi mynd o’i ffordd i drefnu ystafell fawr ar ein cyfer, ble y teimlai pawb yn ddiogel.
Y siaradwr yng nghyfarfod Tachwedd oedd Gareth Tudor Jones, yn sôn am Streic Fawr y Llechwedd yn 1893. Cawn adroddiad o'r noson honno yn Llafar Bro Rhagfyr.
Cofiwch bod rhifyn 2022 o’r cylchgrawn Rhamant Bro ar gael o’r siopau lleol – cryn fargen am £4 (neu £6 drwy’r post: hanes.stiniog@gmail.com)
Gareth Jones
- - - - - - - - - - -
Addaswyd o erthyglau a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2022.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon