22.12.22

Stolpia -Rhiw a Glan-y-pwll

Cyfres boblogaidd Steffan ab Owain yn ôl!

Straeon o ardaloedd Glan-y-pwll a’r Rhiw: Gan fod rhai o aelodau ein Cymdeithas Hanes wedi cael blas ar rai o’r straeon a ddywedais am y ddwy ardal uchod yn y dyddiau gynt, dyma grybwyll ychydig mwy gan obeithio y bydden o ddiddordeb. 

Yr Offis Gron. Llun o gasgliad yr awdur

Hen enwau

Ar ddechrau’r daith soniais am enw un o’r rhesdai a fyddai ar stâd Glan-y-pwll yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef Alma Row, a enwyd, o bosib, yn dilyn clwyfo Cyrnol Francis Haygarth (1820-1911) wrth ymladd yn Rhyfel Crimea yn 1854. Bu’r Cyrnol yn dal yr eiddo am sawl blwyddyn, ond collodd ei hawl arni am ysbaid oherwydd iddo dorri amodau ewyllys Richard Parry, Llwyn Ynn, Llanfair Dyffryn Clwyd, sef ei ewythr, a oedd wedi marw yn ddi-blant, ac wedi ei gadael iddo. O ganlyniad, aeth y stâd i’w frawd, y Canon Henry William Haygarth tan ei farwolaeth yn 1902, ac yna, dychwelodd fel eiddo’r Cyrnol tan 1911. 


Tybed pwy all ddweud wrthym ba resdai oedd hon gyda’r enw hwn arni hi? Mae hi’n bur debyg i’w henw gael ei newid rhywdro yn ddiweddarach. 

Gyda llaw, erys yr enw Haygarth ar un neu ddau o leoedd yng Nglan-y-pwll heddiw. Diddorol oedd darllen hanes y Canon Haygarth yn treulio wyth mlynedd yn yr anialdir yn Awstralia yn ŵr ifanc. 

Ysgrifennodd y gyfrol hon sy’n adrodd ei hanes yno.

 
Difrod Bwriadol

Ym mis Mawrth 1877 bu achos yn erbyn gŵr ifanc o’r enw Richard Evans, oedd yn wreiddiol o dref Trallwng, am achosi difrod bwriadol i eiddo Rheilffordd Ffestiniog. Roedd wedi bod yn yrrwr ar un o’r injans am gyfnod, ond yn dilyn ei ddiswyddiad am fod yn feddw wrth ei waith, penderfynodd ddial ar y cwmni drwy droi pwyntiau'r rheiliau yng Nglan-y-pwll, ac o ganlyniad, daeth yr injan a’r wagenni ‘oddi ar y bariau’, fel y dywedid, ond trwy ryw drugaredd ni anafwyd neb. Mae’n amlwg nad oedd gan y barnwr unrhyw gydymdeimlad ag ef a dedfrydwyd ef i 5 mlynedd o benyd-wasanaeth, sef carchar a llafur caled. 

Offis Gron

Wedi cyrraedd Glanypwll Cottage adroddais hanes Rees Roberts, un o oruchwylwyr Chwarel Holland a breswyliai yno yn ystod rhan o’r 1870au a’r 1880au. Roedd yn ewythr i’r bardd Humphrey Jones, neu ‘Bryfdir’, fel yr adnabyddid ef amlaf, ac yn hanu o Erw Fawr, Llanfrothen. Yn ôl yr hyn a glywais, swyddfa Rees Roberts oedd yr ‘Offis Gron’, fel y’i gelwid, a safai gerllaw Tai Holland a’r baricsod. 

Roedd iddi hi dair ffenest’ a dywedir bod ganddo gadair dro (swivel chair) yno er mwyn iddo fedru troi’n hwylus arni hi ac edrych drwy'r ffenestri i weld os yr oedd ei weithwyr yn torchi eu llewys. Mae'r hen lun uchod o’r swyddfa yn dangos rhai o weithwyr Chwarel Holland wedi ymgynnull o’i blaen.

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2022

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon