Gydol mis Medi, bu Cwmni Opra Cymru yn teithio’r wlad gyda’i cynhyrchiad diweddara’ ... opera newydd i blant a theuluoedd gan y gyfansoddwraig a’r delynores dalentog o Ddyffryn Conwy, Mared Emlyn. Er bod Mared wedi arfer â chyfansoddi ar gyfer offerynnau unawdol, ensemblau, cerddorfa a chôr, dyma’r tro cyntaf iddi roi cynnig ar ysgrifennu opera.
Ar sail yr hyn glywyd, hyderwn yn fawr mai nid dyma’r tro olaf. Lluniwyd y libretto gan Patrick Young, Cyfarwyddwr Artistig Opra Cymru a’r Cyfarwyddwr Cerdd, Iwan Teifion Davies.
Seiliwyd Cyfrinach y Brenin ar yr hen chwedl Clustiau’r Brenin March. Fel rhan o’r comisiwn, ymwelodd y cwmni â nifer o ysgolion cynradd ar draws gogledd Cymru, gan gyflwyno byd ysbrydoledig opera i’r disgyblion.
Cyflwynwyd pymtheg perfformiad rhwng y 7fed a’r 25ain o Fedi mewn mannau’n y gogledd, y canolbarth a’r de. Daeth y cyfan i ben ar nos Sadwrn ola’r mis yn Ysgol y Moelwyn.
Roedd y cast gymrodd ran yn lleisiau ifanc Cymreig. Serennodd y bariton o Bentre Berw, Ynys Môn, Steffan Lloyd Owen fel Y Brenin. Mae Steffan yn llais adnabyddus ar lwyfan y Brifwyl ... yn gyn-enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts ac Ysgoloriaeth Towyn Roberts. Mae’r soprano o Lŷn, Elen Lloyd Roberts, wedi ymddangos yng nghynyrchiadau Opra Cymru o’r blaen ac yn llais hynod boblogaidd. Hi gymrodd ran Y Ffŵl. Soprano addawol arall, Erin Gwyn Rossington o gyffiniau Llanrwst chwaraeodd ran Y Doctor. Cystadleuydd cyson arall ar lwyfannau cenedlaethol ydy’r tenor o Langefni, Rhys Meilyr, sy’n astudio cwrs meistr yng Ngholeg Brenhinol yr Academi, Llundain ar hyn o bryd. Ef chwaraeodd ran Y Barbwr. Chwaraewyd rhan Meistres y Gegin gan y mezzo-soprano o orllewin Cymru, Beca Davies. Swynwyd y cynulleidfaoedd gan ei llais cyfoethog a’i hactio bywiog hithau.
Cafwyd cyfeilio arbennig iawn gan bumawd o gerddorion ifanc ... Mary Hofman [ffidil], Daire Roberts [fiola], Nikki Pearce [cello], Lleucu Parri [ffliwt] a Fiona Bassett [corn]. Roedd y set a’r gwisgoedd yn werth i’w gweld ... diolch i Hannah Carey. Y fam a’r ferch, Bridget a Beatrice Wallbank oedd y rheolwyr technegol a llwyfan.
Ym marn llawer a welodd y perfformiadau, doedd ond canmoliaeth uchel i’r cyfan. Mewn operâu’n aml, mae dilyn y libretto’n gallu bod yn anodd ym mha iaith bynnag y cyflwynir hi. Sylw pawb o’r Cymry Cymraeg oedd eu bod wedi deall pob gair gan bob aelod o’r cast. Mae hyn yn rhywbeth hynod galonogol.
Os na fu i chi fanteisio ar y cyfle i weld perfformiad, gallwch ystyried hynny’n golled enfawr.
Edrychwn ymlaen rwan am gynhyrchiad nesa Cwmni Opra Cymru!
TVJ
- - - - - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2023
Gwefan Opra Cymru
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon