Wel dyna benwythnos i'w gofio!
Bu'r côr yn canu yn Stadiwm y Mileniwm yn Nghaerdydd cyn y gêm ryngwladol rhwng Cymru a Seland Newydd ar ddydd Sadwrn cyntaf Tachwedd.
Teithio i Gaerdydd ar fore dydd Gwener, newid yn sydyn yn yr gwesty cyn cael cyngerdd ardderchog yn Eglwys St Ioan, Treganna gyda Chôr Meibion Taf a Chôr Ieuenctid Taf; yr eglwys yn llawn a'r gynulleidfa yn gwerthfawrogi. Trefnodd Côr Taf wledd i ni mewn clwb yn Canton wedyn.
Côr y Brythoniaid, Côr Plastaf a Chôr Meibion Taf- llun gan @PenriPentyrch |
Ar fore'r gêm fawr, teithiodd 60 aelod o'r Brythoniaid i'r stadiwm a chanu ar y cae gyda Chôr John's Boys o Wrecsam, a Chôr Aberfan.
Uchafbwynt y daith oedd cael canu Hen Wlad fy Nhadau gyda 70,000 o dorf! Er fod canlyniad y gêm yn siomedig, roedd y penwythnos yn fythgofiadwy.
Dyma ganlyniad tynfa Clwb 200 y côr am fis Tachwedd
£80 Rhif 25 Mr Arwel Williams
£40 Rhif 14 Mr Dwyryd Williams
Diolch am eich cefnogaeth
Mae mwy o rifau ar gael -Cysylltwch ag unrhyw aelod o'r Côr.
NADOLIG LLAWEN a BLWYDDYN NEWYDD DDA I HOLL DDARLLENWYR LLAFAR BRO!
D.Ll.W.
- - - - - - -
Gydag ymddiheuriadau, roedd yr uchod i fod i ymddangos yn rhifyn Rhagfyr 2022
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon