Showing posts with label canu. Show all posts
Showing posts with label canu. Show all posts

24.5.25

Y Llais

Efallai fod ganddo ni gystadleuaeth canu hynod boblogaidd yma'n Nghymru yn barod, ond mae rhyddfraint The Voice yn fyd enwog! 

Dechreuodd yn yr Iseldiroedd yn 2010 fel syniad a fyddai'n herio'r cyfresi hynod boblogaidd American Idol a'r X Factor a bellach mae yna fersiwn Gymraeg, Y LLAIS, ar ein sgriniau teledu ni'n wythnosol. I'r sawl sydd ddim yn gyfarwydd a fformat Y Llais – mae pob un o'r cantorion yn camu ar y llwyfan i ganu o flaen y gynulleidfa, tra bod y beirniaid (a elwir ar y rhaglen yn 'Hyfforddwyr') yn eistedd mewn cadeiriau enfawr coch, gyda'u cefnau i'r llwyfan. Galluogir hyn mai ar sail llais yn unig y maent yn profi'r perfformiad. Os yw'r llais yn plesio, yna maent yn gwasgu botwm ac mae'r gadair fawr goch yn troi i wynebu'r perfformiwr.

Mae trigolion yr ardal hon wedi bod yn ymwybodol erioed o'r rhan hollbwysig y mae ardal 'Stiniog wedi chwarae yn nhapestri y byd cerddorol yng Nghymru, ond bellach, gallwch ychwanegu enw nid un, ond DWY gantores ifanc arall, wrth iddynt hedfan drwy'r clyweliad cyntaf ac ymlaen i'r rhan nesaf.

(h.) Y Llais

Hanna Seirian oedd y gyntaf i wneud ei marc ar yr hyfforddwyr, gyda'i pherfformiad hudol hi o'r glasur a ysgrifennwyd gan Mei Emrys, Tri Mis a Diwrnod. Roedd hi'n amlwg fod yr hyfforddwyr yn cytuno gyda'r farn leol yma, wrth i'r pedwar ohonynt bwyso eu botymau i deimlo mwy o wefr y perfformiad hwn. 

Yn hwyrach ymlaen yn yr un bennod, fe brofwyd yr un wefr eto, wrth i Abi Jade Lewis, sy'n wreiddiol o Blaenau, ond bellach wedi ymgartrefu ar ochr arall y Crimea, yn Llanrwst hudo pawb gyda'r fersiwn bendigedig hi o'r gân draddodiadol, Ar Lan y Môr gan arwain at 4 troad arall yn y cadeiriau coch enwog.

Er mawr ymdrech gan y brodor o 'Stiniog, methodd Yws Gwynedd (un o'r hyfforddwyr) a denu'r un o'r ddwy i'w dîm, gyda Bronwen Lewis sicrhau lleisiau'r ddwy fel rhan o'i thîm hi.    

Cafodd y ddwy eu cadw ar wahân ar gyfer yr Ailalwadau, ble roedd yn rhaid i'r hyfforddwyr dorri tîm o 8 lawr i ddim ond 3. Roedd y ddau dîm o 4 yn perfformio yr un gân, gan obeithio fod eu fersiwn nhw yn plesio Bronwen a'i chyfaill, Steffan Rhys Hughes. 

Bu i Hanna ganu fersiwn gwych o Euphoria, cân ac enillodd cystadleuaeth yr Eurovision i Loreen a Sweden yn 2012, tra bod Abi yn taclo cân sy'n dipyn fwy poblogaidd yn agosach i adref, sef Anfonaf Angel o waith Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn. Er y perfformiadau gwych, yn anffodus, ni fu llwyddiant i'r ddwy a daeth eu taith ar Y Llais i ben.

Mae yna le i longyfarch Yws fodd bynnag, wedi iddo gael ei enwi yn Seren y Sîn yng Ngwobrau'r Selar yn Aberystwyth yn ddiweddar. Prif enillydd y noson oedd y gantores ifanc, Buddug, sydd yn rhyddhau deunydd ar label recordio Yws, sef Recordiau Cosh
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025

 

18.4.25

Codi Cenedl

Cafwyd noson arbennig yng Nghaffi Antur Stiniog ar yr 28ain o Chwefror, noson arall yn y Gyfres Caban. Roedd cangen Bro Ffestiniog o Yes Cymru wedi cael sgŵp arall trwy ddenu’r Athro Richard Wyn Jones i roi sgwrs y tro hwn. Mae Richard yn gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn sylwebydd gwleidyddol craff ac arbenigwr ar etholiadau Cymru.


Roedd wedi rhyfeddu cymaint mae’r awydd am annibyniaeth i Gymru wedi cynyddu yn y 25 mlynedd ers iddo fo ddechrau ymchwilio’r maes. Roedd hyd yn oed Plaid Cymru, bryd hynny meddai, yn ymwrthod â’r gair annibyniaeth, a’r gefnogaeth ar lawr gwlad yn isel, ond erbyn hyn mae nifer o arolygon barn wedi rhoi’r gefnogaeth o gwmpas y traean. I roi hyn mewn cyd-destun, dyna lefel y gefnogaeth yn yr Alban ar ddechrau 2014, ond erbyn y refferendwm y flwyddyn honno, cafwyd 45% o blaid annibyniaeth.

Roedd y refferendwm hwnnw yn un o ddau a ddylanwadodd ar faint y gefnogaeth yng Nghymru. Bu’n ysbrydoliaeth i genedlaetholwyr Cymreig, a dyna pryd sefydlwyd fudiad YesCymru. Yr awyrgylch a’r ysbryd yn yr Alban yn 2014 ydi’r peth agosaf mae Richard wedi dod at brofi teimlad o ddiwygiad meddai!

Refferendwm Brexit oedd yr ail beth oedd yn ganolog i’r ymchwydd mewn cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru. Mae ymchil wedi dangos mae’r rhai efo hunaniaeth Gymreig gref (hynny ydi teimlo’n Gymry nid Prydeinwyr) oedd y garfan mwayf pro-Ewropeaidd trwy ynys Prydain gyfa’ efo dim ond 16% eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae mwyafrif llethol y rhai sy’n teimlo’n ‘Gymreig Nid Prydeinig’ o blaid annibyniaeth i Gymru. Ond tua traean o boblogaeth Cymru ydi’r rheiny, tra bod tua hanner pobl yr Alban yn ‘Albanaidd, nid Prydeinig’. Felly heb ddenu poblogaeth ehangach Cymru i ystyried annibyniaeth mae’r genfogaeth wedi cyrraedd plateau. Un ffordd o gynyddu’r gefnogaeth ydi pwysleisio’r anhegwch ariannol sy’n wynebu Cymru; anghyfiawnder HS2 a thiroedd y goron ymysg y meysydd mwyaf dadleuol.

Mae’r Alban ar y blaen hefyd yn eu seilwaith, a’u parodrwydd i fod yn annibynol. Rhaid i Gymru ddatganoli’r system gyfiawnder rhag blaen, er enghraifft, ond efallai’n bwysicach na’r cwbl ydi sicrhau’r adnoddau dynol i’r dyfodol; mewn geiriau eraill gofalu bod gennym bobl dda i fod yn arweinwyr cymuned ac arweinwyr cenedl yn y dyfodol. Mae 40% o bobl deunaw oed Cymru yn gadael y wlad, a’r ganran yn llawer is yn yr Alban. Ychydig iawn ohonyn nhw sy’n dychwelyd. 

Roedd Richard yn feirniadol iawn o drefn sy’n golygu fod Llywodraeth Cymru’n gwario hanner Biliwn o bunnau bob blwyddyn ar fyfyrwyr sy’n gadael Cymru; polisi sy’n uniongyrchol arwain at golli canran fawr o bobl ifanc mwyaf deallus ein cenedl... 

Nid yn unig ydym ni’n colli’n pobl ifanc, ond ‘da ni’n talu iddyn nhw fynd! Fedrwn ni ddim fforddio eu colli! meddai.

Mae’n gobeithio bydd yr argyfwng addysg uwch bresenol yn gyfle i ail-lunio egwyddorion cyllido mewn ffordd sy'n gwneud mwy o synnwyr i godi cenedl.
Diolch o galon iddo am ddod draw a chodi llawer i destun trafod pellach.

Yn dilyn cyfnod o holi gan y gynulleidfa, cafwyd adloniant gan y grŵp Acordions Dros Annibyniaeth, a chyd-ganu hwyliog, ar ôl rhannu eu llyfryn ‘YesCymru Cân’. 

Mae rhywbeth yn hyfryd am forio canu alawon traddodiadol fel Moliannwn ac Ar Lan y Môr, a chaneuon newydd fel Lleucu Llwyd, a Mynd yn ôl i Flaenau Ffestiniog.
- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2025

Dolen at hanes noson ola' cyfres 2024/25 -Dechrau Wrth Ein Traed

14.3.24

Pwy a Saif Gyda Ni?

Cafwyd noson arbennig arall o adloniant; diwylliant; chwyldro ar nos Wener olaf Ionawr, yng nghaffi Antur Stiniog. Hon oedd y cyntaf o dair noson ym misoedd cyntaf 2024, dan ofal cangen Bro Ffestiniog o’r ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru. Efallai y cofiwch bod 5 noson wedi eu cynnal yng nghyfres Caban y llynedd.

Llun gan Hefin Jones

Y bytholwyrdd Tecwyn Ifan oedd yn canu y tro hwn, gydag ambell i gân llai cyfarwydd a nifer o’r clasuron. Denodd yr hen ffefryn ‘Y Dref Werdd’ gyd-ganu gan y gynulleidfa, a’r gytgan:

‘Awn i ail-adfer bro
awn i ail-godi’r to
ail-oleuwn y tŷ.
Pwy a saif gyda ni?’ 

Llun gan Cadi Dafydd
yn arbennig o deimladwy ac yn berthnasol iawn hyd heddiw. 

Y prifardd Ifor ap Glyn oedd y gwestai arall, yn adrodd rhai o’i gerddi, gan gynnwys ‘Mainc’ sy’n cyfeirio at fainc sglodion y chwarel. 

 

Roedd hynny’n taro nodyn am mae diwedd Cymdeithas Y Fainc Sglodion yn lleol ysbrydolodd ni i gychwyn y nosweithiau yma. 

 

Gwych oedd gweld y caffi yn llawn eto, a’r artistiaid yn cael gwrandawiad arbennig gan bawb oedd yno. 


Eto i ddod: hanes Gareth Bonello a Meleri Davies yn noson Caban Chwefror.

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2024

Cofiwch am noson ola'r gyfres (tan yr hydref) ar Ebrill y 5ed, efo Gwyneth Glyn a Twm Morys yn canu, a sgwrs gan yr awdur Mike Parker.


18.12.22

Y Brythoniaid yn y Brifddinas

Wel dyna benwythnos i'w gofio! 

Bu'r côr yn canu yn Stadiwm y Mileniwm yn Nghaerdydd cyn y gêm ryngwladol rhwng Cymru a Seland Newydd ar ddydd Sadwrn cyntaf Tachwedd.

Teithio i Gaerdydd ar fore dydd Gwener, newid yn sydyn yn yr gwesty cyn cael cyngerdd ardderchog yn Eglwys St Ioan, Treganna gyda Chôr Meibion Taf a Chôr Ieuenctid Taf; yr eglwys yn llawn a'r gynulleidfa yn gwerthfawrogi. Trefnodd Côr Taf wledd i ni mewn clwb yn Canton wedyn.

Côr y Brythoniaid, Côr Plastaf a Chôr Meibion Taf- llun gan @PenriPentyrch

Ar fore'r gêm fawr, teithiodd 60 aelod o'r Brythoniaid i'r stadiwm a chanu ar y cae gyda Chôr John's Boys o Wrecsam, a Chôr Aberfan. 

Uchafbwynt y daith oedd cael canu Hen Wlad fy Nhadau gyda 70,000 o dorf! Er fod canlyniad y gêm yn siomedig, roedd y penwythnos yn fythgofiadwy.

Dyma ganlyniad tynfa Clwb 200 y côr am fis Tachwedd
£80    Rhif  25 Mr Arwel Williams
£40     Rhif  14   Mr Dwyryd Williams

Diolch am eich cefnogaeth
Mae mwy o rifau ar gael -Cysylltwch ag unrhyw aelod o'r Côr.

NADOLIG LLAWEN a BLWYDDYN NEWYDD DDA I HOLL DDARLLENWYR  LLAFAR BRO!

D.Ll.W.

- - - - - - -

Gydag ymddiheuriadau, roedd yr uchod i fod i ymddangos yn rhifyn Rhagfyr 2022

 

28.10.19

Fy Manod

Mae dylanwad y filltir sgwâr yn allweddol yn aml iawn wrth i rywun ddatblygu diddordebau, a’r rheiny’n aml yn arwain at yrfa greadigol. Mae Gwyn Vaughan Jones yn adnabyddus heddiw fel actor ar gyfres boblogaidd Rownd a Rownd. Yma cawn gipolwg ar ei daith o’r Manod i fyd gwaith.
Er mod i wedi gadael fy nghartref yn Manod ers dros 40 o flynyddoedd, pan fydd pobol yn gofyn o ble dwi’n dod? Blaenau Ffestiniog ydi’r ateb, ond fydda’i wastad yn pwysleisio “o Manod, Blaenau Ffestiniog”. Yno yn 6 Tyddyn Gwyn (drws nesaf i Anti Ifans, hen gariad Hedd Wyn) ges i’n magu. Yno mae fy ngwreiddiau; ac yno roddodd sylfaen i bob dim a ddigwyddodd ar ôl hynny.

Mae Manod yn linyn hir o stryd, sy’n dechrau -i mi beth bynnag- ger tŷ Dr Evans fel y dowch chi o Llan Ffestiniog, ac yn ymestyn yr holl ffordd heibio Gwaith Sets tua Tanymanod, ac mae’r hen gytiau sinc wrth Garej Cambrian yn nodi bod rhywun wedi croesi Checkpoint Charlie ac wedi dod i ‘downtown’ Blaenau! Roedd pobol Manod wastad yn ‘mynd i fyny i Blaenau’ i neud negas ac maen nhw dal i neud siwr o fod. Nid sybyrb mo Manod -o naci- ond pentref o fewn y dre! Pentref cystal a Llan neu Tanygrisiau bob tamad!

Sy’n dod a fi yn daclus at y trwbador o Danygrisiau, Gai Toms. Mae Gai wedi llwyddo yn feistrolgar i godi Tanygrisiau i statws eiconig trwy ei ganeuon a’i eiriau coeth, wel dwi am ymladd cornel Manod am eiliad rwan a deud fod y ddau le yn ddrych o’u gilydd a rwbath sydd gan Tangrish, wel, mae gan Manod hefyd..! Dau hen bentref sydd wrth droed eu mynyddoedd – y Manod Mawr a’r Bach a’r Moelwyn Mawr a’r Bach. Mae gan Danygrisiau ysgol, llyn, rhaeadr, hen felin wlan, hen bost, cae chwarae, chwareli, ac wrth gwrs mae gan Manod rheini i gyd hefyd. Poblogaeth tebyg, tirlun a chymeriadau tebyg. SNAP!

Wrth feddwl yn ôl i´r 60’au a’r 70’au pan ges i fy magu yn Manod, roedd y lle yn frith o gantorion a cherddorion. Fy nhad, Meirion Jones, arweinydd a sefydlydd Côr y Brythoniaid, wrth gwrs oedd y dylanwad mwyaf arna i. Roedd yn godwr canu yng nghapel Hyfrydfa ac yno roedd hadyn y Brythoniaid wedi’i hau yn ei feddwl. Yn Hyfrydfa hefyd oedd John Tyddyn Gwyn yn aelod: John Llewelyn Thomas i roi ei lawn enw, un o faritoniaid gorau Cymru yn ei ddydd, a fu farw yn ddiweddar iawn a mawr fydd ei golled. Dwi’n cofio mynd lawr efo John a nhad i Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964 yn mini-fan John: dad yn y sêt passenger a mam, ‘y mrawd bach Gareth a fi, ar lawr yng nghefn y fan ar glustogau! Roedd Dad a John yn cystadlu ar yr unawd bariton ac mi gafodd y ddau lwyfan. Yn anffodus iddyn nhw, y canwr arall a gafodd lwyfan oedd Gwynne Howell - a oedd yn Llundain yn astudio canu ac a ddaeth yn seren opera enwog yn y blynyddoedd ar ôl hynny. Y fo wrth gwrs gafodd gyntaf, John yn ail, a dad yn drydydd! Fe wnaeth Manod yn reit dda y diwrnod hwnnw!

Erbyn oeddwn i’n ddeg oed, roedd dylanwad cerddorol fy nhad yn fawr arnai. Gofynodd dad i Bob Morgan, arweinydd Band yr Oakeley, a fedra fo roi gwersi corn i mi. Bob wrth gwrs yn byw yn Manod hefyd -yn Penygwndwn- ac yn ddyn arall a gafodd ddylanwad aruthrol arna i, a mawr yw fy nyled iddo fo. O fewn y flwyddyn roeddwn yn aelod o’r band ac yn chwarae 3rd cornet. Roedd Bob, fel dad ac eraill, wedi rhoi eu bywydau i gerddoriaeth ac i’r gymdeithas yn y Blaenau, ac wedi rhoi cyfle i nifer fawr o blant a phobol yr ardal i ddysgu am fiwsig a chael cyfla i ehangu eu gorwelion. 


Agorodd y cornet a’r trwmped ddrysau i gyfleoedd di-ri yn fy arddegau. Bûm yn aelod o fandiau, cerddorfeydd a chorau drwy’r 70’au. Ond nid miwsig oedd pob dim chwaith! Roeddwn i wrth fy modd efo ffwtbol, ac yn chwarae efo Ieuenctid Blaenau, ac mi oedd ganddo ni dîm da hefyd. Gyrhaeddon ni ffeinal Cwpan Ieuenctid Gogledd Cymru yn 1974 yn erbyn Llandudno Swifts efo Neville Southall yn gôl iddyn nhw. Mi wnes i sgorio foli yn erbyn Southall ond mi gollon ni 2-1! Dwi wedi gwledda ar y gôl honno am flynyddoedd! Hyd heddiw pan fydda’i yn mynd am dro heibio cae ffwtbol Cae Clyd, dwi’n dal i gael wiff o linament, a chael fy atgoffa o fynd i weld tîm Blaenau, pan oedd Glyn Owen yn chwarae yn ganol cae, a daw lluniau o Glyn a’i comb-over fel Bobby Charlton a’i goesau bach cam i’m cof. Roedd o yn athro mathemateg yn Ysgol y Moelwyn am flynyddoedd i’r rhai sy’n ei gofio.

Yn 2020 bydda’ i’n dathlu 40 mlynedd o fod yn actor proffesiynol. Dwi wedi bod yn chwarae rhan Arthur Thomas yn Rownd a Rownd ers dros 10 mlynedd rwan ac wrth agosau at y dathliad mae’n braf medru edrych yn ôl a sylweddoli dylanwad bro fy mebyd ar fy mywyd. Mae arogl Capel Hyfrydfa dal yn fy ffroenau.  Bydda’i dal yn mynd i Manod yn amal -er mod i wedi emigratio i Benrhyndeudraeth- i weld mam sydd dal yn byw yn y bynglo ar safle hen stesion Manod. A bydd rhyw gynhesrwydd cyfarwydd yn dod drwyddai pan fyddai yn dreifio o Ryd Sarn a gweld yr arwydd MANOD 2, “cyn troi am y Ceunant Sych unwaith eto” fel dywedodd rhyw bwt o fardd o Traws un tro wrth iddo ddyheu o bell am gariad wrth droed y Manod.
--------------------------------

Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.

22.7.16

Tiwnio'r Tannau

Hanes gwahodd yr Ŵyl Cerdd Dant i Stiniog, gan Iwan Morgan

Ym mis Mai, galwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Ysgol y Moelwyn gan John Eifion, trefnydd y Gwyliau Cerdd Dant. Daeth criw bychan at ei gilydd a phenderfynwyd yn unfrydol i wahodd yr Ŵyl i’r dref yn 2018.

Mae Gŵyl Cerdd Dant Cymru yn un o wyliau ‘un diwrnod’ mwyaf Prydain os nad Ewrop, a theimlad llawer ohonom ydy ei bod hi’n fraint ac anrhydedd cael ei gwahodd yma am y tro cyntaf yn ei hanes. Tuedd yr Eisteddfod Genedlaethol a Phrifwyl yr Urdd, pan gaiff ei gwahodd gennym ni’r Meirionwyr, ydy dewis y Bala neu Ddolgellau fel lleoliad. Dyma gyfle i ni, garwyr ‘Y Pethe’ estyn croeso ‘Stiniog i Ŵyl genedlaethol mor safonol.

Iwan a Chôr Cerdd Dant LLIAWS PRYSOR

Pan oeddwn yn olygydd Llafar Bro o Fedi 1988 hyd Fehefin 1990, erthygl a gyflwynais ar dudalen flaen Rhifyn 146 (Hydref 1988) oedd un am ‘Ŵyl y Cerdd Dantwyr’. Roedd honno ar fin cymryd lle ym Mhwllheli ymhen y mis. I’r dref honno yr aiff ym mis Tachwedd eleni:
“Bydd Gŵyl Cerdd Dant Genedlaethol Cymru yn cymryd lle ym Mhwllheli ... a bydd nifer o selogion cerdd dant a chanu gwerin o Gymru benbaladr yn tyrru yno. Tro’r De fydd hi’r flwyddyn nesaf (1989), a Phontrhydfendigaid fydd y gyrchfan, yna, fe fydd hi’n dro i’r Gogledd i wahodd drachefn.
Beth yw barn darllenwyr
Llafar Bro tybed am ei gwahodd hi i’r Blaenau ym 1990?

Yn sicr, fe fu’r ardal yn un o gadarnleoedd y grefft ar hyd y blynyddoedd. Onid yn y fro hon y rhoddwyd bri ar ganu gyda’r tannau’n y dyddiau cynnar? Daw enw sawl arloeswr i’r cof –
David Francis, y telynor dall, Dewi Mai o Feirion, William Morris Williams, Ioan Dwyryd, J.E.Jones, Maentwrog – i enwi ond ychydig. Rhoes Gwenllian Dwyryd oes o wasanaeth i’r grefft, ac mae’n dal i’w hybu o hyd. Mae Mona Meirion ac Einir Wyn Davies – dwy sy’n enedigol o’r Llan – ymhlith cyfeilyddion enwoca’r genedl – ac mae eu henwau i’w gweled fel telynoresau yn rhestrau testunau’r naill ŵyl genedlaethol ar ôl y llall ..... Beth amdani felly?”
[‘Llafar Bro’. Rhifyn 146 ... Hydref 1988]

Ddaeth hi ddim i’r Blaenau ym 1990. Fe aeth yn hytrach i Fangor. Cofiaf drafod y mater efo’r cyn-Drefnydd, Dewi Prys Jones, Llangwm, a doedd o ddim yn teimlo fod ei lleoli’n y Blaenau’n addas y pryd hwnnw.

Bellach, mae amgylchiadau wedi newid, a gallwn, mi allwn ei chynnal yma ar gampws Ysgol y Moelwyn.

Estynnwn wahoddiad i gymaint ohonoch ag a fedr ddod ynghyd i’r cyfarfod nesaf [gweler isod].

Does dim rhaid i chi fod yn gerdd dantwyr, yn delynorion, yn gantorion gwerin, yn llefarwyr nac yn ddawnswyr gwerin.

Os ydych yn caru pethau gorau’r diwylliant Cymreig ac yn fodlon gweithio dros eu hybu, neu os oes gennych awgrymiadau am ddulliau codi arian neu ddiddordeb mewn stiwardio, apeliwn yn daer am eich cefnogaeth.

Rydw i’n siŵr na fyddwch chi’n difaru cael bod yn rhan o dîm lleol fydd yn fodd i roi statws cenedlaethol i’r hen dre unwaith eto ac i ddod ag atgyfnerthiad bychan i’r economi leol.

**********************
Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Mehefin 2016.
A'r diweddariad isod yn rhifyn Gorffennaf 2016.

Gŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog a’r Cyffiniau 2018

Mae’r dyddiad wedi’i osod a’r pwyllgor gwaith wedi dechrau ar y trefnu sylweddol sydd o’u blaen. Cynhelir gŵyl undydd mwyaf Cymru yn Ysgol y Moelwyn ar ddydd Sadwrn y 10fed o Dachwedd, 2018.

Penodwyd Iwan Morgan yn gadeirydd, a fo fydd yn llywio’r gwaith cynllunio, ochr yn ochr â threfnydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, John Eifion.

Cytunodd pawb oedd yn y cyfarfod ar yr 22ain o Fehefin i wasanaethu ar un o’r chwech is-bwyllgor:
cerdd dant; 
canu gwerin; 
dawns werin; 
telyn; 
llefaru; 
cyllid a chyhoeddusrwydd, 
ond mae angen mwy o enwau i sicrhau llwyddiant y trefniadau. Byddwn angen cymorth pawb yn y gwaith hwyliog o gasglu arian a threfnu gŵyl lwyddiannus.

Be’ amdani gyfeillion, ydych chi’n fodlon cefnogi? 

Bydd y cyfarfod nesa’ ar Nos Fawrth, y 27ain o Fedi eleni, am 7.30 o’r gloch, yn Ysgol y Moelwyn.

Dewch draw, mae croeso i bawb. Nid oes angen i chi fod yn gerdd-dantiwrs; yn gerddorion; nac yn ddawnswyr gwerin! Os oes gennych ddiddordeb yn nhraddodiadau Cymru, ac eisiau gweld Bro Ffestiniog yn cael sylw haeddianol yn y cyfryngau, dewch i gyfrannu. Diolch. -PW

4.1.16

Llyfr Taith Nem- 'y canwr mwyaf difrifol..'

Pennod arall o  hanesion rhyfeddol Nem Roberts Rhydsarn yn ‘Merica.

1930’au
Meddyliais un tro buaswn yn hoff o fod yn ganwr.  Yr oeddwn wedi gwrando ar amryw, a phob tro yr oeddwn yn eiddigeddus o’u doniau.  Doeddwn yn gwybod fawr ddim am gerddoriaeth, ond teimlwn na fuaswn yn hir yn dysgu canu, a mwya’n y byd feddyliwn am y peth, sicraf yn y byd oeddwn fod defnydd canwr o fri ynof.  Ymddengys i mi wneud peth camgymeriad ar ddechrau yr yrfa.  Yn lle myned at athrawes profiadol i geisio dysgu, eis ati i addysgu fy hunan.  Rhaid dysgu plentyn i gerdded, rhaid dysgu pregethwr i bregethu, ac yn siwr rhaid dysgu perchen llais sut mae ei ddefnyddio.

Wedi rhai wythnosau yr oedd eisteddfod yn y ddinas lle’r oeddwn yn aros, ac heb feddwl ddwywaith penderfynais ymgeisio ar yr unawd tenor.  Yr unawd odd ‘Y Dyddiau Gynt’.  Cefais sgwrs ac un dadganwr profiadol a dywedodd wrthyf mai peth doeth cyn canu yn gyhoeddus oedd peidio bwyta drwy’r dydd y gystadleuaeth, a’i bod yn haws canu ar ystumog wag, ond yr oedd yn bwysig cario potel o wisgi yn y boced, a dipyn o glycerine ynddo, a chymeryd swig yn achlysurol.  Pe tawn wedi clywed am yr ystumog wag yn gynt, mae’n debyg y buaswn wedi rhoddi heibio uchelgeisio fel dadganwr.

Daeth diwrnod y gystadleuaeth, a thra’n gweithio yn y ffactri dychmygwn glywed cymeradwyaeth y dorf – yn wir clywn fy hunan yn taro C uchaf fel Caruso.

Fel y dywedodd rhyw feirniad rhwy dro:
waeth i ddau heb a chanu deuawd ‘y ddau forwr’ a hwythau yn edrych fel dau deiliwr
felly rhaid oedd gwisgo yn briodol i’r dasg.

Tua chwech o’r gloch y noson honno, gwelais y brawd roddodd y cyngor i mi am yr ystumog wag, a’r peth cyntaf ddywedodd oedd, “Beth am fynd am lasiad neu ddau i dafarn Jack Jones?”  I mewn a ni yn ddioed, ac wedi glasiad neu ddau, anghofiodd ef a minnau am bwysigrwydd ystumog wag, a bwyta ac yfed buom nes oeddym yn llawn at y gwddf, ac yna i ffwrdd a ni i’r Eglwys Gymraeg, lle cynhelid yr eisteddfod. 

Gŵr tal a locsyn du ganddo oedd arweinydd y cyfarfod, a llais fel udgorn ganddo.  Dangosodd fy nghyfaill y beirniad canu i mi, a chymerais yn erbyn y brawd ar fy union, er na welais i erioed mohono o’r blaen.  Wedi cystadleuaeth neu ddwy, awd ymlaen at gystadleuaeth yr unawd tenor – moment y gogoniant neu’r gwymp.  Yr oedd saith wedi anfon eu henwau, ond er galw ac ail alw amdanynt nid oedd neb yn ateb.  Fy enw i oedd yr olaf ar y rhestr, ac meddai’r arweinydd, 

A ydyw E.R. yn bresennol.”  
Yr oeddwn yn fud a chlywn fy mhengliniau yn taro yn eu gilydd fel drwm.  

Os ydyw E.R. yn bresennol, fe gaiff y wobr”  meddai’r arweinydd.
YMA!” meddwn mewn llais uchel o’r sedd uchaf yn yr oriel, ac i ffwrdd a mi i’r llwyfan i dderbyn y wobr, gan anadlu yn rhydd wrth feddwl nad oedd angen i mi ganu.  Ond pan gyrhaeddais y llwyfan, cefais sioc ddyrchrynllyd pan dywedodd yr arweinydd, “Er nad oes neb arall wedi dod i ymgeisio ar yr unawd, rhaid profi teilyngdod, felly distawrwydd, os gwelwch yn dda i E.R. ganu ‘Y Dyddiau Gynt.”  

Yn rhyfedd daeth rhyw hyder i mi o rhywle, wn i ddim o ble daeth, pa un ai’r ddiod, neu’r ffaith nad oedd neb arall yn cystadlu yn fy erbyn, ynte gweld deg dolar o fewn fy llaw megis.  Ta waeth, mi es drwy’r unawd, ond cymysglyd iawn oedd y gymeradwyaeth, ac nid fel oeddwn i wedi ei glywed yn fy nychymyg yn ystod y dydd.

Daeth y beirniad i gyflwyno ei feirniadaeth ar fy ymdrech gyntaf fel dadganwr, ond fel y digwyddodd hi, honno oedd fy ymdrech olaf hefyd.  Yr oeddwn wedi fy namnio yn ei frawddeg gyntaf.  

Meddai: 
Dyma’r dadganwr mwyaf difrifol glywais ar lwyfan erioed.  Nid oedd yn gwybod yr unawd, nis gallai gynhyrchu ei lais, ac nid oedd ganddo lais i’w gynhurchu.
Yr wyf am iddo gael y wobr, nid am ei ddadganiad, ond am ei ddigywileidra yn dod i’r llwyfan.
”  

Ac felly y bu.

Er hynny i gyd, credaf hyd heddiw i’r beirniad hwnnw fod yn rhy llym o lawer.  Dywedodd y cyfeilydd wrthyf bod gennyf ddefnydd llais da, ond fy mod angen llawer o hyfforddiant.

Ar wahan i fy ymdrech drychinebus credaf fod beirniad yn rhy frwnt o lawer wrth gystadleuwyr ieuanc.  Sathru yr ymgeisydd yn lle ei helpu a’i annog i fwy o ymdrech.  Wedi’r cwbl pe tae pob ymgeisydd yn berffaith ni fuasai cystadleuaeth.  Pwy wyr, hwyrach pe tae’r beirniad hwnnw wedi bod yn garedicach y noson honno, y buaswn erbyn heddiw yn nodedig fel un ddatganwyr operataidd mwyaf Cymru.

--------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 1998. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.