Mae dylanwad y filltir sgwâr yn allweddol yn aml iawn wrth i rywun ddatblygu diddordebau, a’r rheiny’n aml yn arwain at yrfa greadigol. Mae Gwyn Vaughan Jones yn adnabyddus heddiw fel actor ar gyfres boblogaidd Rownd a Rownd. Yma cawn gipolwg ar ei daith o’r Manod i fyd gwaith.
Er mod i wedi gadael fy nghartref yn Manod ers dros 40 o flynyddoedd, pan fydd pobol yn gofyn o ble dwi’n dod? Blaenau Ffestiniog ydi’r ateb, ond fydda’i wastad yn pwysleisio “o Manod, Blaenau Ffestiniog”. Yno yn 6 Tyddyn Gwyn (drws nesaf i Anti Ifans, hen gariad Hedd Wyn) ges i’n magu. Yno mae fy ngwreiddiau; ac yno roddodd sylfaen i bob dim a ddigwyddodd ar ôl hynny.
Mae Manod yn linyn hir o stryd, sy’n dechrau -i mi beth bynnag- ger tŷ Dr Evans fel y dowch chi o Llan Ffestiniog, ac yn ymestyn yr holl ffordd heibio Gwaith Sets tua Tanymanod, ac mae’r hen gytiau sinc wrth Garej Cambrian yn nodi bod rhywun wedi croesi Checkpoint Charlie ac wedi dod i ‘downtown’ Blaenau! Roedd pobol Manod wastad yn ‘mynd i fyny i Blaenau’ i neud negas ac maen nhw dal i neud siwr o fod. Nid sybyrb mo Manod -o naci- ond pentref o fewn y dre! Pentref cystal a Llan neu Tanygrisiau bob tamad!
Sy’n dod a fi yn daclus at y trwbador o Danygrisiau, Gai Toms. Mae Gai wedi llwyddo yn feistrolgar i godi Tanygrisiau i statws eiconig trwy ei ganeuon a’i eiriau coeth, wel dwi am ymladd cornel Manod am eiliad rwan a deud fod y ddau le yn ddrych o’u gilydd a rwbath sydd gan Tangrish, wel, mae gan Manod hefyd..! Dau hen bentref sydd wrth droed eu mynyddoedd – y Manod Mawr a’r Bach a’r Moelwyn Mawr a’r Bach. Mae gan Danygrisiau ysgol, llyn, rhaeadr, hen felin wlan, hen bost, cae chwarae, chwareli, ac wrth gwrs mae gan Manod rheini i gyd hefyd. Poblogaeth tebyg, tirlun a chymeriadau tebyg. SNAP!
Wrth feddwl yn ôl i´r 60’au a’r 70’au pan ges i fy magu yn Manod, roedd y lle yn frith o gantorion a cherddorion. Fy nhad, Meirion Jones, arweinydd a sefydlydd Côr y Brythoniaid, wrth gwrs oedd y dylanwad mwyaf arna i. Roedd yn godwr canu yng nghapel Hyfrydfa ac yno roedd hadyn y Brythoniaid wedi’i hau yn ei feddwl. Yn Hyfrydfa hefyd oedd John Tyddyn Gwyn yn aelod: John Llewelyn Thomas i roi ei lawn enw, un o faritoniaid gorau Cymru yn ei ddydd, a fu farw yn ddiweddar iawn a mawr fydd ei golled. Dwi’n cofio mynd lawr efo John a nhad i Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964 yn mini-fan John: dad yn y sêt passenger a mam, ‘y mrawd bach Gareth a fi, ar lawr yng nghefn y fan ar glustogau! Roedd Dad a John yn cystadlu ar yr unawd bariton ac mi gafodd y ddau lwyfan. Yn anffodus iddyn nhw, y canwr arall a gafodd lwyfan oedd Gwynne Howell - a oedd yn Llundain yn astudio canu ac a ddaeth yn seren opera enwog yn y blynyddoedd ar ôl hynny. Y fo wrth gwrs gafodd gyntaf, John yn ail, a dad yn drydydd! Fe wnaeth Manod yn reit dda y diwrnod hwnnw!
Erbyn oeddwn i’n ddeg oed, roedd dylanwad cerddorol fy nhad yn fawr arnai. Gofynodd dad i Bob Morgan, arweinydd Band yr Oakeley, a fedra fo roi gwersi corn i mi. Bob wrth gwrs yn byw yn Manod hefyd -yn Penygwndwn- ac yn ddyn arall a gafodd ddylanwad aruthrol arna i, a mawr yw fy nyled iddo fo. O fewn y flwyddyn roeddwn yn aelod o’r band ac yn chwarae 3rd cornet. Roedd Bob, fel dad ac eraill, wedi rhoi eu bywydau i gerddoriaeth ac i’r gymdeithas yn y Blaenau, ac wedi rhoi cyfle i nifer fawr o blant a phobol yr ardal i ddysgu am fiwsig a chael cyfla i ehangu eu gorwelion.
Agorodd y cornet a’r trwmped ddrysau i gyfleoedd di-ri yn fy arddegau. Bûm yn aelod o fandiau, cerddorfeydd a chorau drwy’r 70’au. Ond nid miwsig oedd pob dim chwaith! Roeddwn i wrth fy modd efo ffwtbol, ac yn chwarae efo Ieuenctid Blaenau, ac mi oedd ganddo ni dîm da hefyd. Gyrhaeddon ni ffeinal Cwpan Ieuenctid Gogledd Cymru yn 1974 yn erbyn Llandudno Swifts efo Neville Southall yn gôl iddyn nhw. Mi wnes i sgorio foli yn erbyn Southall ond mi gollon ni 2-1! Dwi wedi gwledda ar y gôl honno am flynyddoedd! Hyd heddiw pan fydda’i yn mynd am dro heibio cae ffwtbol Cae Clyd, dwi’n dal i gael wiff o linament, a chael fy atgoffa o fynd i weld tîm Blaenau, pan oedd Glyn Owen yn chwarae yn ganol cae, a daw lluniau o Glyn a’i comb-over fel Bobby Charlton a’i goesau bach cam i’m cof. Roedd o yn athro mathemateg yn Ysgol y Moelwyn am flynyddoedd i’r rhai sy’n ei gofio.
Yn 2020 bydda’ i’n dathlu 40 mlynedd o fod yn actor proffesiynol. Dwi wedi bod yn chwarae rhan Arthur Thomas yn Rownd a Rownd ers dros 10 mlynedd rwan ac wrth agosau at y dathliad mae’n braf medru edrych yn ôl a sylweddoli dylanwad bro fy mebyd ar fy mywyd. Mae arogl Capel Hyfrydfa dal yn fy ffroenau. Bydda’i dal yn mynd i Manod yn amal -er mod i wedi emigratio i Benrhyndeudraeth- i weld mam sydd dal yn byw yn y bynglo ar safle hen stesion Manod. A bydd rhyw gynhesrwydd cyfarwydd yn dod drwyddai pan fyddai yn dreifio o Ryd Sarn a gweld yr arwydd MANOD 2, “cyn troi am y Ceunant Sych unwaith eto” fel dywedodd rhyw bwt o fardd o Traws un tro wrth iddo ddyheu o bell am gariad wrth droed y Manod.
--------------------------------
Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon