1.11.19

Dyna oedd fy ngalwad

Mae holl waith y cartwnydd Mal Humphreys, wedi cael ei ychwanegu at gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr haf hwn; tipyn o fraint. Dros y blynyddoedd, mae Mumph wedi cyfrannu darluniau a chartŵns i nifer o bapurau newydd a chylchgronnau, ac yn dylunio mygiau a chalendrau Mugbys. Yma cawn gipolwg ar ei gefndir, a chartŵn newydd sbon yn arbennig ar gyfer Llafar Bro!

Dwi’n hynod falch mod i’n hogyn o ‘Stiniog a dwi’n hynod falch ‘mod i wedi byw a gweithio mewn tair allan o bedair cornel yn Nghymru hefyd. Mae’n brofiad sydd wedi fy elwa, cyfle i mi ddysgu am y gwahanol  ardaloedd, eu pobol ac agweddau -o’r toffs yn y Fenni; y di-waith yng Nglyn Ebwy a Treherbert; i’r werin yng nghefn gwlad Gwynedd a Cheredigion.

A tra bod yr agweddau ar iaith yn amrywio o le i le, mae na un elfen sydd yn ein clymu ni i gyd gyda’n gilydd, ein cariad dros Gymru. Mae’n ffaith bod rhai yn gweiddi Wales tra bo rhai eraill yn gweiddi Cymru, ond peidiwch a gadael i’r diffyg iaith eich dallu chi o’r balchder sydd yn mudlosgi yn eu calonnau. 

Wrth reswm, druan o’r unigolyn fyddai’n ddigon dewr i gerdded i mewn i’r Pengwern ar nos Sadwrn a chyhuddo trigolion y noson bod nhw ddim digon Cymraeg. Fe allai sicrhau chi, byddai union yr un ymateb mewn unrhyw dafarn yn Y Rhondda, Y Fenni a Cheredigion!

Yn fy mlynyddoedd cynnar fel plentyn yn y Blaenau (dwi mynd yn ôl i’r 60au)  dwi’n cofio ambell i oedolyn ‘cyfeillgar’ yn fy nghynghori- ‘Os wyt ti am lwyddo yn y byd, tydi Cymraeg yn dda i ddim’, ac mai Saesneg oedd iaith fy nyfodol.

Mi roedd hi’n anodd iawn i mi ddadlau yn erbyn hynna. Wedi’r cyfan, roedd popeth yr oeddwn i’n ei fwynhau fel hogyn ifanc, yn yr iaith fain.


Rhaglenni teledu fel Blue Peter, Batman, a’r Top 40 ar Radio 1 ar ddydd Sul. A beth oedd gan ‘y ffordd Gymreig o fyw’ i’w gynnig? Rhaglenni fel Dechrau Canu, Dechrau Canmol neu Yr Wythnos, sef llond llaw o oedolion yn trafod digwyddiadau’r wythnos o safbwynt Cymru.



Dim bod 'na ddim byd o’i le efo Dechrau Canu Dechrau Canmol ond, nid yr adloniant ddelfrydol i hogyn yn ei arddegau cynnar, oedd eisio bod yn jyst fel Starsky and Hutch. Gyda llaw, fy ffrind o’r drws nesa’, Nicky Henshaw oedd Hutch i fi, gan fod ganddo wallt golau.

Diolch i’r drefn mae pethau wedi newid, tydwi ddim eisio bod yn Tony Curtis ddim mwy ac mae arwyr fel Gwynfor Evans, Edward H Dafis ac Yws Gwynedd wedi sicrhau bod dewis llawer mwy eang o raglenni teledu a chaneuon ar gael i bawb erbyn heddiw.

Ond mae’n rhaid i mi gyfaddef bod nosweithiau gaeafol hir a thywyll yn gwylio’r teledu uniaith fain wedi dylanwadu ar yr hogyn ifanc yma o Llan. Yn Llundain oeddwn i eisio bod. Yn gweithio yn y ddinas ac yn dod adref yn fy siwt ddrud i fflat cysurus, lle roedd fy wraig yno yn disgwyl amdana i, cinio ar y bwrdd a Large Scotch on the Rocks yn ei llaw jyst fel pennod o Late Night Theatre ar Granada TV.

Nes i fyth fyw yn Llundain, yn hytrach mynd lawr i weithio ym mhrif ddinas Cymru. Yn Thomson House, prif swyddfeydd y Western Mail. Ac wedi diwrnod o waith, mynd yn ôl adref yn fy siwt rhad, i fflat wag yn Cathedral Road lle byddwn i’n cynhesu tun o datws a chicken supreme cyn ei olchi i lawr efo can o Carling!

A dyna oedd fy ngalwad. Caerdydd nid Llundain; Cymru nid Lloegr. Ac er fod y mwyafrif o’m gwaith wedi bod yn yr iaith fain, roedd gwybodaeth o’m mamiaith a’r gallu i feddwl yn Gymraeg yn hanfodol i’m llwyddiant.

Yma yn awr yng Ngheredigion, mi fyddai’n aml yn edrych ar draws y bae, ac ar ddiwrnod clir, yn gweld mynyddoedd cadarn Eryri. Y mur naturiol creigiog a rwystrodd Edward Longshanks rhag cipio’r ffordd Gymreig o fyw. Yn rhyfedd iawn, mae cadernid y mynyddoedd yn amlygu breuder yr iaith sydd y swatio o dan eu cysgod.

Byddai’n aml yn meddwl hefyd faint gwell fyddai’r byd pe tai pawb yn cael eu magu am 18 mlynedd yn ardal Blaenau Ffestiniog!
----------------------------------

Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.


1 comment:

Diolch am eich negeseuon