23.11.19

Cadeirio Elfyn

Ail ran erthygl Steffan ab Owain ar Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898.

Yn y rhifyn diwethaf dyfynnais o atgofion Humphrey Jones, neu ‘Bryfdir’ fel y’i gelwid gan amlaf, a gadawodd yntau ni ynghanol y stori am Elfyn, y bardd o’r Llan a ymgeisiodd am y Gadair yn yr eisteddfod uchod. Dyma barhau a’r hanes rwan:
‘Wedi cael y wybodaeth yna, cyfieirais y ceffyl a’r cart at y Pengwern Villa, cartref Llyfrgell y Llan. Disgynnais yno a dringais y llwybr troed i ffrynt y tŷ – mewn diogel obaith y byddai’r ceffyl ar y ffordd pan ddychwelwn. Gwelais y bardd drwy’r ffenestr, nid oedd ond efe i mewn ar  y pryd – wedi cysgu yn llygad yr haul, a’r Western Mail wedi llithro trwy’i ddwylo ar draws ei goesau!

Dywedais rai geiriau celyd am ei ddifrawder a’i ddiffyg cefnogaeth i’r Eisteddfod, ac yntau o fewn pedair milltir iddi. Ei unig esgus a’i amddiffyniad oedd “na wyddai ef sut yr oedd pethau yn mynd.” Nid oedd amser na thuedd i ymdderu. Dywedais wrtho fy mod wedi cael pob lle i gasglu ei fod wedi ennill y Gadair,  a bod gennyf gar a cheffyl ar y ffordd i’w gymryd i’r Blaenau ar unwaith. Aeth y wyneb gwelw yn welwach nac arfer, ond llwyddais i’w gael i’r cerbyd a gadael y Llan heb dynnu  llawer o sylw. Gofynnodd dro ar ôl tro a oeddwn yn ei siomi, a minnau yn ateb i’r gwrthwyneb.

Cwynai ar ei wisg i wynebu’r miloedd, ond sicrheais ef fod cyfeillion yn ein haros ar y byddai popeth yn iawn. Penderfynais ei roi i lawr encyd o ffordd cyn cyrraedd y babell i arbed cyffro. Gadewais y ceffyl yn y fan a’r lle, gan fod yr amser wedi rhedeg ymhell. Nis gwn pwy gymrodd drugaredd arnynt. Yno y buasen eto o’m rhan i. Wedi cyrraedd y babell sylwais fod Dyfed wrth y gwaith o draddodi ei feirniadaeth ef a Berw ar yr Awdlan. Daeth yn union at yr orau, sef eiddo ‘Einion Urdd’. Wedi llawer o sylwadau canmoliaethus, darllenodd englyn neu ddau, lle yr oedd yr awdur yn achwyn ar ei gân i Awen:
‘Dda awen, rho faddeuant – i wendid
A phrinder fy moliant;
Maddau di y trymaidd dant
Ganodd gan ddi-ogoniant.
Hwyrach mewn gwell gororau – awen ber
Y cei burach odlau,
Fe’th lonaf a thelynau
Engyl nef os ca’i nglanhau’.
Galwodd Hwfa Môn ar Einion Urdd i sefyll ar ei draed, a chododd Elfyn yng nghanol banllefau y miloedd. Sylwais ar Iolo Caernarfon, o weld cyrchu’r bardd i’r llwyfan. –
Yn wylo cyfeillgarwch pur
Yn ddagrau melys iawn.
Cafodd Berw hanes y wibdaith i’r Llan, ac fel ‘John Gilpin’ y dewisai fy nghyfarch yn ddireidus oddiar y diwrnod hwnnw.

Nid wyf yn cofio cymaint diddordeb yn cael ei ddangos yng nghystadleuaeth y Corau Meibion nemor erioed. Y darnau dewisedig oedd ‘Gyrrwch Wyntoedd’ (Jenkins) a ‘Theyrnged Cariad’ (Pughe Evans). Daeth corau Cefn Mawr, Llanberis, Gwalia a Rhos a Phort Talbot i’r ymrych anrhydeddus hon. Côr y Rhos dan arweiniad Mr Wilfred Jones oedd y buddugol, ac iddo ef y dyfarnwyd y Tlws Aur fel yr arweinydd mwyaf chwaethus. Nid oedd glawdd na mynydd a safai ar ffordd bechgyn y Rhos wedi’r dyfasrniad. Ar eu rhawd i’r llythyrdy yr oeddynt fel ewigod a’r fynyddoedd y perlysiau.

Yn y cyngerdd olaf, perfformiwyd Traeth y Lafan (D. Christmas Williams) a’r awdur galluog yn arwain. Dywedodd wrthyf ar ei ffordd i’w lety y noson honno nad anghofiai byth y derbyniad a roddwyd iddo ef a’i waith. Yn yr ail ran o’r cyngerdd datganwyd gan Miss Maggie Davies, Madam Hannah Jones a’r Mri Tom Thomas, Herbert Emlyn a David Huhges, Offerynwyr, Miss Llywela Davies a Mr E.D. Lloyd, a Chôr yr Eisteddfod dan arweiniad Mr Cadwaladr Roberts. Nid wyf yn meddwl fod un o’r rhestr hon yn aros. Yr oeddynt yn anterth eu bri ar fryniau Meirion, ac nid ydynt wedi gwneud rhagor na newid gwlad.’
----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1998, i nodi canrif ers cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Blaenau.

Llun- Alwyn Jones.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon