14.11.19

Dyfal Donc a Dyrr y Garreg

Yn ogystal â chyflogi tîm yn lleol, mae’r DREF WERDD  hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd i wirfoddoli ac i ddysgu sgiliau newydd; cyfleon gwerthfawr iawn i unigolion, ac er budd  y gymuned a’r economi leol. Llwyddwyd i ddenu cyllid eto er mwyn parhau â’r amcanion; dyma gyflwyniad byr i’r swyddogion, i ni gael dod i’w hadnabod, a chrynodeb o’r gwaith sydd o’u blaenau.
 


Rhian Williams – Gweithiwr Prosiect Llesiant
Yn un o drigolion Bro Ffestiniog ers dros 20 mlynedd, rwyf wedi gweithio mewn amryw lefydd yn yr ardal. Ar ôl gweithio gyda phlant yn Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth am unarddeg mlynedd, roeddwn yn barod am sialens newydd, a chael dod yn ôl i weithio i fy nghymuned.

Rwyf yn weithgar fel Gweithiwr Llesiant yma gyda’r Dref Werdd, ac yn barod i helpu’r gymuned, gyda biliau Ynni, mynd ar y we, unrhyw broblemau sydd gan unrhyw un, gwnawn ein gorau i’ch helpu. Edrychaf ymlaen yn frwdfrydig i’r gwaith diddorol o’m mlaen, a bod yn rhan o gymuned glòs Ffestiniog



Gwydion ap Wynn – Rheolwr Prosiect
Rydw i wedi gweithio i’r Dref Werdd ers 2007 rhwng cyfnodau byr o weithio mewn swyddi eraill. Mae cymuned ac amgylchedd Bro Ffestiniog yn hynod bwysig i mi ac rydw i wedi cael y fraint ers 4 mlynedd bellach i reoli’r prosiect ac roeddwn yn rhan o sicrhau'r arian Loteri ar gyfer y 4 mlynedd nesaf. Byddaf yn gyfrifol eto am reoli'r prosiect yma, yn ogystal â datblygu’r Dref Werdd i fod yn gynaliadwy i’r dyfodol ac i ddatblygu ac adnabod prosiectau a mentrau newydd.
Rydw i hefyd yn gyfarwyddwr i Gwmni Bro Ffestiniog ac Antur Stiniog ac yn gwirfoddoli fy amser i glwb pêl droed Bro Hedd Wyn Celts a chlwb rhedeg Hebog.

Meg Thorman - Gweithiwr Prosiect Amgylcheddol
Bydd Meg yn wyneb cyfarwydd i lawer yn y gymuned, wedi’i magu ym Mlaenau, gyda phrofiad o ddarparu gweithgareddau awyr agored, ysgol goedwig, addysg amgylcheddol, cefnogi prosiectau cymunedol a gwirfoddoli ei hun. Ynghyd â datblygu perllannau a choedlannau cymunedol, a chefnogi a threfnu sesiynau codi ymwybyddiaeth amgylcheddol, bydd Meg hefyd yn parhau â'r gwaith o reoli lledaeniad Rhododendron ponticum a llysiau'r dial. Bydd hyn yn cynnwys recriwtio mwy o wirfoddolwyr, sy'n hanfodol er mwyn i'r gwaith lwyddo.

Meilyr Tomos – Gweithiwr Prosiect Llesiant
Mae Meilyr wedi dychwelyd i’r Dref Werdd ar ôl dwy flynedd yn adran digartrefedd Cyngor Gwynedd. Yn ystod y cyfnod efo Gwynedd mae o wedi codi tipyn o sgiliau newydd – yn benodol, trin a thrafod budd-daliadau, a materion tai. Mae o dal yn danbaid am faterion ynni, a’r ysfa i geisio gwella pethau i’r perwyl hynnu mor gryf ac erioed.
Mae o’n andros o falch o fod yn ôl yn y Blaenau, ac yn edrych ymlaen dorchi ei lewys, a mynd i’r afael a phethau unwaith eto.   
-----------------------

Rhaglen amgylcheddol
Un o’r prif brosiectau dros y bedair blynedd nesaf bydd i reoli’r rhywogaethau ymledol sydd wedi ymgartrefu ym Mro Ffestiniog dros y blynyddoedd. Un o’r planhigion hynny yw’r Rhododendron sydd yn gyfarwydd i bawb erbyn heddiw mae’n debyg. Ond, efallai’r un peth sydd ddim mor gyfarwydd ydi’r effaith mae’r planhigyn yma yn cael ar ein planhigion brodorol.

Planhigyn dinistriol arall a fydd yn derbyn sylw yw llysiau’r dial (Japanese knotweed). Bydd sawl un yn ymwybodol o’r effaith mae’r planhigyn yma yn gallu cael ar eiddo a’r problemau mae o’n creu gyda gwerthiant eiddo neu i gael morgais; poen meddwl ac ariannol i sawl un yn yr ardal. Byddwn yn canolbwyntio i ddechrau ar lannau ein hafonydd a safleoedd pwysig eraill. Os ydych yn ymwybodol o unrhyw le sydd yn dioddef o lysiau’r dial, gadewch i ni wybod er mwyn ychwanegu ar ein gwaith mapio o’r planhigyn yma.

Yn ogystal, byddwn yn mynd ati i ddelio gyda jac-y-neidiwr (Himalayan balsam), sy’n brysur ymestyn i wahanol gynefinoedd yn y fro a’n bwriad yw ei reoli cyn iddo ddod yn broblem fawr fel y ddwy rywogaeth arall.

Byddwn hefyd yn plannu llawer mwy o goed. Gyda chanran isel o goed yn y Blaenau, byddwn yn datblygu coedlannau bychain a pherllannau cymunedol, gydag un lleoliad wedi’i gadarnhau ac eraill yn cael eu hystyried.

Hefyd, byddwn yn codi ymwybyddiaeth amgylcheddol ac effeithiau newid hinsawdd, boed hynny trwy gasglu sbwriel; teithiau cerdded; neu sgyrsiau gyda grwpiau neu ysgolion lleol.
Y syniad gyda hyn yw cryfhau dyheadau’r gymuned i fod yn un fwy cynaliadwy at y dyfodol a magu balchder yn ein hamgylchfyd lleol, ac yr amgylchedd yn fwy cyffredinol.

Ynghlwm wrth hyn i gyd bydd cyfle i unigolion, ysgolion a grwpiau wirfoddoli a dysgu mwy am y gwaith, cadwch olwg am ddyddiadau. Os hoffech wybod mwy neu eisiau cymryd rhan, cysylltwch gyda Megan ar 01766 830 082 neu meg@drefwerdd.cymru

Hafan Deg a Cae Bryn Coed
Ychydig dros flwyddyn yn ôl dechreuodd trigolion Hafan Deg, gyda chefnogaeth Y Dref Werdd, weithio ar droi darn bach o dir blêr yn fan gwyrdd cymunedol. Ers hynny, maent wedi ei drawsnewid i ardd brydferth, sy'n hafan i fywyd gwyllt ac yn rhywle i drigolion lleol ei mwynhau.

Yn ddiweddar, cydnabuwyd eu gwaith caled a’u hymroddiad gyda thair gwobr - y gyntaf gan Blaenau yn ei Blodau, a ddyfarnodd iddynt y 3ydd safle yn y categori Gardd Fach.  Maent hefyd wedi derbyn Baner Werdd gan Cadw Cymru'n Daclus, y marc ansawdd a roddir i gydnabod ei fod yn cyrraedd y safon ryngwladol ar gyfer parciau a mannau gwyrdd,  ac oeddent yn enillwyr ar y cyd yng nghystadleuaeth Gardd Gymunedol gyda Grŵp Cynefin.

Mae Clwb Cae Bryn Coed hefyd wedyn derbyn Baner Werdd, yn cydnabod yr oll waith caled gan y gwirfoddolwyr dros y 3 mlynedd diweddaf.  Mae'r ddôl flodau yn edrych yn wych, a’r ardd berlysiau'n ffynnu, ac mae'r cwt  a chwythwyd drosodd yn y storm wedi cael ei ail godi! Mae llawer o waith i'w wneud o hyd i gadw'r cae chwarae mewn cyflwr da, ac mae'r criw, sy'n cyfarfod bob ddydd Sul cyntaf y mis, yn awyddus i groesawu gwirfoddolwyr newydd i helpu i gynnal a chadw'r safle.

Ewch draw i gael golwg os ydych yn pasio Hafan Deg neu Gae Bryn Coed ac efallai bydd modd i gychwyn rhywbeth tebyg yn eich cymdogaeth chi? Rydan o hyd yn edrych am ddwylo a phobl greadigol i helpu, felly cysylltwch gyda thîm Y Dref Werdd am fwy o fanylion, neu mae croeso i chi alw fewn i’n gweld unrhyw dro yn ein siop yn 5 Stryd Fawr.
---------------------------------------

Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a  ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon