6.11.19

Cadwyni Cymunedol

Mater o falchder lleol yw bod mwy o fentrau cymdeithasol y pen o’r boblogaeth ym Mro Ffestiniog nag yn unman arall yng Nghymru. Daeth pedwar ar ddeg menter cymdeithasol* at ei gilydd er mwyn cydweithio dan faner y cwmni cymunedol, Cwmni Bro Ffestiniog. Yn yr erthygl hon mae Elin Hywel yn rhoi gwaith cymunedol heddiw yng nghyd-destun ein hanes.

Mae chwyldro ar droed. Ar ôl cenedlaethau o ddatgan i’r gwrthwyneb mae clustiau ein cymunedau’n dechrau clywed fod gwerth i’w gael - a hynny adra. Fel cymunedau ledled y byd mae ton o hyder i fentro drwy fusnesau cymdeithasol yn dechrau cydiad. I ni yma yng Nghymru mae’n gam hollol naturiol wrth gwrs gyda sefydliadau er budd cymunedol wedi gwreiddio yn ein hanes, o’r capeli i’r cabanau i’r Co-op. Mae gennym hefyd hanes o lwyddiant wrth fentro i fyd busnes er mwyn cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau. Yma yng Ngwynedd mae’r hanes hynny yn mynd yn ôl i’r 1980au pan oedd mentrau cymdeithasol yn ddim ond egin syniad. Mae hefyd posib honni heb flewyn ar dafod fod pob un o’n busnesau bach neu micro yn fusnesau cymunedol. Fel olwyn yn troi mae busnesau bach wedi gwreiddio yn ein cymunedau, ein cymunedau ynom ni, a ni yn ein busnesau. Pob un yn sail i lwyddiant y llall. Y tristwch mawr ydi wedi hanes hir o dan-fuddsoddiad ariannol ac emosiynol mae ein cymunedau yn gwegian. Mae’r olwyn wedi’i tholcio ac mae pob agwedd ohoni felly yn dirywio.

Beth bynnag ein daliadau y gwir ydi ein bod yn byw mewn system gyfalafol. Beth bynnag fydd yr ateb hir dymor i’n problemau cyfoes heddiw rhaid creu ymateb sydd yn defnyddio’r system honno am y gorau. Gallwn fentro i dyfu busnesau sydd yn llwyddiannus yn economaidd ond sydd hefyd yn cael eu gyrru gan yr angen i ymateb i anghenion ein cymuned. Mentrau sydd yn gweld gwerth a gallu yn ein cymuned a’i phobl. A phwy well i wneud hynny ond ni ein hunain. Fel cymuned gref mae ein bro wedi ei wreiddio ynom ni. Drwy fentro i greu busnesau cymdeithasol rydym yn galluogi i bob ochr o’r olwyn gael adfywiad. Mae’n gallu bod yn broses cymhleth a dychrynllyd efallai. Mae’n aml yn ddi-ddiolch ac yn fwy aml na pheidio yn ddi-dâl. Mae gweithio ar y cyd a’n cymdogion â dim yn ein clymu ond gobaith y gellir gwell, yn aml yn botas blêr o geisio roi strwythur busnes ar ddryswch cymuned. Ond mae’n wir werth gwneud.

Fel d’udodd rhywun, rywbryd: rhaid dechrau wrth ein traed, ac wrth ein traed mae llwch y llechi yn  treiddio trwy ein gwaed. A wyddoch chi mae’r fro yma yn dda iawn am wneud yn union hynny. Yn ôl astudiaeth economaidd a wnaethpwyd gan Cwmni Bro Ffestiniog yn ddiweddar mae mentrau cymdeithasol Bro Ffestiniog yn cyflogi o ddeutu 120, efo 53% o gyfanswm y cyflog a dalwyd iddynt yn aros yn lleol. Mae’r ffigyrau ar gyfer prynu hefyd yn creu darlun o arian yn cylchdroi gyda 46% o’r gwariant yma hefyd yn lleol. Model y fenter gymdeithasol o briodi incwm o fuddsoddiant, megis grant neu fenthyciad, a masnachu llwyddiannus i greu incwm, sydd yn galluogi i hyn ddigwydd ac felly hefyd gael effaith gadarnhaol ar yr economi leol. Am yr un cyfnod bu i fentrau cymdeithasol Bro Ffestiniog drosi bob £1 o arian buddsoddiant i £1.20 o drosiant masnachol ac felly cynyddu cyfanswm y buddsoddiad yn y Fro. Yn gyrru’r llwyddiant yma mae pwrpas ein mentrau yn seiliedig ar y gallu i  greu gwerth economaidd er mwyn lles cymdeithasol. Maent yn datblygu’r gallu i ymateb yn benodol i’r anghenion sydd yn bodoli yn lleol i’r gymuned yma.

Er i Mam gael ei geni yn Nhraws, efo Taid yn rhedeg y Co-op yno yn y 50au hwyr a’r 60au cynnar, dydw i ddim o ‘Stiniog;  hogan o Rhoslan ydw i , wedi ngeni rhwng dwy afon, bellach ag un braich yn y môr wrth wreiddiau teulu fy Nhad ym Mhwllheli. Ond fel fy Nhaid, a Nhad a Mam, dwi’n coelio’n gryf yn ein cymunedau. Fel pob cenhedlaeth o ‘mlaen, boed yn athrawon, yn flaengar yn y capeli, yn wleidyddion, neu yn gyfrifwyr rwyf wedi defnyddio’r hyn sydd ar gael i mi i atgyfnerthu, i adeiladu ac i ymateb i anghenion ein cymunedau. I geisio trwsio tolc yr olwyn. Fy nheclyn i ydi’r fenter gymdeithasol. Rwyf yn hynod lwcus i gael bod yn gweithio yma ym Mro Ffestiniog, ar flaen y gad. Rwyf yn ymwybodol hefyd fod nifer un a fydd yn darllen yr erthygl yma a phrofiadau helaeth hyd oes o weithio ac ymwneud â’r gymuned yma. Fy ngobaith yw y bydd modd camu ymlaen efo hyder i ymateb eto i anghenion a datblygiad y fro i wneud y gorau o’r dyfodol heriol sydd yn ein wynebu. Pwy well ond ni i wneud?
--------------------------------------------


Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.


*Bellach mae’r rhwydwaith yn cynnwys Antur Stiniog, Dref Werdd, Trawsnewid, Ynni Cymunedol Twrog, Cyfeillion Croesor, GISDA, Ysgol Y Moelwyn, Pengwern Cymunedol, OPRA Cymru, Cyngor Tref Ffestiniog, Tan Y Maen, Caban Bach Barnados, Cellb, Deudraeth Cyf, Menter Llanfrothen, Seren.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon