18.11.19

Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898

Erthygl o gyfres Stolpia gan Steffan ab Owain.

Dyma oedd yr unig dro i’r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn yr ardal hon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ... Felly, nid oes dim i’w wneud ond byw ar yr hen ... a theithio’n ol i’r flwyddyn 1898 am y tro.

Un a fu’n cymryd rhan amlwg yn yr eisteddfod honno – a llawer un arall o ran hyn – oedd y bardd aml-gadeiriog hwnnw, Bryfdir. Blynyddoedd yn ddiweddarach, ysgrifennodd ei atgofion am amryw o’r eisteddfodau y bu ynddynt, gan gynnwys yr un fythgofiadwy a gynhaliwyd yma yn y Blaenau.

Gan ei fod yn llygad-dyst i holl gyffro a gweithgareddau’r eisteddfod honno ceir darlun byw iawn o’r hyn a gymerodd le yno yn ei atgofion. Dyfynnaf ohonynt rwan:

‘Gellir dweud gyda llawer o briodoldeb, na bu’r Eisteddfod Genedlaethol ar dir uwch erioed, a phriodol y canodd Watcyn Wyn ar gyfer  Gŵyl y Cyhoeddi:
‘Heddiw mae’r Eisteddfod wedi rhoi ei throed
Ar y man uchelaf y bu erioed;
Wyr Ffestiniog, bendith ar eich pen
Am gadw’r hen Eryri’n Eryri Wen.’
Gan fod gair drwg i ardal y clogwyni fel ‘lle glawog’, bu lawer o ddarogan cyn dyddiau yr Wyl, a rhai yn deisyf y gallu ‘i gloi stenau glaw Stiniog’. Cafwyd wythnos heulwenog ar waethaf y darogan, ac yn yr Orsedd fore Gwener cyfeiriodd Dyfed ar fwynder yr hin trwy ddweud ‘Bu’r Wyl heb ambarelo’.

Tipyn o fenter ac aberth oedd atal pob gwaith yn y chwarelau am wythnos gyfan; ond felly y mynnai’r chwarelwyr groesawu’r Wyl. Prif atyniad dydd Mawrth oedd y Gystadleuaeth Gorawl. Cymerodd hon ddwy awr o amser iddi eu hun, ac ni buasai dim ond canu da yn achub y sefyllfa. Methodd Mr Joseph Bennett, Dr Joseph Parry a Dr Rogers wneud yn well na rhannu’r wobr rhwng corau Buallt a Chaernarfon. Derbyniwyd y dyfarniad gyda pheth siomiant wedi ei gymysgu a chryn frwdfrydedd. Canodd y corau buddugol yn unedig, y darnau cystadleuol yng Nghyngerdd yr hwyr, a dyna ganu!

Datganwyd hefyd Anthem Goffa i Mr Gladstone dan arweiniad yr awdur, syr H. Oakley, ac unawdau gan Miss May John, Miss Lissie Teifi Davies a’r Mri Ben Davies, Emlyn Davies ac E. Ffestin Jones. Miss Llywela Davies wrth y berdoneg a Mr Bryceson Trehearne with yr organ.

O ‘nabod brawd wynebau’ ac ymdroi bu agos i mi golli Seremoni’r Coroni ddydd Mercher. Testun Pryddest y Goron oedd ‘Charles o’r Bala’; Iolo Caernarfon ac Elfed yn beirniadu. Yn naturiol yr oedd yr ymgeiswyr yn llu mawr iawn, a sibrwd yn yr awel fod Rhys J. Huws yn debyg o ennill. Traddododd Iolo Caernarfon feirniadaeth fanwl o’i gof – buasai cofio’r ffugenwau yn ormod camp i’r mwyafrif o blant dynion. ‘Aprite’ oedd y ffugenw dan y bryddest oedd yn rhagori, a phan alwyd ar yr awdur i arddel ei waith, cododd y Parch R. Gwylfa Roberts (Y Felinheli y pryd hwnnw) a choronwyd ef gyda rhwysg. Miss Teifi Davies yn canu ‘Bugail Aberdyfi’ ac Eos y Gogledd yn canu gyda’r delyn.

Coron a chadair Eisteddfod 1898
Cyflwynwyd Gutyn Ebrill o Batagonia i’r cyfarfod. Gŵr adnabyddus yn y fro oedd ef cyn ymfudo i’r Wladfa Gymreig. Daeth a swp o wenith gydag ef i brofi ansawdd y wlad. Cefais fy hudo ganddo i swper yn ystod yr wythnos, a gwn trwy brofiad nad ofer proffwydoliaeth Tudno:
‘Ond cyn hir gwelir Gwalia -  dan fendith
Yn bwyta gwenith o Batagonia’. 
Cymerid diddordeb arbennig yng nghystadleuaeth y Corau Merched yn yr Eisteddfod hon. Ni chefais esboniad clir ar y brwdfrydedd gan neb, ond diwrnod merchetaidd oedd dydd Mercher. Côr y London Cymric gan arweiniad Miss Ffrances Rees oedd y buddugol. Cefais air gyda Llew Llwyfo ar sgiawt, a llawer o gwmni Ben Davies a Mafonwy. Nid bradychu cyfrinach fydd dweud bellach fod y Llew yn ymgeisydd am y Goron a Mafonwy yn ymgeisydd am y Gadair. Trwy ddylanwad Mr Oakeley, Tanyblwch, Llywydd yr Eisteddfod, sicrhawyd presenoldeb amryw urddasolion i’r gwahanol gyfarfodydd.

Testun yr Awdl oedd ‘Awen’, gwobr £20 a Chadair Dderw. Berw a Dyfed yn beirniadu. Gan fod mesur o ramant ynglyn a busnes y Cadeirio yn yr Eisteddfod hon, ni wahardd neb i mi godi’r adroddiad canlynol o ysgrif Bryfdir a ymddangosodd yn ddiweddar yn y Genedl Cymreig:

Casglai rhai o aelodau y cylch cyfrin fod Elfyn yn cystadlu. Yr oedd y bardd yn byw ar y pryd yn y Llan, ryw bedair milltir o’r Blaenau. Nid oedd wedi gwneud ei ymddangosiad yn ystod yr wythnos, nac wedi ymddiried ei ffugenw i neb. Nid oedd wedi cael gwared o’r siom gawsai yng Nghasnewydd y flwyddyn cynt. Yn ofni i’r cadeirio syrthio drwodd ac i’r urddasolion gael eu siomi, cafwyd ymgynghoriad brysiog o’r prif swyddogion ar gongl y cae. Credai un iddo gael digon o awgrym pwy oedd yn ennill a chydsyniai’r gweddill. Nid oedd ond awr brin cyn y Cadeirio, ac nid oedd modur yn y wlad y pryd hwnnw. Wedi colli ei dymer i raddau, rhoddodd Mr Owen Jones, Erwfair, Cadeirydd y Pwyllgor Gweithiol, orchymyn pendant i Bryfdir fynd at Miss Owen i’r Queen’s Hotel, a dweud mai efe, Mr Jones, oedd wedi ei ddanfon (yr oedd Mr Owen Jones a Miss Owen yn caru ar y pryd ac ni buont yn hir cyn priodi) a gofyn am gar a cheffyl i nôl Elfyn o’r Llan i’r Blaenau – “Yr hen ffwl gwirion iddo fo,” ebai Mr Jones.

Caiff Brydir ddweud gweddill yr hanes ei ffordd ei hun:
Croeso symol a gefais yn y Queens’s. Prysur oedd pawb yn tynnu carai hir o groen yr ymwelwyr. Dywedodd Miss Owen y caffai Dafydd Williams roi’r ceffyl yn y car, a rhyngof fi a’r gweddill.
Bodlonais yn ddistaw a chrynedig, gan nid oeddwn wedi bod dan gymaint cyfrifoldeb yn fy oes. Symudais yn arafaidd drwy Four Crosses, gan amled y bobl, ond wedi i mi gyrraedd Conglywal a chofio brined yr amser, rhoddais dipyn o ffrwyn i’r ceffyl, os nad rywbeth arall. Gwelais ferched yn rhedeg i’r drysau, ac yn siarad dros y wal derbyn, “Bryfdir oedd hwnna, deudwch?” ebai un. “Wel, ia choelia i byth,” ebai cymdgoes, “ond toedd o yn mynd yn gynddeiriog!”  Methais arafu’r cerbyd a ‘brake’ nac atal y ceffyl a genfa nes cyrraedd y Llan, a diolchaf hyd heddiw fod y ffordd yn weddol glir. Cefais y pentref mor dawel a bedd. Nid oedd y bardd yn ei fwthyn a syrthiodd ei briod i bêr lesmair ar fy ymddangosiad. Nid oedd Cymraeg Mrs Hughes yn rhigil iawn, ond dyma’r ymddiddan cwta cynhyrfus: “Ydi Elfin yn mynd i cael Cader Bryfdir bach!” “Ond newch chi deud Bryfdir bach ydi Elfin yn mynd i cael y Cader? Ma fo yn Penbryn yn y Library.
------------------------------------------------

(Dolen i'r ail ran)

Addasiad yw'r uchod o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 1998, i nodi canrif ers cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Blaenau.

Llun- Alwyn Jones


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon