27.11.19

Diolch ‘Stinog; Gracias Rawson!

Baneri Ariannin a Chymru*
Erthygl gan Lleucu Gwenllian, enillydd Ysgoloriaeth Patagonia Cyngor Tref Ffestiniog 2018.

Aeth blwyddyn heibio ers i mi bacio fy magiau i fynd am y Wladfa, a dwi'n ffeindio fy hun yn
hiraethu ‘chydig bach am Batagonia; roedd rhyw hud a lledrith am y lle.  Roeddwn i'n ffodus i gael treulio mis cyfan yn yr Ariannin. Bwriad fy mhrosiect i oedd rhedeg gweithdai celf ar thema chwedloniaeth Gymreig -yn benodol stori Blodeuwedd- efo’r cymunedau Cymraeg. Ar ôl cyflwyno’r stori, byddwn i'n gwahodd pawb i ddadansoddi'r chwedl yn weledol fel yr oedden nhw yn ei ddychmygu.

Ar ôl glanio ym metropolis Buenos Aires, wedyn treulio wythnos wrth draed yr Andes yn Bariloche, cawsom ein profiad cyntaf o Gymraeg yr Ariannin wrth gamu ar y bws i Esquel. Gofynodd y dyn oedd y tu ôl i ni yn y ciw: "ydych chi'n siarad Cymraeg?" Dyna sut wnaethon ni gyfarfod Merfyn, y melinydd o Gwm Hyfryd. Wedi sgwrs hanner Cymraeg-hanner Sbaeneg, mi fuon ni’n hwylio canu "Melinydd oedd fy nhad" a chwerthin ar y daith hir. Aeth Merfyn oddi ar y bws yn Esquel efo copi Sbaeneg o eiriau’r gân, a gwên ar ei wyneb.

Er mai Rawson oedd prif ffocws y prosiect, roeddwn i'n meddwl y byddai'n gyfle da i drefnu gweithdai mewn ysgolion Cymraeg drwy'r Wladfa. Roedd y cyntaf o'r gweithdai hyn yng nghapel Seion, Esquel. O'r holl weithdai, hwn oedd yr un mwyaf cofiadwy - yn rhannol gan mai hwn oedd y tro cyntaf i mi gynnal gweithgaredd i 40 o blant, ond hefyd gan ‘mod i wedi camddeall... Er mor falch oedd llawer o'u gwreiddiau Cymreig, doedd llawer o'r plant ddim wedi meistrioli'r iaith, ac roedd rhaid i fi droi at plan-B!  Diolch byth, roeddwn i wedi  cyfieithu’r stori i’r Sbaeneg rhag ofn- er, mae'n beryg mai joban wael wnes i ohoni, gan mai 'derbyniol' ydi'r asesiad mwyaf optimistic o'n sbaeneg i.

Er gwaetha'r ansicrwydd, roedd y gweithdy yn llwyddiant ac roedd hi mor wych i weld y plant i gyd yn mwynhau darlunio’u hoff gymeriad o chwedl Blodeuwedd. Roeddwn i mor hapus fod pawb wedi mwynhau.

Yn dilyn y gweithdy fe gawsom ni wahoddiad gan Gymdeithas Gymraeg Esquel i rannu te Cymreig efo nhw - te mewn cwpanau tseina tlws a llond bwrdd o wahanol gacennau. Roedd hi'n hyfryd i gael sgwrsio efo pawb.

Tulipanes Cwm Hyfryd*

Yn Nhrevelin roedd gen i 3 gweithdy wedi'u trefnu yn Ysgol y Cwm ac Ysgol yr Andes (yr ysgol Gymraeg i oedolion). Yn y bore cefais i'r profiad hyfryd o gyd-ganu 'Adeiladu tŷ bach' efo’r plant, yn syth ar ôl y seremoni ddyddiol o godi'r faner Archentaidd. Roedd Trevelin ei hun yn lle gwych - cawsom ni weld y 'tulipanes' enwog wrth droed mynydd prydferth o'r enw Gorsedd y Cwmwl; mi welson ni fflamingos; arwyddion ffordd tair-ieithog (Sbaeneg, Cymraeg ac iaith y Tehuelche); a sawl peth rhyfeddol arall.

Arwyddion Trevelin*
Ymlaen wedyn dros y paith i Drelew, ac yna i’r Gaiman lle roedd dau weithdy arall wedi'u  trefnu. Roedden ni newydd fethu protest blynyddol y merched yn Nhrelew ac roedd 'na graffiti ffemisistaidd ffantastig ar bob cornel o'r stryd. Roedden ni yna'r un pryd ac Eisteddfod y Wladfa hefyd - profiad anhygoel arall. Roedden ni'n aros mewn llety efo ‘stafell haul oedd yn llawn melons. Hwn oedd y lle brafia i ni aros ynddo yn hawdd -roedd hi mor braf cael aros yn rhywle oedd wedi'i amgylchynu gan hen ffermydd a chapeli y Cymry cyntaf.

Yn Rawson, roedd criw cymwynasgar y llyfrgell –Meli a Sole- wedi trefnu llety hwylus. Roeddwn yno am wythnos. Wythnos yn llawn ymweliadau swyddogol (mi wnes i droi fyny i'r cyntaf heb ddeall ein bod ni'n cyfarfod pobol bwysig, wedi gwisgo jeans a jymper!); teithiau hanes lleol; gweithdai, a gwleddau. Roedd gweithdai Rawson efo pobol ifanc yn hytrach na phlant ac roedd y rhain yn llawer o hwyl, gan drafod cerddoriaeth Archentaidd a Chymraeg; dawnsio Lladin; a straeon y Teheuelche.

Yn ogystal a'r gweithdai, roedd cyngor Rawson wedi trefnu i ni fynd i weld y "toninas" - y dolffiniaid du a gwyn lleol. Mi gawsom ni fynd allan mewn cwch i weld y creaduriaid anhygoel yma - un o fy hoff atgofion o'r daith. Roedden ni'n ofnadwy o lwcus hefyd i gael mynd efo Nanci a Norberto i Benrhyn Valdés i weld morfilod, ac i weld amgueddfa’r glanio a chyfarfod aelodau croesawgar Cymdeithas Gymraeg Porth Madryn. Roedd o'n wych i weld faint o syniadau oedd ganddyn nhw am sut i ddatblygu eu canolfan. I gloi diwrnod anhygoel, mi fuon ni’n canu "Yma o Hyd" efo'r ddau ohonyn nhw yn y car ar y ffordd yn ôl! Profiad bythgofiadwy.

Lleucu, Patricia a Meli. Puente del Poeta -pont y bardd- yn y cefndir ar safle'r bont gyntaf a adeiladwyd dros afon Camwy, gan Gutyn Ebrill, a adawodd Stiniog am y Wladfa.*

Ar ddiwedd mis o weithdai a theithio, trefnwyd arddangosfa mewn cydweithrediad â llyfrgell Rawson i arddangos gwaith y plant. Roedd o mor hyfryd i weld pob dim efo'i gilydd. Mi gefais anrhegion hael ofnadwy gan y llyfrgell, y cyngor a gan bobol Rawson. Roeddwn i'n reit emosiynol - roedd pawb wedi bod mor annwyl yn barod.

Drannoeth, roedd Patricia, cynrychiolydd Rawson wedi trefnu té Gales yn ei thŷ, efo Amigos de la Cultura Galesa, a gyda'r nos roedd Sole wedi gwahodd pawb i'w thŷ hithau am wledd. Does na'm posib i mi ddiolch digon iddyn nhw i gyd am eu haelioni, eu croeso a'u cymorth tra roedden ni yna. Mi wnaethon ni gyfarfod cymaint o gymeriadau annwyl yn y Wladfa, a dwi'n edrych ymlaen at y dydd pan dwi'n pacio fy magiau eto.

Amigos Rawson**

Caniataodd y trip i mi hel ymchwil ar sut mae celf a chwedloniaeth yn gallu effeithio ar ein hunaniaeth, oedd yn rhan bwysig o fy nhraethwad hir ar ôl dychwelyd i’r Brifysgol. Yn ogystal â hyn, mi wnes i ddysgu cymaint am chwedlau pobol frodorol Patagonia. Roedd perthynas gyfeillgar rhwng y Cymry a'r Tehuelche, a dwi'n credu ei fod yn bwysig i ninnau roi sylw i'w diwylliant nhw.

Hoffwn ddiolch o waelod calon i Gyngor Tref Ffestiniog am yr ysgoloriaeth hael - roedd y profiad yn un bythgofiadwy sydd wedi agor bob math o ddrysau eraill i mi.

Gracias Rawson a diolch Stiniog!
Lleucu Gwenllian
---------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2019

Chwedl Calaffate -llyfr gan Lleucu am un o chwedlau Patagonia

Dilynwch Lleucu ar Instagram @lleucu.illustration
Printiadau ar werth ar Etsy
Erthygl flaenorol gan Lleucu am gelf: Mae'r Llechi'n Disgleirio

Lluniau:
* Paul W- mwy yn fan hyn
** Norberto Lloyd Jones

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon