Testun gofid –ers degawdau- ydi tuedd pobol ifanc disglair, i adael eu cymunedau i chwilio am waith a bywyd cyffrous yn y dinasoedd. Yn ddiweddar, mae Lowri Cunnington Wynn -darlithydd yn adran Cyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth- wedi ennill gwobr am yr erthygl academaidd orau yng nghyfnodolyn Gwerddon. Mae ei hymchwil ar gael ar y we*, ond yma mae’n rhoi crynodeb o’i chanfyddiadau.
Nid datganiad newydd yw’r ffaith fod ardal Bro Ffestiniog wedi denu ambell i gymeriad diddorol dros y degawdau diwethaf. Yn wir, teg digon yw dadlau fod hanes lliwgar, diwydiannol yr ardal wedi tynnu sylw haneswyr, artistiaid ac academyddion fel ei gilydd. Un o'r rhain oedd Isabel Emmett (1978) oedd yn darogan am y ‘Blaenau Boys in the Mid Sixties’ a’i chanfyddiad hi o ‘Gymreictod.’
Bu cyfraniad Emmett i’r cysyniad hwn yn un pell gyrrhaeddol a bu’n ganolog i’r rhan fwyaf o’i gwaith hi ar Gymru. Ni ellir diystyru ei sylw proffwydol wrth iddi ddadlau fod dyfodol ansicr yr iaith Gymraeg a hunaniaeth Gymreig unigryw, yn amlwg iawn i bobl gyffredin Cymru.
Nid oes llawer wedi newid yn y cyd-destun hwn, heblaw bod y sefyllfa llawer mwy dwys nac oeddwn i wedi dychmygu, gyda Chymru a’r Bröydd Cymraeg yn gyffredinol yn colli eu pobl ifanc, addysgedig ar raddfa frawychus. Mae canlyniadau’r cyfrifiad yn 2011 yn ategu hyn a’r pwnc o allfudo yn un amserol wrth ystyried targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ceir gwaith ymchwil diweddar sy’n trafod allfudo pobl ifanc o Flaenau Ffestiniog a Thregaron yn ôl eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Bu’n canolbwyntio ar bobl ifanc nad oedd wedi eu geni yn y Fro, ac ymddengys fod y bobl ifanc hyn yn gadael Cymru ar raddfa bedair gwaith yn fwy na’r rhai a anwyd yma (Jones 2010). Darganfu’r ymchwil fod allfudo ymysg pobl ifanc yn ddibynnol ar nifer o ffactorau cymhleth ond ymddengys fod cysylltiad amlwg rhwng y cysyniad o Gymreictod a’r ymdeimlad o berthyn i gymuned.
Bu cryn drafodaeth ymysg pobl ifanc y Fro ar yr hyn a olygir wrth fod yn ‘Gymro/Cymraes’, yr ymdeimlad hwnnw o berthyn a graddfeydd integreiddio i’r gymuned. Roedd y term ‘cenedligrwydd’ yn gysylltiedig â’r bröydd yr oeddynt yn perthyn iddynt. Yn ogystal, roedd ‘cenedligrwydd’ yn aml yn adlewyrchu’r hyn yr oeddent yn teimlo am eu statws o fewn y gymuned honno.
Darganfuwyd, yn anochel efallai, fod agweddau rhieni yn treiddio i’w hagweddau hwy yn ddibynnol ar eu profiadau positif neu negyddol o Gymreictod. Er hynny, gellir dadlau bod cymhlethdod yn perthyn i’r sampl yn gysylltiedig â’u cefndir teuluol ac felly eu cenedligrwydd a’u statws hwythau o fewn y gymuned. Er enghraifft, ymddengys nad oedd nifer o’r pobl ifanc yn Ffestiniog wedi dewis mabwysiadu cenedligrwydd eu rhieni, ond yn hytrach wedi mabwysiadu cenedligrwydd a Chymreictod ardaloedd eu bro, gyda rhai yn ymfalchïo yn yr hyn sy’n eu gwahaniaethu oddi wrth eraill yn yr ardal.
Roedd nifer y bobl ifanc a oedd yn nodi eu bod o genedligrwydd Cymreig ym Mlaenau Ffestiniog gymaint yn uwch na Thregaron er bod eu cefndir teuluol yn ymddangos yn debyg. Rhywbeth i ymfalchïo ynddo efallai o ystyried fod graddau allfudo’r bobl ifanc yn cael ei effeithio gan eu hymdeimlad o berthyn i gymuned?
Mae’r ymchwil yn ein hatgoffa mai sgil yn unig yw’r Gymraeg ac nid yw dysgu iaith o reidrwydd yn golygu bod mewnfudwyr yn mabwysiadu hunaniaeth eu cymunedau. Teg digon yw dadlau bod angen polisïau lleol a chenedlaethol sy’n ymateb i’r tensiwn sy’n bodoli rhwng aros yng Nghymru neu fudo o’r wlad a cholli iaith. Oes le yma i ddadlau fod Bro Ffestiniog yn llwyddo i feithrin math unigryw o Gymreictod, gyda’i hanes diwydiannol a lliwgar yn fantais yn hyn?
Rhywbeth i’w ystyried yn wir.
---------------------------------------
Un o gyfres o erthyglau gwadd ar
thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.
*Papur Lowri
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon