24.10.19

Sut mae arbed ein cymunedau gwledig?

Myfyrwraig ym Mhrifysgol Sciences Po yn Poitiers, Ffrainc ydi Elin Roberts. Fel rhan o’i chwrs Gradd Gwyddorau Gwleidyddol, mae’n astudio gwleidyddiaeth, economeg, y gyfraith, hanes, ac athroniaeth, yn ogystal â Ffrangeg a Sbaeneg. Mae’n bryderus am sefyllfa waith y Fro Gymraeg.

Mae Cymru yn heneiddio ac wrth i hynny ddigwydd, rydym yn colli ein pobl ifanc. Yn y degawd diwethaf mae dros 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 mlwydd oed wedi gadael Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, tra bod 2,750 o bobl rhwng 45-64 mlwydd oed yn symud i mewn i Gymru bob blwyddyn. Mae’n bryd i ni ddechrau edrych yn ofalus iawn ar yr ystadegau hyn a gofyn paham bod hyn yn digwydd? Pam bod ein pobl ifanc ni yn gadael ein cymunedau?

Oes raid gadael y Fro Gymraeg i gael gwaith? Llun- Paul W

Tra bod mwy o bobl hŷn yn symud i mewn i’r ardaloedd hyn, gwelwn bod llawer iawn o heriau yn wynebu ein pobl ifanc. Rhaid dechrau trwy edrych ar ba fath o gyfleoedd sydd ar gael i’n pobl ifanc ni. Heddiw, ychydig iawn yw’r cyfleoedd sydd ar gael. Eglurwn hyn drwy’r toriadau ariannol y gwelwyd yn y blynyddoedd diwethaf. Nid yn unig y gwelwn doriadau i wasanaethau’r ifanc, gwelwn doriadau i wasanaethau addysg.

Mae’r diffyg cyfleoedd yn arwain at ddiffyg swyddi, sy’n gadael llawer o’n pobl ifanc ni mewn swyddi o sgiliau isel gyda chyflogau isel. O ganlyniad, ni allent wireddu’r freuddwyd o brynu tŷ.

Mae bod yn berchen tŷ yn ffantasi llwyr i lawer, a’r tai yn anfforddiadwy.
Yr unig obaith o ddyfodol gwell i nifer yw gadael yr ardal. Ond, wrth i hyn ddigwydd bydd yn cael effaith eithriadol o negyddol ar ein cymunedau a’n hiaith, yn peri i ni ofyn a oes dyfodol i’n cymunedau gwledig?

Mae’n amser i ni ddechrau meddwl am y math o ddyfodol yr hoffem ei weld. Yn amser i ddechrau buddsoddi yn ôl yn ein pobl ifanc. Ein pobl ifanc ni yw’r dyfodol. Maent angen buddsoddiad er mwyn tyfu i gyrraedd eu llawn cyrhaeddiad, fel y mae hadyn angen digon o ddŵr a goleuni i dyfu.

Mae angen i ni ddechrau meddwl sut y gallwn gynorthwyo ein pobl ifanc. Beth y gallwn ei gynnig iddynt er mwyn lleddfu effaith y toriadau ariannol? Mae’n bryd i ni ddechrau meddwl sut y gallwn fuddsoddi yn ein hifanc. Rhaid gofyn beth mae ein pobl ifanc eisiau ar gyfer y dyfodol. Sut fath o gymuned hoffwn ei weld yma yn y Blaenau mewn 10 mlynedd neu hyd yn oed mewn 20 mlynedd? 

Wrth ystyried yr uchod, mae gennym ni lawer iawn o gyfrifoldebau: i ddechrau mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad cyfartal i wybodaeth. Gorau po fwya’r wybodaeth sydd gan yr unigolyn. Teimlaf ein bod fel cymdeithas yn categoreiddio ein pobl ifanc yn llawer rhy fuan ac felly y dylem drin pob unigolyn yn yr un modd drwy sicrhau bod pawb yn cael mynediad teg i’r un wybodaeth.  O ganlyniad, rhaid sicrhau bod yr ifanc yn cael y cyfle i brofi cymaint o sectorau ag sy’n bosib boed hynny o fewn amaeth, y cyfryngau, gwleidyddiaeth neu hyd yn oed yn y byd chwaraeon.

Fel dyletswydd arall, dylem annog ein pobl ifanc i fagu rhagor o sgiliau a fyddai’n eu galluogi i ddod yn weithwyr medrus. Byddai hyn yn y pendraw yn cynyddu eu siawns o gael cyflog uchel a fyddai yn eu caniatau i brynu tŷ. Law yn llaw ag annog datblygiad o sgiliau dylem edrych ar y sgiliau mwyaf defnyddiol o fewn y byd gwaith heddiw megis yn y maes technoleg a chyfrifiadureg. Mae swyddi o fewn y meysydd hyn yn cynnig cyflogau uchel iawn ond hefyd yn cynnig y posibilrwydd o allu gweithio o adref. Felly’n uno’r freuddwyd o brynu tŷ tra’n aros yn ein cymunedau Cymreig.

Wrth edrych ar sut i arbed cymunedau heddiw, mae’n rhaid i ni fod yn arloesol a sicrhau bod ein pobl ifanc ni y cael y mynediad gorau i wybodaeth ac wrth gwrs, i gyfleoedd. O edrych ar fod yn arloesol, mae’n raid i ni ystyried y sectorau mwyaf cynyddol o fewn y byd gwaith a sicrhau bod gan ein pobl ifanc ni fynediad i’r fath sector. Ond yn fwy na dim, amser a buddsoddiad sydd ei angen ar ein pobl ifanc. Er mwyn iddynt gyraedd eu llawn cyrhaeddiad, maent angen arweiniad. Felly, meddyliwch sut fath o gymuned yr hoffech ei weld yn y dyfodol oherwydd pobl ifanc heddiw fydd yn adeiladu cymuned y dyfodol. Yr ifanc yw’r dyfodol ac os na fyddwn ni yn buddsoddi ynddynt, sut olwg y bydd ar gymunedau yfory a beth ddaw o’r Gymraeg?
------------------------------

Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.

1 comment:

  1. Erthygl ardderchog uchod yn tynnu sylw at broblem fawr sydd wedi amharu ar ddyfodol cymunedau Cymreig/Cymraeg yng nghefn gwlad Cymru ers tro bellach. Ond a oes rhywun wedi ystyried pam a beth yw'r rheswm bod cymaint o'n hieuenctid yn symud o'u cynefinoedd? Onid oes lle i amau mai cynllwyn gan y sefydliad gudd, Brydeinig i danseilio'r hyn o'n treftadaeth sydd ar ól? Methiant fy pob ymdrech ganddynt dros y blynyddoedd i gael gwared o'r genedl Gymraeg, fu'n bigyn yn ochr Prydeindod ers dyfodiad y drefn afiach honno ganrifoedd yn ól. Ni lwyddodd rhyfeloedd, priodas anghyfreithlon 1536, ac Uniad cyfreithiau Harri'r wythfed i glymu Cymru'n rhan o Loegr. Felly dros y canrifoedd, gan gynnwys y drefn addysgol a'r 'Welsh Not' anenwog. Ond y peryg yw eu bod wedi darganfod modd i geisio gael gwared o'r ysbryd wladgarol yn ein mysg drwy ein cosbi'n economaidd, a rhwystro unrhyw ymdrech i gryfhau'r sefyllfa weithfaol yng nghefn gwlad. Ein tlodi ni o ddifri, a gorfodi'n plant i godi pac a chefnu ar Gymru am byth. Hynny'n golygu bod digon o dai ar gael yn ein trefi a phentrefi am brisiau isel i fewnfudwyr, sydd bellach wedi boddi pob arwydd o Gymreictod mewn nifer fawr o gymunedau'r hen Gymry erbyn hyn. Mae'r cynllwyn cudd hwn yn sicr yn llwyddo, a Phrydeindod yn codi ben yn nhiroedd ein cyndadau, ac yn brysur ladd ein ffordd o fyw, ein hiaith a'n ffordd o fyw. Meddyliwch amdano am eiliad, gofynwch gwesiynnau, cyn iddi fynd yn rhy hwyr?

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon