Mewn cyfarfod ar Orffennaf 22 eleni, daethpwyd i’r penderfyniad i ddod ag ymgyrch Pwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa i ben, a hynny bedair blynedd ar ddeg a mwy ar ôl y cyfarfod cyntaf yn 2005. Yr hyn a arweiniodd at ffurfio’r Pwyllgor yn y lle cyntaf oedd penderfyniad Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd i gau y Clinig Ffisiotherapi ar Ffordd Tywyn ac yna, ymhen amser, i’w ail leoli yn ward y dynion yn yr Ysbyty Coffa, a thrwy hynny greu esgus dros wneud i ffwrdd â’r gwlâu cleifion oedd yn fanno.
Ond dŵr o dan y bont ydi pob dim felly bellach ac mi fyddwch chi, bobol y cylch, yn cofio helyntion y blynyddoedd i ddilyn – y rali brotest fawr (uchod) pan fu mil a mwy ohonoch yn gorymdeithio drwy strydoedd y dref; llond bws wedyn yn teithio i lawr i’r Bae yng Nghaerdydd i ymuno yn y brotest genedlaethol yn erbyn y bwriad i gau nifer o ysbytai yng Nghymru, a Brian Gibbons, y Gweinidog Iechyd ar y pryd, yn gwrthod dod allan i’n hwynebu ni.
Trefnwyd sawl deiseb gennym hefyd dros y blynyddoedd ac roedd eich cefnogaeth i bob un o’r rheini hefyd yn anhygoel. Ac yna’r cyfarfod cyhoeddus (uchod) yn Ionawr 2015 i drefnu refferendwm a fyddai’n galw ar y Betsi a’r Llywodraeth yng Nghaerdydd i ail agor yr Ysbyty a gwarchod gwasanaethau pwysig eraill yn yr ardal.
A phan gynhaliwyd y refferendwm ar Chwefror 15fed, roedd 99.9% ohonoch o blaid y cynnig, efo dim ond 6 pleidlais o’r ardal gyfan yn cefnogi cynlluniau’r Bwrdd Iechyd!
Ond eto i gyd, fe gafodd y canlyniad ei anwybyddu YN LLWYR, nid yn unig gan y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd ond hefyd gan y Bwrdd Iechyd, gan ein haelod ni yn y Cynulliad a gan Gyngor Sir Plaid Cymru Gwynedd. Hynny yw, fe wrthododd y ddwy blaid fwyaf ar y pryd ddangos unrhyw gefnogaeth i’n hachos. Do, fe gawsom addewidion o sawl cyfeiriad arall ond addewidion gwag oedd rheini hefyd. Cynlluniau’r Betsi oedd yn bwysig yn eu golwg nhw i gyd, er gwaetha’r llanast roedd rheini yn mynnu ei wneud ... ac yn dal i’w wneud hyd heddiw, wrth gwrs, neu pam arall eu bod nhw’n cael eu cadw o dan ‘special measures’ ers pedair blynedd a mwy?
Roedd cau yr Ysbyty Coffa ym mis Mawrth 2013 yn ddigwyddiad du iawn yn hanes yr ardal hon, ac mae cleifion a’u teuluoedd, o orfod teithio milltiroedd lawer yn ddyddiol, i Alltwen neu Fangor, yn sylweddoli hynny yn fwy na neb erbyn heddiw.
Un wers chwerw a ddysgwyd dros y blynyddoedd oedd hon – Fedrwch chi ddim rhesymu efo pobol
di-reswm. Er enghraifft, PEDWAR Gweinidog Iechyd gwahanol, i gyd yn gwrthod cyfarfod â ni, nac yma nac yng Nghaerdydd, gan ddadlau nad eu cyfrifoldeb nhw oedd ein problemau ni, yma yn y gogledd! A CHWECH Prif Weithredwr gwahanol y Betsi, dim un ohonyn nhw’n Gymro nac yn deall Cymraeg, a rhai ohonyn nhw heb hyd yn oed y syniad lleiaf lle i chwilio am Blaenau Ffestiniog ar y map!
Buom yn cyfarfod ag amryw o wleidyddion eraill hefyd, rhai mewn swyddi allweddol yng Nghaerdydd, a derbyn ganddynt bob math o addewidion i’n helpu. Ond pobol ffuantus efo cof byr iawn oedd rheini. Yr eithriadau oedd y ddau aelod seneddol, Liz Saville-Roberts (Plaid Cymru), Guto Bebb (Ceidwadwyr), a’r aelod cynulliad Neil Hamilton.
Ein gweithred arwyddocaol olaf ni fel pwyllgor oedd herio hawl y Bwrdd Iechyd i werthu’r Clinig Coffa ar Ffordd Tywyn gan ddadlau mai arian lleol a’i cododd o fel cofeb i’r 54 o fechgyn yr ardal a laddwyd yn yr ail ryfel byd, a hynny cyn i’r NHS ddod i fodolaeth erioed. O ganlyniad i’r llythyr hwnnw, a llythyr tebyg wedyn oddi wrth Gyngor Tref Ffestiniog, fe gytunodd y Betsi i oedi’r gwerthiant am gyfnod o dri mis, er mwyn rhoi cyfle i’r ardal allu cyflwyno cynllun o’r hyn y bwriedir ei wneud efo’r adeilad. Erbyn heddiw, mae’r Cyngor Tref yn arwain y frwydr i sefydlu hospis yno, rhywbeth sydd wir ei angen yn yr ardal, a dymunwn bob llwyddiant i’w hymgyrch.
* * * * *
Er gwybodaeth: Mae rhan helaeth o’r ohebiaeth a fu efo hwn ac arall dros y blynyddoedd, yn ogystal â’r holl erthyglau i Llafar Bro, wedi cael ei throsglwyddo, bellach, i Adran Archif y Sir yn Nolgellau. Pwy ŵyr na fydd ryw stiwdant neu’i gilydd, yn y blynyddoedd eto i ddod, yn chwilio am destun ymchwil ar gyfer gradd uwch ac yn gweld Hanes Ysbyty Coffa Ffestiniog 1919 - 2013 fel pwnc o ddiddordeb. Pe digwydd hynny, yna bydd mwy na digon o ddeunydd ar gael iddo ef neu hi allu pori trwyddo! GVJ
* * * * *
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.
Cofiwch bod llawer o erthyglau'r pwyllgor amddiffyn ar y wefan yma. Cliciwch ar y ddolen Pwyllgor Amddiffyn. (Os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'View web version' i weld y dolenni)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon