20.10.19

Byd gwaith

Wrth deithio yn ôl ar y trên o Ŵyl y Cyrion yng Nghaeredin, ar ôl mwynhau sgiliau cantorion, actorion, comedïwyr, dawnswyr a gymnastwyr o bedwar ban y byd, bu Dewi Lake, Pennaeth Ysgol y Moelwyn yn pendroni ar y cwestiwn hwnnw y dylai pawb sy`n ymwneud ag addysg a hyfforddiant y dyddiau yma ei ystyried, sef pa sgiliau y mae pobol ifainc eu hangen heddiw er mwyn eu paratoi ar gyfer byd gwaith?

Wrth ystyried yr oriau di-ri yr oedd perfformwyr yr Ŵyl wedi eu treulio i gyrraedd perffeithwydd eu cyflwyniadau, dyma ystyried ble ddechreuwn ni? Mae’n hiaith yn llawn diarhebion sy`n ymwneud â’r union faes –
deuparth gwaith ei ddechrau; 
deuparth llwyddiant, diwydrwydd; 
egni a lwydd; 
dyfal donc

Yma, yn y Blaenau, mae uwchdechnoleg wedi agor drysau lu i fyw`n lleol a gweithio ym mhedwar ban byd. Diflannodd dewisiadau gyrfaol cyfyngedig yr ardal a bellach  mae holl gyfleoedd y byd o fewn ein cyrraedd – os yw’r sgiliau priodol gennym wrth gwrs.

Er mwyn llwyddo, rhaid ymateb i fyd gwaith sy`n galw am sgiliau sy`n gynyddol newid. Rydym wedi  hen adael y cyfnod pan y penodid  gweithlu i un swydd, un yrfa a`r un set o sgiliau ar gyfer y swydd honno yn gymharol ddigyfnewid dros gyfnod maith. Felly tybed beth ydy`r sgiliau craidd sy`n rhoi sylfaen i rywun ddisgleirio ym myd gwaith heddiw?


Byddai rhai yn dadlau yn frwd mai cymwysterau sydd bwysicaf. Byddai eraill yn cytuno fod  cymwysterau`n bwysig ond yn teimlo mai`r daith a`r sgiliau i gyflawni`r gorau, boed gymwysterau neu sgil, y gall unigolyn eu cyflawni, ydy llwybr llwyddiant. Mae unigolion dymunol, egwyddorol, dibynadwy, sy`n barod i wneud diwrnod gonest o waith, yn frwd, yn annibynnol, yn gallu cyfathrebu’n rhwydd, yn hyderus ond hefyd yn ddiymhongar, law yn llaw â’r parodrwydd i newid, a meistroli sgiliau newydd trwy gydol gyrfa, a phenderfyniad diwyro i lwyddo, yn sicr yn berchen ar  sylfaen gadarn i lwyddiant. Yn yr un modd, mae sgiliau craidd megis cyfathrebu, dyfalbarhad, cydweithio a gweithio`n annibynnol a datrys problemau yn hollol greiddiol.


Mae rhywun weithiau`n teimlo fod llwyddiant yn rhywbeth bellach y mae unigolion yn disgwyl ei gael yn hawdd a diymdrech…

Dyma godi cap felly i`r rhieni hynny sydd wedi ei gweld hi, sy`n sicrhau fod eu plant neu bobl ifainc yn brydlon yn yr ysgol, yn bresennol yn yr ysgol ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb cynnar, yn unol â`u hoedran, am eu hymddygiad, ymdrech a`u haeddfedrwydd eu hunain. Yn sicr, mae pobol ifainc sy`n cael y cyfuniad hwn o gefnogaeth, disgwyliadau uchel, meddylfryd o agor drysau a disgwyl pendant i ysgwyddo cyfrifoldeb amdanynt eu hunain yn cael paratoad gwerth chweil at fyd gwaith a bywyd.

Coffa da am Dafydd Price, Dolau Las ers talwm – meddai ar sgiliau cyfathrebwr hynaws, yn sgwrsiwr rhwydd, parodrwydd i wneud diwrnod da o waith, cadarn ei farn a pheiriannydd dyfeisgar creadigol, oedd yn gallu creu offer neu dŵls i fynd i’r afael â phroblem yn y fan a`r lle heb gymorth o fath yn y byd. Adlewyrchiad o etifeddiaeth peirianwyr creadigol chwarelyddol ardal y Blaenau ar ei orau. Yn sicr, unigolion tebyg i Dafydd sy`n disgleirio ym maes cwmnïau arloesol technoleg arbrofol a blaengar ein byd heddiw.

Bach hedyn pob mawredd…cyfoeth bob crefft…
-------------------------------------

Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon