22.7.16

Tiwnio'r Tannau

Hanes gwahodd yr Ŵyl Cerdd Dant i Stiniog, gan Iwan Morgan

Ym mis Mai, galwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Ysgol y Moelwyn gan John Eifion, trefnydd y Gwyliau Cerdd Dant. Daeth criw bychan at ei gilydd a phenderfynwyd yn unfrydol i wahodd yr Ŵyl i’r dref yn 2018.

Mae Gŵyl Cerdd Dant Cymru yn un o wyliau ‘un diwrnod’ mwyaf Prydain os nad Ewrop, a theimlad llawer ohonom ydy ei bod hi’n fraint ac anrhydedd cael ei gwahodd yma am y tro cyntaf yn ei hanes. Tuedd yr Eisteddfod Genedlaethol a Phrifwyl yr Urdd, pan gaiff ei gwahodd gennym ni’r Meirionwyr, ydy dewis y Bala neu Ddolgellau fel lleoliad. Dyma gyfle i ni, garwyr ‘Y Pethe’ estyn croeso ‘Stiniog i Ŵyl genedlaethol mor safonol.

Iwan a Chôr Cerdd Dant LLIAWS PRYSOR

Pan oeddwn yn olygydd Llafar Bro o Fedi 1988 hyd Fehefin 1990, erthygl a gyflwynais ar dudalen flaen Rhifyn 146 (Hydref 1988) oedd un am ‘Ŵyl y Cerdd Dantwyr’. Roedd honno ar fin cymryd lle ym Mhwllheli ymhen y mis. I’r dref honno yr aiff ym mis Tachwedd eleni:
“Bydd Gŵyl Cerdd Dant Genedlaethol Cymru yn cymryd lle ym Mhwllheli ... a bydd nifer o selogion cerdd dant a chanu gwerin o Gymru benbaladr yn tyrru yno. Tro’r De fydd hi’r flwyddyn nesaf (1989), a Phontrhydfendigaid fydd y gyrchfan, yna, fe fydd hi’n dro i’r Gogledd i wahodd drachefn.
Beth yw barn darllenwyr
Llafar Bro tybed am ei gwahodd hi i’r Blaenau ym 1990?

Yn sicr, fe fu’r ardal yn un o gadarnleoedd y grefft ar hyd y blynyddoedd. Onid yn y fro hon y rhoddwyd bri ar ganu gyda’r tannau’n y dyddiau cynnar? Daw enw sawl arloeswr i’r cof –
David Francis, y telynor dall, Dewi Mai o Feirion, William Morris Williams, Ioan Dwyryd, J.E.Jones, Maentwrog – i enwi ond ychydig. Rhoes Gwenllian Dwyryd oes o wasanaeth i’r grefft, ac mae’n dal i’w hybu o hyd. Mae Mona Meirion ac Einir Wyn Davies – dwy sy’n enedigol o’r Llan – ymhlith cyfeilyddion enwoca’r genedl – ac mae eu henwau i’w gweled fel telynoresau yn rhestrau testunau’r naill ŵyl genedlaethol ar ôl y llall ..... Beth amdani felly?”
[‘Llafar Bro’. Rhifyn 146 ... Hydref 1988]

Ddaeth hi ddim i’r Blaenau ym 1990. Fe aeth yn hytrach i Fangor. Cofiaf drafod y mater efo’r cyn-Drefnydd, Dewi Prys Jones, Llangwm, a doedd o ddim yn teimlo fod ei lleoli’n y Blaenau’n addas y pryd hwnnw.

Bellach, mae amgylchiadau wedi newid, a gallwn, mi allwn ei chynnal yma ar gampws Ysgol y Moelwyn.

Estynnwn wahoddiad i gymaint ohonoch ag a fedr ddod ynghyd i’r cyfarfod nesaf [gweler isod].

Does dim rhaid i chi fod yn gerdd dantwyr, yn delynorion, yn gantorion gwerin, yn llefarwyr nac yn ddawnswyr gwerin.

Os ydych yn caru pethau gorau’r diwylliant Cymreig ac yn fodlon gweithio dros eu hybu, neu os oes gennych awgrymiadau am ddulliau codi arian neu ddiddordeb mewn stiwardio, apeliwn yn daer am eich cefnogaeth.

Rydw i’n siŵr na fyddwch chi’n difaru cael bod yn rhan o dîm lleol fydd yn fodd i roi statws cenedlaethol i’r hen dre unwaith eto ac i ddod ag atgyfnerthiad bychan i’r economi leol.

**********************
Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Mehefin 2016.
A'r diweddariad isod yn rhifyn Gorffennaf 2016.

Gŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog a’r Cyffiniau 2018

Mae’r dyddiad wedi’i osod a’r pwyllgor gwaith wedi dechrau ar y trefnu sylweddol sydd o’u blaen. Cynhelir gŵyl undydd mwyaf Cymru yn Ysgol y Moelwyn ar ddydd Sadwrn y 10fed o Dachwedd, 2018.

Penodwyd Iwan Morgan yn gadeirydd, a fo fydd yn llywio’r gwaith cynllunio, ochr yn ochr â threfnydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, John Eifion.

Cytunodd pawb oedd yn y cyfarfod ar yr 22ain o Fehefin i wasanaethu ar un o’r chwech is-bwyllgor:
cerdd dant; 
canu gwerin; 
dawns werin; 
telyn; 
llefaru; 
cyllid a chyhoeddusrwydd, 
ond mae angen mwy o enwau i sicrhau llwyddiant y trefniadau. Byddwn angen cymorth pawb yn y gwaith hwyliog o gasglu arian a threfnu gŵyl lwyddiannus.

Be’ amdani gyfeillion, ydych chi’n fodlon cefnogi? 

Bydd y cyfarfod nesa’ ar Nos Fawrth, y 27ain o Fedi eleni, am 7.30 o’r gloch, yn Ysgol y Moelwyn.

Dewch draw, mae croeso i bawb. Nid oes angen i chi fod yn gerdd-dantiwrs; yn gerddorion; nac yn ddawnswyr gwerin! Os oes gennych ddiddordeb yn nhraddodiadau Cymru, ac eisiau gweld Bro Ffestiniog yn cael sylw haeddianol yn y cyfryngau, dewch i gyfrannu. Diolch. -PW

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon