Hufen ia iogwrt a ffrwythau
8 owns o eirin Mair neu gwsberins
8 owns o fafon neu gyrains coch
12 owns o iogwrt naturiol
4 llwy fwrdd o siwgr brown
Coginiwch yr eirin Mair mewn ychydig ddŵr am tua 15-20 munud (neu rhowch yn y meicrodon am 6 munud ar y pwer uchaf).
Gwnewch ‘puree’ o’r ffrwythau i gyd, ac yna ychwanegwch yr iogwrt. Cymysgwch eto gan roi’r siwgr i mewn i felysu. Rhowch mewn tun bas a rhewi hyd nes yn caledu o amgych yr ochrau.
Curwch yn dda eto ac yn ail rewi.
Sorbet cyrains duon
Pwys o gyrains duonCogniwch y ffrwythau hefo 6 llwy fwrdd o ddŵr nes yn feddal. Rhowch drwy’r gogor.
6 owns o siwgr
2 lwy de o sudd lemwn
Rhowch y siwgr mewn hanner peint o ddŵr a berwch am 10 munud. Oerwch ac ychwanegwch y sudd lemwn.
Cymysgwch hefo’r puree cyrains duon a’i wneud i fyny i beint a chwarter efo dŵr. Gorchuddiwch, a rhewi am ¼ awr.
Curwch a’i rewi eto am yr un amser.
Yna gwnewch yn yr un modd am y trydyd tro.
Dip Siocled
2 bar siocled a thaffi meddalTorrwch y siocled i gyd a’i doddi efo’r hufen tros bowlen neu sosban o ddŵr berw. Defnyddiwch yn gynnes hefo ffrwythau’r haf i’w towcio ynddo.
4 owns o siocled plaen
5 owns o hufen dwbwl
----------------------------------------
Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
Lluniau- Paul W
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon