14.7.16

Sgotwrs Stiniog -egarych werdd

Erthygl arall o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans.

Dyma hi’n fis Gorffennaf arnom unwaith eto fel sgotwrs y fro. “A’r hirddydd ar ei harddaf” fel y dywed un bardd.

Gobeithio y cawn ni fis Gorffennaf go iawn eleni. Dyma brif fis y sgota nos am frithyll; mis y rhwyfwr a’r egarychod; mis y mae iddo’i awyrgylch a’i hyd a’i ledrith unigryw ei hun.

Egarych werdd Pen-ffridd. Llun Gareth T. Jones, o lyfr Emrys Evans 'Plu Stiniog' 2009.

Tydw i ddim yn cofio a fu imi roi yr englyn a ganlyn gan J. Glyn Davies yn y golofn o’r blaen. Efallai imi ei chynnwys ryw dro yn y gorffennol. Ta waeth, dyma hi, pa’r un bynnag, yn gameo bach mewn cynghannedd, wedi’i gloi mewn pedair llinell, i’r ‘Genweiriwr

Ac yn awr y genweiriwr, - a’i gi draw
Gyda’r hwyr wrth grychddwr;
Rhyw rith llwyd o freuddwydiwr,
Ara deg wrth odre dŵr.
Yr hanes diweddaraf a daeth i Swyddfa Sgotwrs Stiniog ydi am sgotwr o’r Manod, sy’n byw mewn rhan go ‘glyd’ o’r ardal, yn aelod ar un adeg o dîm Cymru ac yn dal un o’r ‘Padelli Rhosyn’.

Yn ystod un o nosweithiau olaf mis Mehefin aeth i Lyn Conwy am y naid nos gan feddwl cael noson ddedwydd o bysgota. Ond cyn iddo gymaint a rhoi pluen yn y dŵr, mewn rhan arbennig a elwir y ‘Badell Fawr’, sangodd ar un o gerrig lithrig y lle, ac aeth dros ei ben a’i glustiau i mewn i’r llyn. Roedd cyn wlyped ag y gwnai dŵr ef, ac yn ôl un tyst diogel iawn ei dystiolaeth a’i gwelodd – yn debyg iawn i hen jacdo wedi gwlychu a’i blu ar chwâl. Ac felly, adref fu ei hanes, heb naid nos, heb bysgodyn, ac fel y dywed Dic Jos mewn englyn: “A’i din yn wlyb odano.” 

Fel yr ydw’i wedi grybwyll o’r blaen yn y golofn hon, ychydig iawn o sgotwrs fyddai’n ei glywed erbyn heddiw yn son ac yn crybwyll ‘egarychod’.

Roedd y plu yma’n bwysig iawn gan yr hen sgotwrs, yn arbennig felly ym mis Gorffennaf, pan yn pysgota yn y nos ac yn ystod y dydd.

Rwyf wedi cynnwys ambell i batrwm o blith yr egarychod yn y golofn o dro i dro, fel, er engraifft, egarych gochddu, egarych dyfrgi, egarych melyn budr, ac un neu ddwy arall.

Flynyddoedd yn ôl, bellach, pan yn sgwrsio am bysgota hefo Dafydd Dafis Penffridd, y cawiwr o’r Manod, cefais ganddo nifer o batrymau plu.

Yn eu plith mae yna batrymau rhai o’r egarychod y byddai ef yn eu cawio ac yn eu pysgota yn llynnoedd yr ardal, ond yn y ddau Lyn Gamallt yn bennaf.

Dyma un o’r patrymau hynny (llun uchod):

Bach. Maint 12. Bach y math ‘sproat’ a ddefnyddai.
Corff. Blewyn morlo wedi’i lifo’n wyrdd golau, ac hwnnw wedi’i amgylchu a chwíl (cynffon paun). Gwneud y corff yn fain ac yn weddol fyr.
Traed. Bôn-du-blaen-melyn. Dyna fel y byddai ef yn disgrifio y rhai fyddwn ni heddiw yn eu galw yn ‘bajar’.
Adain. Rhegen-yr-yd yn wreiddiol. Gwneud yr adain o bluen iar o liw melynaidd gwan.

Fel arfer byddid yn rhoi yr egarychod ar y blaen-llinyn un ai yn agosaf at law neu yn bluen ganol.
Fe fyddwn i’n falch iawn pe byddai rhai o sgotwrs yr ardal yn mynd ati hi i gawio y patrwm uchod ac yna dal gyda o. Mi fyddwn i’n falchach fyth o gael gwybod am hynny. Anfonwch air.
-------------------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1998.
Dilynwch gyfres Sgotwrs Stiniog efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon