10.7.16

Peldroed. 1973--75

Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau. 
Parhau'r gyfres, yng ngofal Vivian Parry Williams (allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones.



1973-74
Enillodd Stiniog y bencampwriaeth eto ym 1973-74.  Wedi ennill Cwpan Gogledd Cymru, Cwpan Alves a Chwpan Cookson yn y tymor blaenorol - ynghyd ag ennill y bencampwriaeth - yr oedd pob gobaith tua diwedd tymor 1973-74 y gellid ennill y bencampwriaeth a'r ddwy brif gwpan eto, ond roedd Peter Rowlands wedi gadael a chyfnewidiadau wedi eu gwneud yn y tîm.

Roedd y dynion newydd a sicrhawyd yn rhai talentog dros ben.  Tony Hennetty, er enghraifft yn sgorio 33 gôl a Terry Smith (14). Felly hefyd Congerton, Folksman, Whelan, Ashton, Blackhall ac eraill.  Ond roedd rhyw elfen ar goll yn chwarae y Blaenau ym 1973-74, er iddynt orffen ar ben y tabl.

Er hynny cyrhaeddwyd ffeinal Cwpan Cookson a Chwpan y Gogledd.  Cymerodd dair gêm i Marine guro'r Blaenau yng nghwpan Lloegr a dwy i'r Rhyl eu curo am Dlws Lloegr.  Gwnaeth y Blaenau'n dda yng Nghwpan Cymru drwy guro Caernarfon, Pwllheli ac Aberystwyth cyn cael eu gorchfygu gan Wrecsam.

Yr oedd ystadegau Stiniog am eu gemau Cynghrair yn arbennig o dda.  Dim ond chwe gôl a sgoriwyd yn eu herbyn mewn 16 gêm gartref, ac ni enillodd neb yng Nghae Clyd. Crëwyd record hefyd drwy ennill 13 o gemau oddi cartref.  Clwb newydd yn y Gynghrair oedd Aelwyd Rhosllanerchrugog a chawsant fedydd tân gan Stiniog.  Curwyd hwy 6-0 yng Nghae Clyd a 7-0 yn y Rhos. Bu'r Blaenau yn ddi-drugaredd iawn efo Llandudno Swifts hefyd drwy eu curo 10-0 a 5-1.

Roedd Bill Conlon bron yn amhosib' i'w guro yn y gôl i'r Blaenau.  Chwaraewyd efo deg dyn yn erbyn y Rhyl pan gafwyd gêm gyfartal yng nghystadlewuaeth Tlws Lloegr.  Sgoriodd Billy Wiliams ddwywaith i gael sgôr o 2-2.  Yn yr ail-chwarae yn y Rhyl collodd Blaenau 3-4.

1974. Llun oddi ar Stiniog[dot]com

1974-75
Dros gyfnod maith iawn fe gollodd y Blaenau fwy o bwyntiau cynghrair i Borthmadog nag i unrhyw glwb arall ac yr oedd tymor 1974-75 ymysg y gwaethaf o berfformiadau Stiniog yn erbyn y Port. Yn eu dwy gêm collodd y Blaenau 0-5 a 0-6.  Y mae'n rhyfedd fel y mae patrymau yn ffurfio dros nifer mawr o gemau yn erbyn y clybiau.

O flwyddyn i flwyddyn bu clybiau y Rhyl a Chroesoswallt yn arbennig o anlwcus i Stiniog yn y cwpannau.  Wedi cael gêm gyfartal yn erbyn Croesoswallt yng Nghwpan Lloegr - hynny hefyd yn ddigwyddiad normal - aeth Stiniog i Groesoswallt a cholli 0-1 yn nhymor 1974-75.  Yng Nghwpan Cymru wedyn, dioddefodd y Blaenau eto pan ddaethant ar draws y Rhyl.

Cychwynwyd y tymor ar y dealltwriaeth bod cyllid y clwb braidd yn isel, ac y byddai'n ofynnol i gael gwasanaeth rhai chwaraewyr lleol.  Hyn yn y tymor yn syth ar ôl i'r tîm ennill y bencampwriaeth dair blynedd yn olynol. Wedi'r holl lwyddiant yn y Gynghrair ac yn y cwpannau ymddangosai fod cefnogwyr y Blaenau wedi dechrau colli diddordeb, ac yn tueddu i gadw draw o'r gemau.  Rheswm arall yn ddiau oedd ei bod yn ddrud iawn i gadw tîm cryf.

Bob Davies, gynt o Groesoswallt, â chysylltiad teuluol ganddo â Llan Ffestiniog oedd yn rheoli yn 1974-75.  Rhai o'r bechgyn lleol a ymunodd oedd Glyn Jones (40 gêm), Richard John (36), Richard Evans (38), Billy Williams (36).  Chwaraeodd Glyn Jones, Roman Bridge ymhob un o'r deugain gêm.  Cyrraedd ffeinal Cwpan y Gogledd oedd pinacl tymor digon gwachul.  Richard John oedd y sgoriwr uchaf gyda 22 gôl.  Yn y gôl bu Norman Bennet a Tim Humphreys. 
----------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2006.
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod. 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon