28.7.16

Rhod y Rhigymwr -cerddi cymdeithasol

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Mehefin 2016

Mae cerddi cymdeithasol a luniwyd ar achlysuron arbennig ym mywydau aelodau o’n cymuned yn gofnodion hynod bwysig. Yn aml iawn, os ydy rhywun yn cael ei ystyried yn dipyn o rigymwr, gall ceisiadau i lunio penillion i gyfarch rhywun ar ben-blwydd arbennig, priodas, pen-blwydd priodas, ar achlysur ymddeol, er cof ac yn y blaen fod yn niferus. Cofnodir yn aml hefyd ddisgrifiadau o lefydd diddorol mewn ardal, hanes digwyddiadau arbennig neu droeon trwstan.

Mae nifer o rai’n nalgylch ‘Llafar’ sy’n dipyn o arbenigwyr ar lunio penillion o’r fath. Un o’r rheiny ydy’n trefnydd hysbysebion gweithgar, Gwilym Price, Dolawel. Dathlodd Iola Mai Williams, Llan ei ‘phen-blwydd arbennig’ yn 70 oed ar y 5ed o Fai (diwrnod Etholiad y Cynulliad). Mewn parti bychan yn y Pengwern, dyma ddetholiad o'r gyfres benillion a gyflwynwyd gan Wil:

Mae heddiw’n ddiwrnod lecsiwn -
Dydd pwysig meddai rhai,
Ond llawer iawn pwysicach
Yw pen-blwydd Iola Mai.
Wel dyma eneth weithgar
Ers safodd ar ei thraed,
Nid oes un asgwrn segur
Na diogi yn ei gwaed.


Mae’n brysur yn y Capel
Pob Sul yn gwneud ei rhan,
Yn selog yn y Neuadd
A Merched Gwawr y Llan.
Bro Cynfal sydd yn agos
I’w chalon, heb ddim pall,
Mae’n wastad ar ei gorau
Yn helpu hwn a’r llall.


Wel diolch i ti, Iola,
Cenhades dda y Llan,
Cymera egwyl bellach,
Rwyt wedi gwneud dy ran.
Mwynha y dathlu heddiw,
‘Saith deg’ wyt, medda rhai,
A’r gwydra’n taro naill a’r llall
Ar benblwydd Iola Mai.


Dros ugain mlynedd yn ôl, dwn i ddim a ydy o’n cofio, fe ges i ‘fenthyg’ nifer o hen gyfrolau o’r ‘Cymru Coch’ (golygydd O.M. Edwards) gan Wil. Mae nhw’n dal yn saff ar fy silffoedd! Ymysg y rhain, roedd llyfr nodiadau clawr caled o’r eiddo ‘John Thomas, 88, High Street, Blaenau Ffestiniog (1894)’. Mae hwn yn llawn o farddoniaeth a phytiau o ysgrifau difyr yn llawysgrifen daclus y perchennog.

Edrychais ar gyfrifiad 1901, a dod ar draws y manylion canlynol:
‘John Thomas, Chwarelwr 31 oed a aned yn Ffestiniog
Margaret, ei wraig, 31 oed a aned ym Meddgelert
Dau o blant: Gladwen (2 oed) a Thomas John (11 mis)
Tybed a ŵyr rhai ohonoch chi’r darllenwyr rywbeth amdano?

Gan mai sôn am gerddi cymdeithasol a wnaf y mis hwn, dyma flas o gynnwys casgliad J.T.

Pont Maentwrog. Llun Paul W

Englynion i’r Mri. David Roberts, Glan yr Afon a Henry Jones, Dolymoch wrth edrych ar bont ododog a godwyd gan y ddau dros Afon Dwyryd, yr hon sydd gampwaith celfyddydol y ganrif hon ...

Rhyw bont hynod ar bentanau – godwyd
Dan grogedig didau;
Ei phreiffion, dynion gadwynau,
A ‘screw’ o’i hôl i’w sicrhau.


Hir rodfa, trigain troedfedd – o gyrraedd
Y garwyllt li’ llwydwedd,
A di-syfl, gwawdia o’i sedd
Y ‘Ddwyryd’ a’i chynddaredd.


Pont ‘Harri,’ pa anturiaeth – a luniwyd,
A lanwa’r gwasanaeth?
Ei nerth, ei phris, ni thraetha ffraeth
Huawdledd naw cenhedlaeth.


Athrylith Harri welaf, - a dyfais
Dafydd ar ei heithaf,
Yn y dernyn cadarnaf
O berffaith gampwaith a gaf.


Yr awdur oedd un a alwai’i hun yn ‘UN O’R MAEN’. Prydydd lleol, a chynganeddwr sicr ei grefft - o Faentwrog o bosib?

Mewn Talwrn, rhyw bymtheng mlynedd yn ôl, cofiaf weithio’r englyn canlynol:

CRAIG - Pulpud Huw Llwyd yn Afon Cynfal, islaw fy nghartref
Arhosaist drwy yr oesau - i herio
Cerrynt y rhaeadrau;
Onid brych yw mywyd brau
Ar haen un o’th ronynnau?
Pulpud Huw Llwyd ynghanol llif Afon Cynfal. Llun Tecwyn V Jones

Yn llyfr nodiadau J.T., deuthum ar draws yr englynion canlynol i’r Pulpud gan brydydd a alwai ei hun yn ‘PEDR DULAS’ – nad ydy lawn cystal cynganeddwr â’r bardd a ganodd i Bont Maentwrog:

Areithfa o raddfa oer ryfedd – o graig,
Un ddi-gryn a llyfnwedd,
Mewn ceunant certh a serthedd
Yn groes i far, ungris ni fedd.


Y bardd uwch aig ar y graig fu – yn aros
Am oriau heb gysgu,
Trwy’r nos heb un diddos dŷ,
Brwd awydd i brydyddu.


Y Saeson, lu hylon ddaw – gan nythu
Ar areithfa islaw;
Dibyn a’i frochlyn sy’n fraw,
Yna’i genlli ddiganllaw.


Pur eglur mai peryglus – yw rhodio
Ar hyd llechwedd echrys,
A rhai’n dod ar ormod brys
I’w boddi, mae’n wybyddus.


Gwyliwch nad ewch i’r gwaelod! – Y crochlyn
Crychlas sydd mewn cysgod
Serth lithrig, mae’n beryg bod
Rhai’n welw yn ei waelod.


-----------------------------------------------------

Gallwch ddilyn y  gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon