Bum i fyny at Lyn Stwlan yn ddiweddar ac eisteddais ar lan y llyn, a thra yno, crwydrodd fy meddwl yn ôl i'r amser pan fyddai'r hen bysgotwyr yn adrodd storïau am bysgod efo pennau mawr a chyrff tenau ym mherfeddion y llyn.
Roedd sôn hefyd mewn un papur newydd, oddeutu can mlynedd yn ôl, bod brithyll o'r Alban wedi eu rhoi yn y llyn fel mâg. Ond, yn ôl pysgotwyr lleol, rhai Cymreig oeddynt o'u pennau i'w cynffonau.
Eto i gyd, nid oes gennyf gof gweld neb yn pysgota yno cyn iddynt ddechrau ar y gwaith trydan-dŵr.
Oes pysgod ynddo heddiw tybed?
Stwlan o'r Graig Ysgafn, gan Barry Hunter. Dolen isod* |
* * * * *
Llyn Stwlan eto:
Atgoffwyd fi gan Peter Humphreys, Neuadd Ddu ar ȏl imi ysgrifennu’r pwt am Lyn Stwlan yn rhifyn Mai mai hen enw’r llyn oedd ‘Llyn Trwstyllog’. Dyna a geir yng nghyfrol Hanes Plwyf Ffestiniog (1882) gan G.J.Williams, yn ogystal ag ar ambell fap.
Yn wir, ceir enghreifftiau eraill ac weithiau esboniad gwahanol o’r enw hefyd, megis Llyn Trwstyllon gan Thomas Pennant yn ei ail gyfrol Tours in Wales (1773).
Yna,‘Llyn Trwst y llan’ a ddywed Wm.Jones yn hanes Ffestiniog yn y gyfrol gyntaf Cymru: yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraffyddol gan Owen Jones (1871-1875).
‘Llyn Trwstyllon’ a gawn eto gan Samuel Lewis yn ei gyfrol A Topographical Dictionary of Wales (1833) a chynnig William Jones (Ffestinfab) yw ‘Llyn dwys-du-lyn' yn Hanes Plwyf Ffestiniog (1879).
Diolch iti, Pitar, am dynnu fy sylw at yr hen enw ar ‘Stwlan’.
---------------------------------
*Llun trwy drwydded Comin Creadigol o dudalen Llyn Stwlan ar Wicipedia.
Ymddangosodd y darnau uchod yn rhifynnau Mai a Mehefin 2016.
Gallwch ddilyn cyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon