8.7.16

Pobl y Cwm -gweinidogion a rhyfeloedd

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal. 
Pennod arall o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Cafodd nifer o blant eu bedyddio yn y Babell, y rhai ddaeth wedyn yn ddinasyddion da a gwerthfawr i Gymdeithas, a rhai wedi dringo i safleoedd uchel.

Tra bum i yn y Babell am i agos i hanner can mlynedd, bum dan weinidogaeth pedwar gweinidog. Y Parch Thomas Lloyd wyf yn ei gofio gynta. Bu yn weinidog ar Engedi am un-mlynedd-ar-ddeg. Pan yn ymadael yn 1905 am Capel Coch Llanberis, tynwyd llun o Gynulleidfa y Babell i roddi yn anrheg iddo. Roedd rhif yr aelodaeth yr adeg honno yn agos i hanner cant, a rhif y plant tan 14eg oed yn ugain. Bedyddiodd Parch Thomas Lloyd brawd i mi a dwy chwaer. Gwnaeth y gymwynas olaf i fy mam, chwaer a brawd i mi.

"Yma y safai hen gapel Y Babell." 1861-1904

Yn 1906 daeth y Parch John Edward Hughes o'r Coleg yn weinidog ar Engedi. Priododd pan yn dod yma i Ffestiniog â merch o Aberystwyth, ac aethant i fyw i Rhianfa, tŷ oedd yn eiddo Engedi. Yn mhen y flwyddyn ganwyd iddynt blentyn bach marw anedig, ac yn mhen dwy flynedd arall ganwyd mab iddynt, a bu farw ei fam ar ei enedigaeth. Enw'r mab yw John Medwyn Hughes, ac y mae yn byw heddyw [1978] yn Sir Fôn. Mae ganddo adgofion melys am y Babell.

Y Parch J.E.Hughes dderbyniodd fi yn gyflawn aelod o'r eglwys, wyth ohonom o'r Babell, ac unarddeg o Engedi ar yr un pryd ar nos Fercher Seiat yn Engedi. Byddai y gweinidog yn dod i'r Babell ryw awr o flaen y Seiat i roi gwersi i ni at gael ein derbyn, a rhaid oedd dysgu pobeth yn iawn. Rwyf yn cofio yn dda ei gynghorion a'i rybuddion, er lles i bawb o honom. Roedd hyn tua 1912, y flwyddyn hono roedd y gweinidog yn gadael Engedi wedi chwe blynedd o wasanaeth ffyddlon am eglwys Brynshengcyn Sir Fôn.

Rhywdro rhwng 1913-1914 daeth y Parch Edward Powell o eglwys Nant Peris yn weinidog ar Engedi. Bu yno am wyth mlynedd ar hugain yn gwasanaeth. Roedd pawb yn yr ardal yn edrych arno fel un o'r Llan. Hen lanc ydoedd a'i chwaer yn cadw tŷ iddo. Rhyw dro tua 1922 daeth gofalaeth eglwys Peniel iddo i'w bugeilio, ac i olygu mwy o waith iddo. Roedd y Parch Ed Powell o natur addfwyn, caredig a chymwynasgar. Roedd yn hoff iawn o blant, a llawer tro pan ar ymweliad rhoddai rywbeth yn llaw plentyn yn ddistaw, heb son na stwr. Byddai yn dod yn rheolaidd i ymweled a'i aelodau unwaith yn y flwyddyn, ac yn ymweld â'r hen a'r cleifion yn gyson. Bedyddiodd ddau fachgen i mi, gwnaeth y gymwynas olaf i fy mrawd a fy nhad, ac i fy machgen a fu farw drwy ddamwain yn 12 oed. Ymddeolodd o'r weinidogaeth ryw dro rhwng 1941-1942, ac aeth yn ôl i'w gynefin yn Rhosesmor. Bu cyfarfod ymadawol iddo yn Peniel, a chyflwynwyd tysteb iddo fel arwydd o werthfawrogiad o'i wasanaeth i'w eglwysi a phentre Ffestiniog am y cyfnod o wyth mlynedd ar hugain.

Yn mhen y flwyddyn wedyn daeth y Parch John Daniel Gruffydd a'i briod a dau o fechgyn o eglwys Gwernymynydd i fugeilio eglwysi Engedi a Peniel. Bu yntau yn ffyddlon, diwyd a gweithgar yn mhob rhan o wasanaeth yr eglwysi. J.D.Gruffydd wnaeth y gymwynas olaf i fy annwyl briod ar y 4ydd o Ragfyr 1946.

Gwelais ddwy ryfel byd yn y cyfamser. Collodd chwech o fechgyn Cwm Cynfal eu bywydau yn hon, er loes a cholled a hiraeth i'w teuluoedd ac i'r ardal, a prin i glwyfau y rhai a anafwyd gael amser i wella, roedd rhyfel 1939 ar y gorwel, a'r byd i gyd mewn dryswch. Roedd pawb yn byw mewn ofn a phryder, gwyddent drwy brofiad beth oedd effeithiau a chanlyniadau rhyfel. Bu am gyfnod o chwe blynedd. Daeth ein bechgyn o'r Cwm yn ôl o'r gyflafan honno yn ddianaf. Cafwyd swper croeso yn ôl iddynt yn y Babell, a diolch i Dduw am eu cadw, gan gofio gyda gofid a loes a hiraeth dwys am y rhai a aeth yn aberth i'r gyflafan fawr.

Bu yn amser galed iawn ar bawb y pryd hynny, bob peth yn gorfod newid eu cynlluniau, y bechgyn ifanc yn gorfod mynd i'r fyddin, eraill, yn fechgyn a merched yn gorfod gadael eu cartrefi i fynd i ffatrioedd i wneud arfau rhyfel. Y gweithwyr ar y tir yn prinhau, ac er iddynt weithio o oleu i oleu, roedd yn galed i godi digon o fwyd a phethau angenrheidiol i gadw'r wlad i fynd. Do, bu mewn cwrs amser newid mawr mewn trefniadau ac amgylchiadau, daliodd y bobl y Babell yn dynn yn rhaffau yr Achos, er colli llawer iawn o aelodau, fel pob man arall.

Er yr holl anhawsterau a'r anfanteision, yr oeddent ar eu goreu gyda'r plant a'r ifanc yn y gwaith da oedd dan eu gofal. Roedd eu ffyddlondeb, diwydrwydd au dyfalbarhâd yn eithriadol, ac fel cymwynaswyr a charedigion yn wir ystyr y gair.

Gofalwyr y Babell yn 1946: Ellis Thomas, Tynyfedwen, Howell Roberts, Brynmelyn, John Roberts, Brynllech.

Bendith Duw ar bawb o honoch, a daliwch i gredu yn gadarn a chry mewn ffydd, gobaith a chariad, fod i Seion eto Wanwyn hyfryd iawn.

Dyna fi wedi teithio yn ôl yn fy nghof agos i hanner canrif, mae'n sicr fy mod wedi gwneyd amryw gamgymeriad. Rwyf yn teimlo fod gen i ddyled a diolch mawr i'r Babell am y cychwyn a gefais yno, ac i'r gweinidogion y bum dan eu gofal ac yn fy hyfforddi. Rwyf yn cael cysur ac yn mwynhau edrych yn ôl i'r amser a fu.   
---------------------------------------

Ysgrifenwyd yr atgofion yn wreiddiol ym 1978; a bu'r gyfres yn rhedeg yn Llafar Bro yn ystod 1999 a 2000.
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon