6.7.16

O Lech i Lwyn -Ceunant Llennyrch

Allan Tudor gyfrannodd erthygl i’r gyfres awyr-agored yn rhifyn Mai 1999. 

Un lle y byddaf yn hoff o fynd am dro iddo yw Ceunant Llennyrch ar yr afon Prysor. Un rheswm am hyn, hwyrach, yw fod cysyltiad â fy nhaid, John Tudor, Brynderw gynt, a fu yn was yn Llennyrch, ar ôl i’r barcdu yng Ngellilydan gau. Un o’i ddiddordebau oedd gwneud ffyn, ac yr oedd y ceunant yn nodedig am fod yn lle da i dorri ffon. (Par bryd yw yr amser gorau i dorri ffon? Pan ei gweli di hi!!)

Gan fod ansawdd y graig yn feddal, a llif afon Prysor yn gryf iawn cyn cronni’r llyn, mae’r dŵr wedi gwneud ceunant dwfn iawn, ac yn gul iawn mewn mannau.

Mae sawl peth diddorol i’w nodi. Gan ddechrau ger Pwerdy Maentwrog  a adeiladwyd yn y dauddegau, tua dau ganllath i fyny’r afon mae ‘Ivy Bridge’ (ni chlywais enw Cymraeg arni erioed). Pont hynafol, diddorol, tlws a rhamantus. Un bwa cul, hir, yn rhychwantu’r afon. Mae yn uchel, i fod yn glir o’r llifogydd mynych mae’n siwr. Ac o gofio fod llanw uchel yn mynd i fyny yr afon Prysor, heibio’r bont.

Mae’n rhy gul i drol a cheffyl. Dim canllawiau. Pont i anifeiliaid yn cario pwn; ceffylau neu fulod hwyrach. Mae ar yr hen ffordd rhwng Maentwrog a Llandecwyn, a ddefnyddiwyd cyn adeiladu y ffordd sydd yn dilyn y Ddwyryd i Gilfor. Syndod fel mae wedi goroesi a hithau yn edrych braidd yn fregus. Roedd yr adeiladwyr yn gwybod eu gwaith, mae’n siwr.

Ychydig i fyny’r afon ar yr ochr ogleddol bu melin goed ar un adeg, i drin yr holl dderw a dyfai yn y dyffryn. Ac wedyn ar yr ochr arall i’r afon yr oedd odyn galch, rhwng Felinrhyd Fach a Thŷ’n y Coed. Byddai’r ‘Philistiaid' yn dod a cherrig calch i fyny’r Ddwyryd o Ynys Cyngar yn y cyfnod pan allforiwyd y llechi gyda’r cychod.

Rhaeadr Ddu, Rhagfyr 2015. Llun Paul W.
Yna doir at y Rhaeadr Ddu sydd yn syrthio dros glogwyn fel siôl fawr i bwll crwn. Wrth gwrs, cyn amser Llyn Traws, roedd yn llawer mwy trawiadol nag yw heddiw, ac yn gyrchfan i fyddigion o ymwelwyr fel Thomas Pennant yn y cyfnod ‘rhamantaidd’.

Y nodwedd nesaf a welir yw safle hen bont Llennyrch. Roedd hon ar y ffordd drol a redai o  Gellilydan, heibio Bryn Tirion, a’r Ysgubor Hen i Lenyrch. Dyma’r ffordd fyddai gweinidog Capel Methodus Gellilydan yn mynd i’r capel bach ger Llennyrch. Cofiaf innau fynd i Lennyrch gyda mam a Modryb Gwen Tudor pan oeddwn yn chwech oed, drwy’r ceunant a dros y bont!

Pentan Pont Llennyrch, Rhagfyr 2015. Llun Paul W.
Ddwedwn i fod yr adeiladwaith bron yn unigryw, fel bu i’r adeiladwyr gymeryd mantais o’r tirlun. Ar ochr Gellilydan o’r afon, daw y ffordd yn raddol i lawr llethr y ceunant i ben clogwyn serth, tua ugain troedfedd o uchdwr. Ar ochr Llennyrch, mae’r ceunant yn weddol wastad am rai llathenni o wely’r afon. Ar y tir yma codwyd ramp serth, o gerrig afon mawr. Roedd bwa’r bont wedyn yn cysylltu’r clogwyn a’r ramp. Campwaith go arbennig. Trueni iddi ddymchwel. Rwy’n meddwl mae tua’r chwedegau* y bu hyn. Buasai'n hwylusodd mawr i gerddwyr heddiw pe bai wedi cael ei diogelu.

Mae rhaeadr arall i’w gweld ychydig i fyny o’r bont. Ni wn am enw iddi, ac nid yw mor drawiadol a'r Rhaeadr Ddu. Math o rapids mewn cafn cul ydyw.

Cofiaf fy nhad yn adrodd hanes trychineb a ddigwyddodd yn y ceunant. Fel hyn y bu:
Tua 1840 roedd un o feibion Llennyrch, William Evans, yn dod adref drwy’r ceunant, ar ôl bod yn gwerthu rhai anifeiliaid mewn ffair. Wrth gwrs yr oedd yn cario swm go sylweddol o arian. Yr oedd rhywun wedi ei ddilyn, ac wedi ymosod arno ar y ffordd. Bu brwydyr ffyrnig, a William Evans druan yn ymladd am ei fywyd ar lethrau’r ceunant. Ond colli fu ei hanes, a’r traddodiad yw fod ôl ei draed wrth geisio amddiffyn ei hun i’w gweld yn y tir am flynyddoedd wedi’r digwyddiad. Ni wyr neb pwy oedd y llofrudd.

Mae digon o lwybrau yn mynd ar hyd y ceunant, ar y ddwy ochr i’r afon. Lle da i fynd am dro ar ddiwrnod braf, i weld y rhyfeddodau, gwylio’r adar, a hwyrach torri ffon!
------------------------------------------

Erthygl am fywyd gwyllt Ceunant Llennyrch.

* Awgrym am ddyddiad cynharach yn fan hyn.


Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon