4.7.16

Tanygrisiau Ddoe -Sul, gwyl a gwaith

Pennod olaf cyfres Mary Jones am y gymuned rhwng 1920-36.

Yr wyf wedi cyffwrdd yn flaenorol ar y capeli, Carmel, Capel Wesla, Horeb, Bethel, Caersalem (B), Moreia (B), Dolrhedyn (M), a'rr Eglwys, ond pan oeddwn i yn Nhanygrisiau roeddynt yn sefydliadau holl bwysig yn y gymdeithas leol; yn ganolfannau gweithgaredd brwd, llafur cariad a diwylliant. 

Ar y Sul roedd gwasanaeth y bore, pnawn a hwyr a hefyd byddai’r Ysgol Sul a’r c’warfod canu yn dilyn yn y pnawn; practis côr y plant a’r dosbarth derbyn.  Byddai ‘Band of Hope’ ymhob capel bron ar wahanol nosweithiau.  Byddai croeso i blant o bob enwad i fynychu a hefyd yn yr Eglwys Bach.
Roedd hefyd band-o-hôp Rechabiaid yng Nghapel Caersalem (Albanaidd).  Byddem yn dysgu canu y gân ddirwestol (os cofiaf yn iawn):
Dim ond Yfed Dŵr – Yfed Dŵr, Feddwodd neb wrth Yfed Dŵr 

Byddai’n arferiad o gynnal cyngherddau elusennol ac aethpwyd o gwmpas y tai i werthu ticedi, chwecheiniog yr un, a’r cwmniau drama a’r corau ayyb yn wirfoddol.  Yr elw at rai o’r plwyfion oedd wedi colli ei iechyd, neu ddamwain yn y chwarel.

Cae Tynddol, hen gapel Bethel ar y chwith uchaf, siop Brymer (hen gapel Wesla), Eglwys dun St Ioan tu ôl i'r drol.*

Wrth son am help llaw – roedd llawer o blant a phobl yn mynd i gynorthwyo’r ffermwyr adeg y cynhaeaf gwair ac roedd llawer o hwyl i’w gael.  Pan oedd rhywun yn wael, roedd merched yn mynd i’r tŷ dros nos.  Cofiaf fy mam yn mynd i dŷ cyfagos a llond ei breichiau o ddillad gwely i olchi ganddi at y bore wedyn.

Yn ystod y nosweithiau tywyll a dim golau ar y ffyrdd, byddem yn mynd i’r band-o-hôp hefo lantern wedi ei gwneud o dun triog mawr a channwyll o’r chwarel.  Roedd band-o-hôp bron bob noson gan fod cymaint o gapeli, a chwarfodydd dirwest ar nos Sadwrn hefyd.

Roedd pawb yn trin y gerddi a phlannu tatws a llysiau, ac eraill yn cadw ieir a mochyn.  Byddai’r cigydd oedd yn lladd y mochyn a’i halltu yn naturiaethwr brwd ac roedd yn ymddiddori mewn hel mwsog a dail a blodau gwyllt.  Byddai yn mynd hefo’i gawell pysgota a dau fag ar ei gefn ar hyd y nentydd a’r bryniau ac roedd ganddo ganolfan i anfon samplau o fwsog o bob math i’r botanegydd yn Nolwyddelan.

Roedd bysiau yn rhedeg yn ôl a blaen ond bysus hogia’r Post oeddynt, yn rhoi gwasanaeth da, ac roedd y trên bach yn rhedeg trenau dynion i’r chwareli bach – Ceg y Tynal, Gelli... ac o chwareli Cwmorthin, Y Wrysgan a Rhosydd.  Cai’r plant hwyl yn sglefrio i lawr yr inclên ar ôl y wageni!

Yn Nolrhedyn gwnaeth y pentrefwyr safle hamdden ar ddarn o dir.  Gwnaed pitch coets i’r dynion a hefyd gwnaed argae yn yr afon i wneud Llyn y Genethod ar yr afon.  Ychydig yn is lawr yr afon roedd Llyn Hogia.  Nosweithiau haf braf a dyddiau difyr a diniwed.

Ar ôl gadael yr ysgol bum yn gweithio yn siop esgidiau Dicks ar gyfnod o brysurdeb mawr yn y dre.  Roeddwn yn gweithio o 9 tan 7 o’r gloch drwy’r wythnos a 8 tan 9 ar y Sadwrn am gyflog o 18/-.  Rhaid oedd golchi’r ffenestri dwbl bob bore a’r linoleum ar lawr, yna cael awr i ginio, a rhedeg adra i Dynllwyn dros y gors.  Cynilais arian i brynu beic Raleigh o siop y Cambrian Garage am £4-4-0 ac cefais werth bob dimai am flynyddoedd.
--------------------------------------------


* Diolch i Steffan ab Owain am y llun.

Ymddangosodd yn wreiddiol yn  rhifyn Tachwedd 1998 (heb y llun). Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon