Gwydion ap Wynn, Rheolwr Prosiect y Dref Werdd, yn edrych yn ôl ar flwyddyn gyffrous.
Mae’n anodd coelio fod blwyddyn wedi gwibio heibio ers i brosiect Y Dref Werdd ail-gychwyn eto, ond hefyd gall rhywun ddeall pam wrth ystyried y holl waith sydd wedi cael ei wneud yn datblygu'r cynllun sydd wedi cael ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr i “Ddatblygu Tref Werdd Ddyfeisgar”.
Mae cymaint wedi digwydd gyda phob prosiect rydan ni’n gweithio arno, gyda nifer dda o bobl Bro Ffestiniog wedi derbyn cymorth gyda’r gwaith ynni, cyfleoedd gwirfoddoli a llawer o blant y Fro yn cymryd rhan mewn sesiynau addysg, a chyda’n cwrs newydd, Cynefin a Chymuned.
Dros y flwyddyn, rydan ni wedi bod yn ceisio lleihau biliau ynni yn yr ardal ynghyd ag allyriadau CO2.
Mae nifer o dechnegau gwahanol wedi cael eu cyflwyno i helpu arbed arian yn eich cartrefi:
· Gosod amseryddion cawod i leihau'r amser rydych yn treulio ynddi
· Cyfnewid eich bylbiau arferol am rai LED, a
· Gosod ffoil arbennig tu cefn i reiddiaduron.
Un o’r pethau mwyaf llwyddiannus oedd y gwaith hwyluso a hyrwyddo ceisiadau am y ‘Warm Home Discount’, sydd yn ad-daliad o £140 oddi ar y biliau trydan. Mae’r Dref Werdd wedi helpu bron i 100 o bobl ym Mro Ffestiniog gyda’r cynllun yma sydd yn gwneud arbedion o bron i £14,000!
Mae dros 30 o denantiaid a pherchnogion tai wedi cael eu cyfeirio at gynllun Nyth/Nest – rhai wedi cael system wresogi newydd sbon danlli am ddim!
Ar ochr amgylcheddol y cynllun, rydan ni wedi bod yn brysur yn sicrhau ein bod yn parhau gyda’r gwaith o oruchwylio ein hafonydd gwerthfawr gyda diwrnodau yn glanhau sbwriel o Afon Barlwyd a’r Dubach. Anodd coelio bod 'na gymaint o wastraff yn ymgasglu’n y dyfroedd yma, ond diolch i waith caled ein gwirfoddolwyr a’n partneriaid, mae’r ddwy afon yma yn edrych yn llawer glanach heddiw.
Yn ogystal â’r diwrnodau glanhau, rydan hefyd yn brysur yn cynllunio ein brwydr yn erbyn clymog Siapan, neu llysiau’r diafol (Japanese knotweed) sy’n tagu rhai o’n hafonydd a mannau eraill. Mae’r planhigyn yma yn achosi niwed mawr i blanhigion brodorol Bro Ffestiniog a hefyd yn gallu bod yn broblem fawr os ydi o’n tyfu yn eich gardd. Ein bwriad yw hyfforddi ac achredu ein gwirfoddolwyr i ddelio â’r planhigion hyn. Felly, os oes gennych broblem gyda llysiau’r diafol, dewch i gysylltiad â’r Dref Werdd!
Planhigyn arall sydd ddim yn perthyn i’r ardal yw’r Rhododendron ponticum. Er ei fod yn hardd dros ben ym Mehefin, yn ei flodau pinc, dim ond am ryw fis mae o’n para. Mae’r rhywogaeth ymledol yma yn dangos ei wir liwiau drwy gydol y flwyddyn wrth amddifadu'r tirwedd o faeth gwerthfawr. Unwaith eto, gyda chymorth ein gwirfoddolwyr gwerthfawr, rydan wedi cychwyn ei reoli ar safle yn Nhanygrisiau - ger y Hen Felin - wrth dorri a chlirio, ac wedi cyflogi swyddogion o Cadw Cymru’n Daclus i drin y planhigion yn gywir drwy eu chwistrellu a thrin y stympiau. Rydan wedi clirio bron i 3 acer o dir erbyn heddiw - sydd yn llwyddiant mawr.Yn ail flwyddyn dau y Dref Werdd Newydd, rydan ni mewn trafodaethau gyda Llechwedd i ddelio â’r Rhododendron ar eu tir nhw.
Llwyddiant arall yw’r sesiynau Cynefin a Chymuned i blant y Fro. Dros gyfnod o dri mis, bu 15 o blant yn cael cyfle i ddysgu am amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys bywyd gwyllt, hanes, treftadaeth a daeareg, a hynny trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored megis sesiynau ‘ysgol-goedwig’, chwilota am a choginio bwyd gwyllt, dringo, a theithiau cerdded gydag arbenigwyr lleol. Bydd arddangosfa o wahanol luniau’r plant yn Siop Antur Stiniog ym mis Medi.
Cewch glywed am holl weithgaredd Y Dref Werdd yn Llafar Bro trwy gydol ail flwyddyn y prosiect.
---------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2016.
Dilynwch hanes y Dref Werdd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon