9.8.16

Hanesion Hynod Anti Cein

Bu son am ardal Ceunant Llennyrch fwy nag unwaith eleni ar wefan Llafar Bro. Yma cawn ddychwelyd efo pennod o hanesion Ceinwen Roberts, Gellilydan, o rifyn Gorffennaf 1999.

Ffordd Llenyrch   
Roedd ffordd Llenyrch fwy na ffordd drol oherwydd roedd na drafeilio nôl a blaen garw arni o Lenyrch, ac o Can-y-Coed, Muriau Gwyddil a'r ddau Nant Pasgen. Ond roedd yn rhaid cael caniatad y teulu i fyned dros y bont yma. Yn y dyddiau cynnar roedd wageni yn cario rhisgl coed derw er mwyn llifo a rhoi lliw i'r lledr yn y barcdu yng Ngellilydan. Byddai gweision Llenyrch yn gorfod edrych ar ôl y ffordd yma bob cam o Dŷ'n Coed hyd cyrraedd i fyny at y tŷ. Mae tir glas wedi ei gorchuddio drosti bellach.

Unwaith y mis byddai dau o'r gweision yn myned a throl i siop Llwyn Impiau, Gellilydan ac i'r Co-op gyda dau geffyl, Prince a Duke. Cychwyn yn ôl wedyn efo'r nwyddau heibio Bryntirion, Penglannau a Thŷ'n Coed. Un ceffyl oedd yn y drol fan yma, ac ar ôl mynd dros y bont roedd rhaid cael dau geffyl ac 'roedd cerrig gwynion ar hyd un ochor i'r ffordd i'w hwyluso os byddai wedi dechrau nosi rhag ofn mynd dros yr ymyl i'r afon. Pasio Llwybr Hywel a’i garped o garlleg gwyllt. 'Roedd Rhisiart Evans yn dweud mae y Rhufeiniaid a'u plannodd yno am eu bod yn dda i'r milwyr at eu hiechyd.

Craf y geifr yw enw arall garlleg gwyllt. Llun -Paul W.
Dal i fynd ymlaen a chyrraedd tro Bryn Llin a dyma'r ffordd yn fforchio - un i Lenyrch, un arall i Furiau Gwyddil a'r llall i Ga'n Coed. Aeth y gweision a'r ceffylau ymlaen a'u llwyth; dal arni ar i fyny nes cyrraedd Cae Pen Coed, trwy ddau gae enfawr ac i mewn i iard Llenyrch. Dadlwytho, rhoi ffîd a brwsio'r ceffylau a myned i gael te gwerth chweil gan Margiad Evans a Nel y forwyn ffyddlon a fu yn gweini am flynyddoedd yno. Roedd Nel a'i brawd, Gwynoro, wedi cymeryd eu cartref yno ar ôl iddynt golli eu mam pan oeddynt yn ifanc iawn. Hefyd, roedd eu dewyrth, Hywel Parry yno yn was ffyddlon i'r teulu.

Rhaid mynd yn ôl eto i dro Bryn Llin, lle roedd y ffordd yn fforchio i gyfeiriad Muriau Gwyddil.

Pasio yr ail raeadr: yr enw ar hon oedd Rhaeadr Ceunant Geifr. Yma mae rhedyn cyfrdwy yn tyfu ac ddim yn unlle arall yn y Ceunant. Y rheswm, meddai Rhisiart Evans, ei fod yn y fan yma yw am fod y Twrne Llwyd wedi rhoi pridd o'r Iwerddon yma am fod cymaint o ofn nadroedd amo. Doi yma o Blas Penglannau i bysgota yn fynych. Roedd 'na bont arall yn nes i fyny, un fechan wedi rhoi llechfeini arni i'w chroesi. Rwyf wedi eistedd ar ganol y bont yma gyda diweddar gyfaill annwyl i mi sef Gwynoro.

Rhaid mynd yn ôl eto i Bont Llenyrch a dweud mae yn 1943 neu '44 aeth i lawr. Gwyrth oedd na fuasai rhywun wedi ei ladd.

Ar ochr isa'r bont roedd 'na bwll dwfn yn yr afon. Lle da i bysgota, ac un arall yn uwch i fyny ar gyfer tro Bryn Llin. Deuai llawer o'r pentrefi gyfagos yma a chael llawer o bleser wrth ddal y pysgod; roedd na ddigon ohonynt i bawb bryd hynny.

Roedd y Sabath yn ddiwrnod arbennig gan deulu Llenyrch, ac yn edrych ymlaen at oedfa yn y capel bach, cangen o Gapel Presbeteriaid Gellilydan a Maentwrog isaf. Byddai pregethwr wedi bod yn rhoi pregeth yn Maentwrog Ucha' yn y bore, yn y prynhawn yn Llenyrch, yr hwyr ym Maentwrog Isaf.

Roedd rhaid paratoi pethau yn barod. Myned i fyny y staer, ac yn fan hyn ar ben y staer oedd hen gwpwrdd derw. 'Doedd neb yn gwybod ei oed, mae'n bur debyg ei fod wedi bod yn y teulu ar y dechrau, ac yno yr oedd y gers ceffylau yn cael eu cadw, ac yn cael eu glanhau yn rheolaidd. Roedd yno 'cape' ddu fawr wedi ei leinio hefo gwlanen goch a choler uchel iddi. Pwrpas hon oedd pan fyddai Richard Evans yn mynd hefo Duke y ceffyl at geg ffordd Llennyrch yn Tŷ'n Coed byddai 'n rhoi y Gweinidog ar gefn y ceffyl, a rhoi y 'cape' drosto rhag iddo oeri. Ar ôl Y bregeth, dod yn ôl i'r un fan. Ai Rhisiart Evans yn ôl gyda'r ceffyl ffyddlon, a rhoi y 'cape' ar gers yn eu holau tan y tro nesaf .
-------------------------------------------

Dyma ddarn arall gan Anti Cein a ymddangosodd yn ddiweddarach (Chwefror 2003).

Dyma stori am broffwyd ddaeth a melltith dyn ar ei wely angau. Y dyn dan sylw oedd y diweddar Richard Evans, Llenyrch - un o deulu mawr Llenyrch. Rhagflynodd ei fodryb ef yn y flwyddyn 1941 ac yntau mewn saith mis ar ei hôl. Yn Llenyrch, yn was ar y pryd, oedd y diweddar Robert (Robin) John, Ysgubor Hen, ac roedd yn dipyn o ffefryn gyda’i feistr.

Roedd Richard Evans yn wael iawn a galwodd ar Robin i ddod i fyny ato
“Wel, Robin, mae gennyf eisiau dweud rhywbeth wrthyt cyn i mi fynd oddi yma. Pan fydd yr olaf yn myned o’r tŷ yma i’r fynwent ym Maentwrog, bydd Bont Llenyrch - y bwa uchel yn chwalu yn y canol; ni fydd y ffynnon sydd yn ymyl y bont yn bod; ni fydd y ffordd sydd yn arwain i Tŷ’n Coed yn cael ei cherdded; bydd glaswellt a phrisglwydd coed wedi ei chau i fyny.” 
Buodd farw y noswaith honno. Aeth blwyddyn neu well heibio a daeth teulu neywdd i fyw i Lenyrch, sef Dafydd Williams, a’i wraig ac wyth o blant o Faes Caenau yng ngwaelod isaf Llandecwyn. Braf oedd clywed swn plant yn chwarae yno.

Mewn rhai wythnosau cawsant wahoddiad i swper i Sychnant, Gellilydan. Tipyn o siwrne o Lenyrch.  Dewisiwyd noson braf. Roedd y tywydd wedi bod yn dda iawn ar hyd yr wythnos. Cychwyn o Lenyrch, trwy’r coed ac i lawr i’r bont. Roedd ‘na ddwy adwy - un ochor Llech y Cwm a'r llall ochor Llenyrch. Agorodd Dafydd Williams yr adwy ei ochor o, a gwelodd bod na wacter a sylwodd bod y bont wedi mynd i lawr.

Gwelais ysgrif mewn cylchgrawn yn ddiweddar yn dweud bod y bont wedi mynd i lawr gyda llif mawr - ddim byd o’r fath! Noson cynt roeddwn ni’n codi defaid o’r ceunant i’r Ffridd ac roedd y bont ar ei thraed ac yn iawn.

Aeth Dafydd Williams a’i wraig trwy’r afon i Sychnant y noson honno - nid oedd ddim gwerth o ddŵr ynddi. Mae llun o’r bont gennyf yma gyda bwa uchel i fyny - ni allasai ‘r’un llif ei chyrraedd. Mae’r ddwy ochor i’r bont i fyny hyd heddiw. Cafodd ‘rhen Richard Evans ei ddymuniad.

Mae Mrs Dafydd Williams yn o agos i gant oed, ac yn byw yn Sir Gaernarfon - mae ei chof fel cloch, ac rwyf yn cyfarfod ei merched yn bur amal, ac maent yn dystion byw fy mod yn dweud y gwir. Be ydych chwi ddarllenwyr yn ei feddwl? Proffwydo pryn ta melltith.

Mae ‘na rhai pethau na allwn eu deall.


Dilynwch hanesion eraill gan Anti Cein efo'r ddolen isod.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon