Pennod arall o atgofion Nem Roberts yn America.
Mae gwlaw Stiniog yn barchus iawn wrth ochr gwlaw Florida. Ond yn rhyfedd, gynted i’r gwlaw beidio bydd y tir yn sychu ar ei union.
Mae Arizona wedyn yn dipyn uwch nac arwynebedd y môr, a’r hin felly ychydig yn fwy ffafriol. Ond y ffaith ydyw bod llawer o amrywiaeth tywydd yn y gwahanol Dalaethau yn yr Amerig. Mewn Talaethau fel Wyoming, Montana a De Dakota gwelir y ‘cowboys’, a’r miloedd gwartheg. Mae’n wybyddus fod y dynion hyn y cysgu llawer yn yr awyr agored, ond er hynny dywedir fod mwy o ‘silicosis’ ym mysg y ‘cowboys’ nag sydd ym mysg unrhyw ddosbarth arall o ddynion. Mae’n debyg mai yr hyn sydd yn gyfrifol ydyw y llwch sy’n codi oddiar y ddaear sych pan symudir yr anifeiliaid. Yn amal iawn gwelir hwynt yn gwisgo cadach ar eu hwynebau tra wrth eu gwaith.
Erbyn hyn mae oes y lladron anifeiliaid wedi darfod, ond yr oedd llawer o ladrata pan oeddwn yno gyntaf yn 1910. Yr oedd pawb o’r bron yn cario dryll yr amser honno, ond yn wir, welais i ddim llawer anghyffredin fel y gwelir yn y sinema.
Yn ystod yr ail ryfel byd, treuliais y rhan fwyaf o fy amser yn gweithio mewn ierdydd llongau yn Wilmington, Delaware, a Brooklyn. Yn Brooklyn cynyrchwyd ‘Dreadnoughts’, a’r llongau rhyfel trymaf. Ffitar oeddwn a gweithiai bawb 12 awr y dydd, bob dydd o’r wythnos.
Nid wyf yn hoffi na chredu mewn gweithio dros wyth awr y dydd, ond nid oedd dewis i neb. Yr oedd y cyflog yn uchel anghyffredin, ond am bob un fu’n ofalus o’r arian enillai, yr oedd naw yn gwario yn ofer, ac ar derfyn y pum mlynedd yr oedd y rhan fwyaf o’r gweithwyr heb ddimai goch, y cwbwl wedi mynd ar oferedd.
Pan oeddwn gartref un tro, deallais fod llawer o chwarelwyr bro fy mabandod yn gweithio yn Nhanygrisiau a Thrawsfynydd ar y cynlluniau trydan, ac yn ennill arian mawr, dan yr un amgylchiadau ac y gweithiwn innau yn Brooklyn, a’r un oedd yr hanes - gwario ofer.
Brwydrodd ein tadau a’n teidiau am gael wythnos resymol o waith, ond mae dynion heddiw yn tynnu dan draed yr egwyddorion a’r brwydrau hynny. Methant a deall nad oes arian wedi ei greu sydd yn ddigon i dalu am egwyddor.
Rhyfedd ydyw meddwl nad yw pobl yn ddiogel mewn dinas fel Efrog Newydd, a lleoedd eraill o ran hynny, yn yr ugeinfed ganrif. Yn y cyswllt yma diddorol ydyw astudio rhai o ystadegau yr Unol Dalaethau. Yn ystod 1962 yr oedd y boblogaeth yn 175 miliwn. Lladdwyd 41,000 ar y prif heolydd gan geir modur. Clwyfwyd miliwn a hanner ar yr heolydd. Y mae 90 miliwn o yrwyr modurau yn y wlad, sef mwy na hanner y boblogaeth. Mae rhif mawr o blant yn myned i’r ysgolion gyda’i moduron ei hunain, a theimlaf fod hyn yn beth ffôl. Dechrau ar foethau bywyd cyn dechrau ar waith.
Ar wahan i hynny mae’r peth yn golygu costau mawr i drefnu lleoedd i barcio ceir ger ysgolion cyffredin. Gall plentyn 15 oed yrru cerbyd modur yn ôl y ddeddf yn yr Amerig, a chredaf fod hyn yn oed rhy gynnar o gryn dipyn, gan nad ydyw plant yn sylweddoli perygl pan mor ieuanc.
Ffolineb hefyd ydyw caniatau gwyr a merched dros 80 oed yrru cerbyd modur. Bu hanes un gŵr yn gyrru cerbyd ond yn dibynnu yn hollol ar gyfarwyddid bachgen wrth ei ochr. Bu hyn yn mynd ymlaen am gyfnod maith hyd nes i ddamwain ddigwydd, ac felly daeth y peth i’r olwg.
----------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1999.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon