31.8.16

Bwrw Golwg -Rhyddid!

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn,  erthygl gan Kevin O’Marah, Blaenau, disgynnydd William Walter (Brothen Bach). 

Rhyddfreiniad o Gaethiwed/ Rhyddid!


Yr ydym yn weddol gyfarwydd o hanes rhyddfreinwyr enwocaf y ganrif cyn y diwethaf, y ‘Great Emancipators’ Abraham Lincoln, William Wilberforce, Thomas Jefferson ac William Lloyd Garrison, ond, nid llawer o Gymry sy’n ymwybodol fod enillydd y gadair mewn tair eisteddfod rhwng 1860 a 1884 yn yr Unol Daleithau hefyd wedi ymgyrchu yn erbyn caethwasiaeth.

Roedd Rowland Walter (Ionoron Glan Dwyryd), yn enedigol o Flaenau Ffestiniog a fu’n byw y rhan fwyaf o’i oes yn Hydeville, Vermont, ardal nodedig llechi Gogledd America yr oes honno, fu’n ennill ei fywoliaeth yn chwarel Eagle, ac yn ystod y cyfnod hwn hefyd y cynyddodd ei gariad at farddoniaeth.

Ar ôl ennill y gadair yn Eisteddfod Utica yn y flwyddyn 1861, cafodd gyfarfod â’r Anrhydeddus Henry Nicoll, cyfreithiwr a chynhadleddwr o Efrog Newydd, ynghŷd â’r prifardd enwog Dewi Glan Twrch pan ofynwyd i Ionoron gymryd y cyfrifoldeb o ledaenu’r neges yn erbyn caethwasiaeth, ac i gael holl Gymry Gogledd America i ymuno â byddin y gogledd i ryddhau’r caethweision. Ac felly, ar ofyn Nicoll, ysgrifennodd gerdd:

Baner yr Undeb

Ar aden yr awel, yn tyner ymdoni,
Mae Baner ein Rhyddid yn amlwg uwch ben,A golwg ysblenydd y Sêr a’r Brithresi
Mor siriol ag amryw dlos lanerch o’r nen;
O dani’r eistedda hen Angel Gwarcheidiol
Yr Undeb, a’i olwg yn ddwys ac yn syn –
Ei wisg yn rhwygiedig – ei drem yn fawreddol,
A’i wefus yn sibrwd rhyw linell fel hyn:


Ah! Feibion Columbia, dyrchafwyd ein Baner
Gan lu ein henafiaid trwy afon o waed,
Diweiniwyd eu cleddyf, oedd gleddyf cyfiawnder,
A’u gelyn cadarnaf a gwympodd tan draed;
Ac ar ôl hir ryfel, teyrnasodd maith heddwch.
O lanau y Werydd cynhyfrus ei fron
I fin y Tawleog, ar lenydd o eurlwch,
Yn esmwyth o’i fynwes sy’n gollwng y don.

Ni cheir ar ein Baner un eilun o ryfel,
Nac unrhyw feddylrith o’r fidog na’r cledd.
A phan y mae’n derbyn cusanau yr awel,
Nis gellir gwneyd allan un trais yn ei gwedd;
Mae’n eilun o Ryddid, Cyfiawnder a Heddwch
Lle bynnag mae’r wybr yn ymledu uwch ben –
Gwneyd allan Gaethiwed o’n Baner na cheisiwch
Tra byddo’r sêr dysglaer yn britho y nen.

Mae cysur yr aelwyd i filoedd yn eistedd
Dan adeg ein Baner heb ddychryn na braw,
Pwy bynag a’i tyno i lawr mewn gorphwylledd,
Fel corsen wywedig disgyned ei law;
Ysgydwad ein Baner yn nhonau yr awel
Gysegra lwch beddrod gwroniaid ein gwlad,
Y rhai a gollasant eu bywyd trwy ryfel –
Pa adyn sydd na pharcha lwch beddrod ei dad?

O glogwyn i glogwyn, yr udgorn dadseinied
I alw dewr feibion Columbia i’r gâd
I ymladd a phleidwyr gwrthnysig Caethiwed
Sy’n ymladd yn erbyn hoff  Faner ein gwlad
Diweinier y cleddyf – y fangel fo’n rhuo,
A rhengau y gelyn yn ddarnau tan draed;
Hen Dalaeth Virginia, ei glaswellt fo’n rhuddo,
A South Carolina yn afon o waed.

Fan yna terfynodd yr Angel Gwarcheidiol,
A’i drem yn melltanu eiddigedd ei fron;
A chan ei ddigofaint, mae cefnfor ymchwyddol
Dros wyneb Columbia yn gweithio ei don;
I chwyddo y fyddin, awn ninau, feib Gwalia,
Gan gofio Caradog ac Arthur ein tad;
Trywaner â’r fidog frad luoedd Virginia,
A buan daw heddwch i lwyddo y wlad.

Mae’r hwiangerdd Si-hwi-hwi wedi ei chyfansoddi gan Ionoron yn son am fam yn canu i’w phlentyn y noson cyn i’r ddau gael gwahanu a’u gwerthu fel caethweision gan y dyn gwyn.

Y Gaethes Ddu (Si, hwi, hwi)

Si, hwi, hwi, si hwi, hwi, si hwi, hwi lwli,
Tlws dy fam, O paham y gwneir cam iti?
Pan y bydd deigryn prudd ar dy rudd fwyngu,
Ni chaf fi ddofi’th gri, na’th roi di i gysgu;
Daw’r dyn gwyn gyda’i ffyn cyn pryd hyn yfory,
A’th ddwyn di er fy nghri ymaith i’th werthu,
O na chawn fynwes lawn, fel y cawn wylo,
Byddai’r bedd imi’n wledd, mi gawn hedd yno.

Si, hwi, hwi, si hwi hwi, si hwi, hwi lwli,
Calon ddur sydd fwy cur na dolur dy eni,
Gan fawr ddrwg, anfad wg, cilwg ein gelyn,
Ni chai gwen fendith nen ar dy ben ddisgyn;
Rhyfedd yw pan ma chlyw os oes Duw gennym,
Pan y myn Duw’r dyn gwyn fod fel hyn wrthym?
O na chawn fynwes lawn fel y cawn wylo,
Byddai’r bedd imi’n wledd, mi gawn hedd yno.

Si, hwi, hwi, si hwi hwi, si hwi, hwi lwli,
Poen a braw ar bob llaw, hyn a ddaw iti,
Gan feistr trwm a dwrn plwm y cei drwm ddyrnod.
Dyw rudd iaith, llety gwaeth gyda maith ddiwrnod,
Llety gwael sydd i’w gael wedi cael noswyl,
Briwiog gefn yn ddrwg drefn, O! dy gefn anwyl,
O na chawn fynwes lawn fel y cawn wylo,
Byddai’r bedd imi’n wledd , mi gawn hedd yno.

Ysgrifennodd hon hefyd:

Y Milflwyddiant
(Caethweision Negroaidd).

Ond gwaeth na rhyfel ydyw gweled – dwyn
Dyn du i gaethiwed;
Dwyn i wae y diniwed
Yn rhwym – pa galon na rêd!

Y du adwyth hwn sy’n d’wedyd – i bawb
Fod y Beibl yn ynfyd –
Na ddaw barn yn niwedd byd –
Anifail yw dyn, hefyd.

Rhy boenus ydyw unrhyw angenrhaid
I droi i’r hanes sy’n gwaedu’r enaid –
Hanes sydd yn dwyn cwyn Affricaniaid
Yn ei hyll agwedd ger bron ein llygaid –
Hanes gwaith anfwyniad – yn fflangellu –
Hanes trywanu einioes trueiniaid!
Mae rhyw waeau einioes yn merwino
Teimladau dyn yn neigryn y Negro;
A gosod crinwad diras i’w daro,
Yn tori aelaeth natur i wylo:
Rhoi adyn cignoeth i droedio – gwragedd
A wnai i anrhydedd anwn wrido!

-----------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol -efo'r cerddi uchod wedi eu cwtogi- yn rhifyn Gorffennaf 2016.
Dilynwch gyfres Bwrw Golwg efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon