Mor ffodus yr ydym yma i gael gweld amrywiaeth helaeth o adar yn dod i’r ardd i geisio tamaid o fwyd. Er ni allaf alw fy hun yn fawr o naturiaethwr, rwyf yn hoffi eu gwylio a sylwi cymaint o rywogaethau sydd yn dod hyd yn oed i ardal lle mae cymaint o adeiladau, fel Solihull.
Rwyf wedi nodi deg ar ugain o wahanol adar, gan gynnwys ymwelwyr megis y socan eira oedd yn destun colofn natur arall gan VPW, a’r coch dan aden. Rwyf hefyd wedi gweld y gwalch glas yn cymeryd drudwy oddi ar y lawnt yn yr ardd gefn a chudyll coch dof iawn yn cymryd bwyd bron o’r llaw!
Bu cyffro mawr yma ddwy flynedd yn ôl, pan ddaeth nifer o ‘Twitchers’ ar y cylchfan gyferbyn â’r tŷ. Wedi clywed oeddynt bod cynffon sidan (waxwing) wedi dod i’r gastanwydden uchel ar y gylchfan. Ni welais cymaint o gamerâu a sbinglas erioed! Bu’r adar yno am tua wythnos, a’r ‘twitchers’ yno bob dydd.
Un peth sydd yn gymorth rwy’n siwr yw fod Solihull, ac ardaloedd de Birmingham yn goediog iawn. ‘Leafy Warwickshire’ yw'r hen enw ar y cylch. Mae hyn yn peri syndod i ymwelwyr yn aml. Ar un adeg yr oedd tua phymtheg coeden yn ein gardd ni sydd yn gymharol fach. Bu'n rhaid cael gwared â nifer ohonynt oherwydd eu maint neu henaint. Bellach tua wyth sydd yma, arwahan i’r nifer fawr o lwyni.
Mae’r adar duon yn cynyddu yn ddiweddar, ond pur anaml y gwelir y fronfraith. Y drudwy ac adar y to yn prinhau yma hefyd. Y piod sydd yn cael y bai yma. Maent yn bla. Gwelais wyth yn yr ardd un diwrnod! Dywedir eu bod yn bwyta wyau a chywion yr adar mân. Er bod brain a sgrech coed yma, ni welais jac-y-do erioed, maent i gyd yn y Blaenau mae’n siwr!
Byddwn yn hongian cawell o gnau yn yr ardd yn y gaeaf. Maent yn boblogaidd iawn gyda thitw tomos las, adar y to a hyd yn oed y drudwy, sydd yn gwneud campau garw i gyrraedd y cnau.
Nythiad o gywion titw mawr. llun Paul W |
Ar ochr gogleddol y tŷ mae blwch nythu i’r titw. Syndod fel y maent yn ei adael yn lan ar ôl gorffen magu eu cywion.
Mae creyr glas yn pasio drosodd yn aml hefyd. Nid ydynt yn boblogaidd gyda’r rhai sydd yn cadw pysgod mewn pyllau yn eu gerddi, gan eu bod yn ‘botshiars’ mor dda.
Ia, buasai’n gerddi llawer tlotach heb y llu pluog sydd yn ymweld a ni.
--------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1999.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon