Eleni*, bu rhai o aelodau Cymdeithas y Cambrian yn gwneud gwaith atgyweirio ar Dŷ y Gamallt. Er mai rhyw stwmpyn o gaban ydi o, ym mhen uchaf Llyn Bach y Gamallt, bob amser fe gyfeirid ato fel Tŷ y Gamallt, fel petae yn adeilad o sylwedd.
Yn y gorffennol byddai cryn ddefnydd yn cael ei wneud ohono, ond dros rai blynyddoedd erbyn hyn y mae wedi mynd yn o wael ei gyflwr, ac wedi cael ei esgeuluso oherwydd nad oedd yn cael ei ddefnyddio fel y bu.
Llyn Bach Gamallt, a'r tŷ ar y chwith. Llun -Paul W, Awst 2016 |
Doeddwn i ddim wedi bod yn ymyl y tŷ, heb son am fod i mewn ynddo, ers dwn i ddim pryd - rhai tymhorau yn o sicr. Wrth ddod at y ddau lyn o gyfeiriad hen chwarel fach Nant y Pistyll Gwyn, lle gadewir y car, rydw i’n dueddol o bysgota y Llyn Mawr, ac os mynd drosodd i’r Llyn Bach i’w bysgota, i anelu am ei hanner isaf - y rhan o’i lan a elwir ‘Y Chwarel’ hyd at ‘Geg y Ffos’, ac felly ddim yn mynd yn agos at y tŷ.
Pa’r un bynnag, pan gamais i mewn cefais sioc ac ysgytwad. Doedd gin i ddim syniad fod y lle wedi cael ei gamddefnyddio a’i amharchu i’r fath raddau, ac wedi cael ei fandaleiddio cyn gymaint. Roedd llawr y tŷ o dan drwch o faw defaid, oherwydd fod y drws ar agor yn barhaus. Doedd yna yr un fainc na bwrdd ar ôl ynddo, ac roedd y cwpwrdd llestri a oedd yn ochr y lle tân, wedi diflannu. Popeth ynddo a oedd yn bren wedi’i losgi fuaswn i feddwl.
Ac nid hynny’n unig chwaith. Roedd y ddwy ffenestr wedi eu tynnu o’u lle, a’r fframiau yn ôl pob golwg, wedi eu llosgi. Bu i rywun neu rywrai ddarn lenwi gwacter y ddwy ffenestr â cherrig. Doedd y tŷ yn ddim namyn cragen wag. Y drws yn llydan agored, ac un o’i styllod wedi’i thynnu o’i lle, a’i defnyddio mae’n debyg, i’r un pwrpas a’r coed eraill, i’w llosgi. Dyna fesur y fandaleiddio a’r amharchu a fu ar Dŷ y Gamallt.
Pwy, tybed, a oedd yn gyfrifol am y malu, y difrodi, y camddefnyddio disynnwyr a diystyr yma?
Mae’r un peth wedi digwydd i Dai eraill y Gymdeithas. Does ond rhannau o furiau tŷ Llyn y Morwynion yn sefyll; y mae tŷ a Thŷ Cwch Llyn y Manod yn wastad â’r ddaear; tŷ Llun Dubach yn ddim ond lle bu, a’r un peth yn wir am Dŷ Llynnoedd Barlwyd.
I rywun sy’n cofio Tŷ y Gamallt yn gyfan o ffenestri a drws, o fyrddau a meinciau, o lestri a chwpwrdd i’w cadw; tegell a thebot a phadell ffrio; yn lle clyd i gilio iddo petae’r tywydd yn troi’n anffafriol; trist iawn, iawn, oedd ei weld yn y cyflwr turenus ac adfydus yma.
Yn y gorffennol byddai cryn ddefnydd yn cael ei wneud o’r tŷ, fel, yn wir, o dai eraill y Gymdeithas. Yr adeg hynny cerdded oedd yn rhaid ei wneud os am bysgota y ddau Lyn Gamallt, ac roedd rhywun yn dod atynt o gyfeiriad Cwm Teigl fel arfer, ac at y tŷ yn gyntaf peth. Wedi rhoi ein beichau yn y tŷ, cael rhywfaint o hoe ar ôl y cerdded a’r dringo, ceid wedyn bwl o bysgota, un ai oddi ar y cwch yn y naill neu’r llall o’r ddau lyn , neu o gwmpas y glannau. Pan ddeuai hynny i ben byddid yn mynd yn ôl i’r tŷ i gael tamaid o fwyd.
Cynnau tân yn gyntaf a chael y tegell i ferwi er mwyn cael paned boeth o ddŵr Llyn Bach y Gamallt, a hwnnw’n bereiddiach ei flas na’r gwin drutaf. Tegell go fawr a thrwm o haearn-bwrw oedd yno yr adeg hynny a thipyn o waith berwi arno.
Yn fy nghof cynharaf i o gerdded i’r Gamallt ac o’r tŷ byddid yn codi mawn ar ei gyfer, ac ynghrog yn ochr dde y lle tân yr oedd megin, i’w defnyddio i wneud y mawn yn dân coch, gwresog. Rhodd oedd y fegin gan Robert Jones, y Siop, Congl y Wal, i Dŷ y Gamallt, ac addewid ganddo am un newydd yn ei lle pan godai’r angen.
Defnydd arall a wneid o’r tŷ oedd pan yn mynd ‘tros y nos’ i’r Gamallt. Y patrwm gweithio yn chwareli’r ardal fyddai cytundeb mis. Gweithid am bum diwrnod a hanner bob wythnos, a hynny am dair wythnos. Yna, ar y bedwaredd wythnos o’r mis rhoddi cyfrif o’r cynnyrch i’r cwmni ar y dydd Gwener, ac ni fyddai gweithio ar y dydd Sadwrn - y ‘Sadwrn diwadd mis’, fel y’i gelwid.
Digwyddai y ‘mynd dros nos’ i’r Gamallt yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf, pan oedd y nos ar ei byrraf. Doedd ‘Sadwrn diwedd mis’ pob chwarel ddim yn digwydd ar yr un Sadwrn, ac felly fe fyddai rhywrai neu’i gilydd yn aros yn y tŷ o nos Wener tan bnawn dydd Sadwrn (fel arfer) drwy ddau fis y nosau byr. Gan nad oedd y Gymdeithas yn caniatau pysgota ar y Sul, yr ychydig droeon prin yma oedd yr unig gyfle i fynd ‘dros y nos’ at y llynnoedd - dim ond unwaith neu ddwy mewn tymor.
Yr oedd rhyw apêl arbennig mewn mynd ‘dros y nos’ i’r Gamallt - bron na fuasid yn denfyddio y gair ‘hudoliaeth’ ynglyn ag ef. Rywfodd doedd yr un peth yn hollol ddim i’w deimlo ynglyn ag ef mewn perthynas a’r llynnoedd eraill.
Byddai sawl un yn dod i ganlyn y pysgotwyr i dreulio’r noson yn y Gamallt, a’r rheini heb fod a fawr ddim i’w ddweud wrth bysgota fel y cyfryw. Dod i fwynhau cwmni y pysgotwyr; cael cymdeithasu gyda hwy yn y tŷ ac o gwmpas glannau y llynnoedd ‘rhwng cyfnos a gwawr’, i dreulio’r amser hudolus dros y ‘naid nos’ a’r ‘naid toriad dydd’. Rhwng y ddwy naid yma, am ddwy i dair awr yn oriau mân y bore, byddai pawb yn y tŷ yn cael pryd o fwyd - rhyw swper hwyr neu frecwas cynnar.
Llenwid y tegell; cochid y mawn odditano hefo megin Robat Jôs Siop, goleuid y tŷ gan bedair neu bump o ganhwyllau gwaith wedi eu rhoi yng ngheg poteli yma ac acw. Ni fyddai prinder canhwyllau i oleuo: gofalai y rhai o’r pysgotwyr a weithiai o dan y ddaear yn y chwareli am ddigon ohonynt, gan mai dyna a ddefnyddid ganddynt yr adeg hynny wrth eu gwaith bob dydd.
Byddai hwn a llall yn dweud sut y bu hi arnynt yn ystod y ‘naid nos’, ac os y bu dal, edmygid y pysgod a oedd wedi eu rhoi i bawb eu gweld ar ‘y grawan’ a oedd yn un pen i’r bwrdd hir. Ai y siarad a’r sgwrsio yn ei flaen; y tynnu coes a’r cellwair; ac aml i atgof a hanesyn yn nofio i’r wyneb yng nghanol y cwbl.
Awyrgylch gynnes, gymdogol yn cael ei chreu. “Eu hymgomio’n twymo’r tŷ” - fel y dywedodd rhywun, a hynny yng ngolau melynaidd y canwyllau gwaith. A’i ran yn sirioli y gwmniaeth a’r tŷ, llond grât o dân mawn cyn goched ag y gwnai y fegin ef.
Heb os nag onibai yr oedd bod ‘tros y nos yn y Gamallt’ yn brofiad arbennig; yr oedd yn brofiad unigryw. Roedd rhywbeth cyfrin ynddo, y math o brofiad na cheid mohono fo yn unman arall.
Rywfodd doedd y tymor ‘sgota ddim yn gyflawn heb fedru mynd ‘dros nos i’r Gamallt’, beth bynnag unwaith. Heb y tŷ ni ellid cael y nosweithiau hyn. Wedi rhyw loddesta am ychydig mewn atgof o’r amser a fu; rhyw ddwyn doe yn ôl - gobeithio yn wir y caiff llafur gwirfoddol aelodau y Cambrian ei barchu.
-------------------------------
*Ymddangosodd yn wreiddiol, fel rhan o erthygl hirach, yn rhifyn Medi 2004.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon