23.8.16

Taith y Pererin

Hanes un o hen ddramâu Stiniog.

Ymddangosodd y darn cynta', gan Pegi Lloyd Williams, yn rhifyn Tachwedd 1998.

Mae'n siwr gen i fod yna laweroedd hyd a lled y gogledd 'ma, a thu hwnt i Glawdd Offa yn dal i gofio mynd i weld drama Taith y Pererin gan John Ellis Williams yn 1934. Mae dros drigain mlynedd er hynny, ac eto rwyf yn cofio yn iawn cael mynd i'r 'Hall' efo'r ysgol i'w gweld, a mwy na hynny mae'n syndod i mi faint ydwi yn gofio ohoni. Rwy'n gweld rwan y llenni'n agor a Bunyan yn eistedd wrth y bwrdd yn sgwennu, ac er nad wyf yn cofio yr oll o'r cymeriadau mae gen i ddarluniau byw iawn yn fy nghof am ran Cristion, a fu ar y llwyfan bron drwy'r ddrama, a Ffyddlon wedyn efo darnau mawr, a Gobeithiol.
Cefais hwyl fawr wrth wylio'r Ffair Wagedd, efo'r gweiddi, y chwerthin, y dawnsio, ond rwy'n dal i gofio’r arswyd wrth wylio Cristion yn ceisio mynd trwy Gors Anobaith.

Cristion yn mynd trwy'r porth, a agorir gan Mr. Ewyllys Da.

 Oddi ar Wicipedia

'Roedd yna gôr llawn o 40 yn canu sawl emyn a thôn, a 30 o actorion, ac yn ddiweddar fe ddois ar draws rhestr o'r perfformiadau am Hydref a Tachwedd 1934, a dyma hi:

Hydref 4ydd/5ed/6ed – Blaenau; 10-Dolgellau; 20-Bootle; 25/26/27/30 – Llandudno; 31-Rhyl.

Tachwedd 1af -Corwen; 7-Bangor; 8/10 Penrhyn; 12 –Pwllheli; 16/17 – Caergybi; 28 – Bala; a'r dyddiad olaf sydd gen i yw Rhagfyr 14eg - Bae Colwyn. Mewn ffaith roedd y ddrama wedi rhedeg er y Pasg 1934.

'Roedd y dynion i gyd bron yn gweithio yn y chwareli, ac mae'n anodd amgyffred sut yr oeddynt yn medru brysio i 'molchi a newid a chychwyn ar deithiau i berfformio ar ôl diwrnod mor galed o waith.  A'r merched wedyn run fath - yn wragedd tŷ wedi golchi, llnau a gwneud bwyd, a hynny heb yr offer modern sydd gennym heddiw, neu wedi bod wrth ben eu traed trwy'r dydd yn gweithio mewn siop neu allan yn gweini.

A fydda John Ellis Williams yn cael criw fel hyn heddiw? Go brin.

Mae copi o'r ddrama gen i, a hefyd y gwpan arian a gyflwynwyd i bawb oedd wedi cymryd rhan. 'Doeddwn i fawr o feddwl wrth gael mynd o'r ysgol i weld y ddrama fy mod yn gwylio fy narpar ŵr ar y llwyfan.

Mae John Ellis Williams yn dweud yn y llyfryn mai prif amcan y perfformiadau cyntaf a drefnwyd yn y Blaenau oedd ceisio dangos beth sy'n bosibl ar lwyfan bychan, gydag ond ychydig o arian wrth gefn, ac â ymlaen i ddweud:
"Prynu'r defnydd i gyd a wnaethom, heb fenthyca dim byd ... Er hynny, ni chostiodd y stwff i gyd ond £14. 9s 0d ... Gorau po fwyaf, hefyd, o oleuadau a geir gyda'r mellt. Gwna lamp 100w y tro, ond am effaith wir dda mynner tair neu bedair ohonynt. Ynglŷn â'r dimmer, ni chyst hwn ond chwecheiniog am botel dda-da fawr, a naw ceiniog am switch a cable."
Hwyrach bod rhai yn rhywle yn cofio enwau y rhai oedd yn chwarae y prif gymeriadau.
--------------------------

Ymddangosodd yr ail ran, gan Steffan ab Owain, yn ei golofn reolaidd yn rhifyn Medi 2013. (Ymddangosodd ar y wefan yma ar y pryd hefyd)

Stolpia -Taith y Pererin

Tybed faint ohonoch chi sydd yn cofio’r ddrama lwyddiannus a lwyfannwyd gan y dramodydd a’r nofelydd John Ellis Williams, sef Taith y Pererin o waith John Bunyan?

Y mae hanes y ddrama hon wedi ei chroniclo yn ddifyr yn ei gyfrol Inc yn fy Ngwaed (1963) lle dywed
“Rhoddwyd y perfformiadau cyntaf o’r ddrama ym Mlaenau Ffestiniog nos Iau cyn y Groglith, nos Wener y Groglith, a nos Sadwrn y Pasg 1934... Roedd hi mor boblogaidd yn yr ardal fel y bu’n rhaid cynnal naw o berfformiadau yn y Blaenau”.
Actorion amatur oedd yn y ddrama i bob pwrpas a cheir llun ohonynt yn y gyfrol a nodwyd uchod. Pa fodd bynnag, deuthum ar draws y llun canlynol mewn llyfr Saesneg ‘North Wales Today’ ac ynddo cyfeiria at un o’r actorion a weithiai yn y chwarel. Tybed pwy all ddweud wrthym pwy oedd yr actiwr glandeg hwn sydd yn gwenu ar y camera ac yn dal ei gŷn a’i forthwyl?


--------------------------------------------

Fis yn ddiweddarach, bu llythyr a llun yn rhifyn Hydref 2013 yn ymateb.

Annwyl Olygydd,
Diddorol oedd gweld llun fy nhad yn rhifyn Medi o Lafar Bro (Stolpia - Taith y Pererin) sef William David Jones neu Wil Defi fel roedd yn cael ei adnabod yn lleol, gynt o 33 Heol Jones.

Ymddiddorodd mewn dramâu ar hyd ei fywyd gan ddechrau gyda chwmni enwog John Ellis Williams. Cynhyrchiad nodweddiadol arall oedd ffilm Syr Ifan ab Owen Edwards, Y Chwarelwr,  (1935)  a gafodd gryn hysbysrwydd yn ddiweddar gan gwmni teledu Cwmni Da.
Portreodd fy nhad rhan y mab (Wil).


Dilynwyd hyn gyda sefydlu Cwmni Drama Blaenau Ffestiniog  a thros gyfnod maith fe deithiodd y cwmni ledled Gogledd Cymru gyda'u perfformiadau.

Gan fod y wraig, Wendy a finnau yn enedigol o'r ardal, rydym ein dau yn edrych ymlaen  at dderbyn Llafar Bro bob mis, ac yn gwerthfawrogi  gwaith caled y rhai sy’n gyfrifol am ei gyhoeddi.

Cofion cynnes
Dafydd Lloyd Jones, Dinbych.
---------------------------------------------

Chwiliwch am fwy o erthyglau am John Ellis Williams, Y Chwarelwr, ac ati, efo'r dolenni isod.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon