21.8.16

Trem yn Ôl -Gwaith Sets Pengwern, Manod

Erthygl arall o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999'. 

Erbyn hyn ni allaf ddweud wrth fy wyres wrth fynd i’r Ysgol Sul yng Nghapel Bethesda: ‘weli di’r shŵt acw, dringais i fyny dros y talpiau gwenithfaen, o’r cryshar i fyny i’r awyr agored yn y top. Nid oes yna rŵan ond craith (un hagr, os ca’i ddweud) lle bu adfeilion diwydiant. Dechreuodd fy adnabyddiaeth o’r gwaith sets pan oeddwn yn byw yn 44 Heol Manod, hen offis y gwaith.

Wedi dechrau tyfu, ble roedd yr angen am ‘faes chwarae antur’ gyda’r gwaith sets wrth law? Roedd casgen gol-tar ar ei hochr a darn o bren gwneud si-so ardderchog. Arwydd o dyfu i fyny oedd gallu neidio o un wagen fawr y trên i wagen arall heb boeni am syrthio rhwng y ddwy gysylltydd a’r bympars.


Nid oedd yn bosibl chwarae yno heb gael col-tar ar eich dillad neu’ch dwylo a’ch coesau. Ein dull ni o gael hwnnw i ffwrdd oedd mynd i ryw boced yn ochr y wagen oedd yn llawn o rywbeth tebyg i saim, rhwbio’r col-tar efo hwnnw ac wedyn golchi’n hunain yn y ffos oedd yn rhedeg o Isfryn am Manod. Ychydig wyddem ni fod carthion yn mynd i’r ffos! Pan fyddai yn bwrw glaw byddem yn mynd i’r cwt conc (cwt concrit i’r dieithr). Yno byddai’r dynion yn rhoi’r cymysgedd mewn cafnau i wneud cwrbiau pafin. Roedd to sinc ar hwn felly roedd yn ddelfrydol ar ddiwrnod gwlyb.

Os byddem eisiau rhywun i chwarae nid oedd angen mynd i unlle heblaw’r gwaith sets ac os byddai awydd arnom i fynd ymhellach, cychwyn oddi yno, efallai i Lyn Top. Nid oedd Llyn Top yn lyn go iawn, dŵr wedi hel mewn twll lle bu rhywun yn cloddio oedd o, ac un gêm oedd mynd i dop y graig hefo llwyth o gerrig bach, gorwedd ar ein boliau a thaflu’r cerrig dros y dibyn ar gorff cath neu gi.

Defnyddid Llyn Top i’w boddi. Yr oedd hyn cyn dyddiau’r ‘vet’ yn Blaenau. Yr oedd Llyn Top yn ardderchog i ddal penbyliaid, llyffaint a genau coeg. Bu gennyf ddwsin o genau goegion mewn potiau jam ar sil y ffenestr gefn, ond un bore nid oedd yr un yno! “Wedi neidio allan mae nhw” meddai Mam.

O’r ‘ochor’ (ochr y mynydd; ochr y gwaith) gallem weld y byd a’r betws. Morgans plismon yn sythu, fo a’i wraig yn llond eu crwyn. Hannah Williams (Sir Fôn), ‘Mae Huw wedi cael gwaith efo ‘ffylau yn y chwarel’. Mrs Rolant Edwards yn sgwrio ‘sgidiau chwarel ar y wal fach yn y cefn. Ychydig wyddem y byddai ei hŵyr, Elwyn Edwards yn un o Brifeirdd Cymru.  Gwelem y prysurdeb o gwmpas Y Post - Mr Jones, Miss Iola a’r chwaer Miss Nellie, ac hefyd Bob (Simon) Roberts. Ffefryn y plant oedd Eban Huws yn y becws. Cofiaf fynd yno efo bara brith i’w crasu cyn y Nadolig.
[I'w barhau]
-Betty (Lloyd) Perring
---------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1990, ac yna yn llyfr Pigion Llafar a gyhoeddwyd i nodi'r milflwyddiant yn 2000.
Bu yn rhifyn Hydref 2013 hefyd, yn rhan o gyfres Trem yn ôl.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon