2.9.16

Stolpia -Clochyddion

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain, yn parhau â'i drafodaeth am glychau.

Os cofiwch, dechreuais son ychydig am glochyddion yn gyffredinol y tro diwethaf on'd o? Wel, y tro hwn rwyf am daflu ychydig mwy o olwg ar y swydd bwysig hon ac ar rai a fu'n ei gwneud am flynyddoedd lawer.

Yn y Genedl Gymreig am fis Ionawr 1932 ceir cyfeiriad at un James Williams, clochydd Llandegai, a fu'n ôl yr hanes, yn canu cloch yr eglwys i groesawu'r flwyddyn newydd i mewn am 78 mlynedd i gyd! Tybed a oes rhywun wedi torri'r record hon?

Clochyddion y Llan
Ymhlith y clochyddion a geid yn y Llan ers talwm, roedd rhai selog iawn. Bu Thomas Jones, Tŷ'n y Maes yn glochydd yna am 36 mlynedd cyn i un arall ganu ei gloch gnul yn 1929 pan oedd yn 80 mlwydd oed. Un arall a fu'n gwneud y swydd hon am 34 o flynyddoedd oedd Joseph Jones, Tŷ'n y Maes. Bu ef farw yn 65 mlwydd oed yn 1886, ac os nad wyf yn cyfeiliorni, roedd yn un o hynafiaid Mrs Enid Roberts, Bangor [gynt o Gae Clyd].

Eglwys Sant Mihangel, Llan ffestiniog. Llun Paul W

Yn ôl carreg fedd William Roberts, gof o Benybryn, Ffestiniog, bu yntau'n glochydd yn yr eglwys am 32 mlynedd. Bu ef farw yn 1851 yn 66 mlwydd oed. Os cofiaf yn iawn, bu William Henry Jones, taid Mrs Maureen D' Aubrey Thomas yn glochydd a thorrwr bedd yn Eglwys Sant Mihangel, hefyd, ond nid wyf yn sicr am ba hyd.

Yn ddiau, bu llawer o rai eraill yn glochyddion ffyddlon i'r eglwysi yn Y Llan, y Manod, Y Blaenau a Thanygrisiau pan oeddynt yn eu bri. Yn ei ysgrifau ar hanes cymeriadau 'Stiniog a'r cylch gan Glyn Myfyr ceir y canlynol am un a lysenwid 'Yr Hen Glochydd':
‘Edward Williams, Dorfil Street, Kings Head, ar ôl hynny, a gai ei adnabod gan bawb bob amser wrth yr enw 'Yr Hen Glochydd'.
Yr oedd ef yn gymeriad, credaf na fu iddo erioed gyrraedd y gwaith erbyn caniad yn y bore. Un tro roedd yn eithriadol hwyr, a chloch yr ysgol yn canu. Sylwodd y goruchwyliwr, "Oes gen ti ddim cwilydd Clochydd yn dod at dy waith yr amser yma o'r dydd mewn difri?" "Rwan mae'r gloch yn canu", meddai'r Clochydd. "Ie, ond cloch yr ysgol yw honna", meddai' r goruchwyliwr. "Waeth i ti pa gloch wyt ti'n ei glywed", meddai yntau.’
O ddarllen y bennod 'Yr Hen Glochyddion' yng nghyfrol 'Ar Lawer Trywydd' (1973) gan Gwynfryn Richards gwelir fod amryw ohonynt â sawl swydd arall i'w wneud yn ogystal a bod yn glochydd. Er enghraifft, roedd John Jones, sef Ioan Garmon o Lanarmon yn glochydd, casglwr trethi, cerfiwr ac yn ysgolfeistr. Roedd William Roberts, Llannor yn arddwr, yn ysgolhaig ac yn rhwymwr llyfrau, a Sion Ifan, Penmachno yn llythyr-gludydd.

Clochydd Pren

Ar un adeg defnyddid math arall o glochydd i gynorthwyo gyda chaniadaeth yr eglwys mewn ambell blwyf, sef un wedi ei wneud o bren. Ei ddiben oedd helpu i yngan Amen trwy ddynwared llais dynol a gwneud y gwasanaeth yn fwy effeithiol.

Math ar offeryn awtomatig oedd y clochydd hwn ac os tarai'r offeiriad ei droed ar ran ohono seiniai yntau A-men yn union fel llais dynol a gellid ei glywed yn eithaf clir drwy'r adeilad, yn ôl pob son. Arferid un o'r offerynau hyn yn Eglwys Hirnant ger Llangynog, Powys ar un adeg.

Dyrna hen rigwm amdano:
Amen, clochydd pren,
Dannedd priciau yn ei ben.
Tybed a oes un o'r dyfeisiadau hyn ar gael yn rhywle heddiw. Oes 'na un yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan neu'n ymhlith hen greiriau'r eglwys?

-------------------------

O.N.  Clychau a Chlochyddion*
Dyma un neu ddau o bethau a ddaeth i law amdanynt yn dilyn fy sylwadau blaenorol.  Yn gyntaf, diolch i’m cyfeillion yn Archifdy Meirion, Dolgellau am dynnu’n sylw at ‘Y Gloch Un’ a alwai gweithwyr ardal Dolgellau gynt yn ôl at eu gwaith wedi iddynt giniawa.  Hefyd ‘Y Gloch Naw’ a weithredai fel hwyrgloch (curfew) a chloch i alw’r morynion adref ... gan y byddai’n amod yn rhai o dai y dref iddynt gyrraedd yn ôl at 9 o’r gloch ... yr hwyr, wrth gwrs.

Cefais glywed gan Mr D. Hughes (Deio), Ffordd Wynne fod cloch wedi bod ar un adeg ar bostyn neu fur gerllaw’r Swyddfa Post (y Post Mawr).  Rhyw gof hogyn sydd ganddo ohoni, a pheth da fyddai cael cadarnhad o hyn.  Pwy a wyr, efallai bod llun ohoni’n rhywle?

Yn olaf, deuthum ar draws y cofnod canlynol tra’n chwilota am rywbeth hollol wahanol:
Ar Fai 23, 1853 bu farw Robert Jones, Clochydd Trawsfynydd.  Cymerodd ran ym medyddio 1400 o bersonau, 600 o briodasau a 1,500 o angladdau!  
Pwy all ddweud mwy o’i hanes wrthym, neu’n wir, hanes un o glochyddion eraill Bro Ffestiniog?
 -------------------------


Ymddangosodd yr erthygl uchod yn rhifyn Ebrill 1999. * Cafwyd y diweddariad wedyn yn rhifyn Mai 1999.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon