Pennod arall o gyfres Annwen Jones.
A ydych chi wedi meddwl am brynu ychydig o blanhigion i addurno’r ty? Neu, yn hytrach na’u prynu, ofyn i’ch ffrindiau am dorriadau bach o’u rhai hwy i chi gael eu magu? Rhowch y torriadau mewn dŵr hyd nes bo gwreiddiau’n tyfu ac yna planwch mewn pridd addas (megis compost 1 John Innes..)
Fe fydd angen tri pheth ar y planhigyn, sef golau, dŵr ac awyrgylch heb fod yn rhy sych. I greu lleithder o amgylch y planhigion fe ellir unai chwistrellu’r dail efo dŵr (i rai planhigion yn unig) neu osod y potyn ar gerrig bach mewn soser o ddŵr. Rhaid gofalu bod y dŵr yn y soser o dan lefel y potyn.
Mae’n rhaid i’r planhigyn gael golau eithr cofiwch nad yw pob un yn hoffi haul uniongyrchol. Os yw’r planhigyn yn gwywo ar silff y ffenestr yna symudwch ef i le mwy cysgodol.
Mae’n bwysig hefyd rheoli faint o ddŵr a roir i blanhigyn. Ni ddylid cael pridd sych na phridd sy’n socian. Yn yr haf fe fydd angen dŵr tua dwy waith yr wythnos ond bydd angen llai yn y gaeaf. Ac fel trît achlysurol i’ch planhigion rhowch ddŵr berwi ŵy neu loewon tatws iddynt.
Byddwch yn ofalus wrth fwydo gyda baby bio neu rywbeth cyffelyb. Darllenwch y cyfarwyddiadau’n ofalus a pheidiwch a gor-fwydo. Nid oes angen bwyd ar blanhigion sydd mewn compost newydd gan fod digon o faeth yn y pridd.
O gael gofal iawn mae planhigion tŷ yn medru dod a ffresni a gwyrddni i ystafell a gwneud iddi edrych yn llawer mwy deniadol.
--------------------------------------
Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
Lluniau- Paul W
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon