Yn William Edwards cefais adnabod y dyn mwyaf gonest a gwreiddiol. Ar ddiwrnod ei angladd gofynnodd ei weinidog ‘Beth tybed yw gwreiddioldeb cymeriad?’ Gwyddom nad trwy addysg mo’i hanfod mewn oes fel hon, a’i phwys mawr ar werth addysg. Ceid llawer mwy o bobl wreiddiol yn yr oesoedd a fu. Pobl yn brin eu manteision addysgol oedd rhain i gyd. Un o’r dosbarth hwn oedd William Edwards, neu Y Pannwr oedd pawb yn ei adnabod yn ardal Gellilydan.
Nid oedd yn debyg i neb, na neb yn debyg iddo yntau. Pannwr ydoedd wrth ei grefft, ac felly ei daid a’i dad o’i flaen. Ganed ym Mhandy Gwylan yn y flwyddyn 1874, yma treuliodd rhan helaeth o’i oes cyn symud i fyw i Preswylfa, Gellilydan ac fe’i claddwyd ym mynwent Utica, a dyma driongl daearyddol ei fywyd.
Crib y pannwr. Llun- Paul W |
Mae'r ardal lle ganwyd ef yn gyfoethog ei thraddodiadau a gwreiddiau ei diwylliant yn myned ymhell iawn yn ôl. Dyma ardal Edmwnd Prys, Lowri William, Pandy’r Ddwyryd, Huw Llwyd o Gynfal, y Twrne Llwyd o Gefn Faes a Phlas Penglannau, a’r hynod William Ellis, ac hefyd John Humphrey Gwylan, ffermdy mewn lled cae i Pandy Gwylan lle cerdda cristnogion i addoli yn y tŷ yma yn amser boreuol iawn a’r crefydd yn yr ardal yma dan arweiniad Lowri William. Hoffwn i roi enw William Edwards yn oriel yr Hen Gymeriadau yma hefyd.
Fel hyn rwyf yn cofio y Pannwr. Yr oedd yn ddyn tal, tenau a’i war yn gwywo. Roedd edrychiad ei lygaid yn dreiddgar a bywiog, roedd yn ddyn ar ben ei hun hollol, ac hefyd roedd yn ŵr eang ei ddiddordebau ag anghyffredin ei arferion. Meddai ei Dad a’i Daid rhyw gyffur cyfrin i dynnu y “Ddafad Wyllt” ac fe etifeddodd William Edwards y gyfrinach ganddynt. Ar hyd ei oes bu yn defnyddion’r cyffyr hwn i wella rhai a ddioddefai oddiwrth yr anhwylder hwn.
Pwy yn ardal Gellilydan na chlywodd am “Eli Du Pannwr”? Deuai bobl ato o bell ac agos i gael meddyginiaeth, ac ni siomwyd neb. Cefais i dynnu “Dafad Wyllt” ar un o fysedd fy llaw dde ac mi fuodd yn llwyddiant, fel pob achos arall i bob un a gafodd y driniaeth. Dywedodd wrthyf fod tri math ar hugain o’r Ddafad Wyllt, a phob un yn gofyn triniaeth wahanol. Cyn iddo rhoi yr ‘Eli Du’ ar neb roedd rhaid iddo gael gwybod rhywbeth am drefn y corff y sawl oedd am ddefnyddio’r cyffyr yma. Roedd ganddo lawer o lyfrau ar iechyd y Ddynoliaeth, ac astudiodd rhain yn ofalus iawn.
Un tro meddyliodd y gallasai wella y ‘blood poison’ gyda chyffur y ‘Ddafad Wyllt’ ac fe wnaeth arbrofion trwy dorri darn o groen ei fawd a chyllell gan dywallt gwenwyn i’r toriad. Mewn byr iawn o funudau dyma’r gwenwyn yn dechrau treiglo i fyny ei fraich - yn lein goch a dioddefodd boenau ofnadwy, yna rhoddodd yr ‘Eli Du’ ar y toriad a mawr oedd ei lawenydd fod y gwenwyn yn cilio dan ddylanwad y cyffur, felly gwelodd y gallai rhoi trinfa ar bobl a oedd wedi cael gwenwyn yn eu gwaed.
Arferai ei Daid a’i Dad dynnu dannedd hefyd, cyn bod son am anaesthetic. Ni wn beth a feddyliai deintyddion modern ein hoes ni o’u harfau hwy sef tair gefail fawr o wahanol ffurf. Rwyf yn gwybod fod William Edwards wedi defnyddio’r rhain hefyd ar aml un o’r pentref yma ac yntau wedi ei eni a’i fagu yn swn peiriant y Pandy, naturiol oedd iddo gymryd diddordeb mewn peirianneg. Gwnaeth arbrofion lawer iawn gyda’r peiriannau melinau gwlan.
Ef hefyd oedd un o’r rhai cyntaf yn y cylch yma i brynu cerbyd modur, nid am ei fod yn ariannog nac yn rhodresgar, ond oherwydd ei hoffter o bob math o beiriant. Roedd y modur hwn yn gyfleus i gludo brethynnau o’r Pandy i wahanol ffatrioedd, a gyda’r modur yr aeth i briodi heb ddweud gair wrth neb, roedd y cerbyd yn llawn o flancedi rhag i’r cymdogion amau dim. Daeth yn ôl yr un noson gyda Margiad yn wraig iddo. Roedd pawb wedi rhyfeddu ei fod wedi priodi. Dyn fel yna oedd o, yn un fedr gadw cyfrinachau iddo ei hun.
Gwelwyd ef yn flaenor yng Nghapel Maentwrog Uchaf pan oedd yn gymharol ieuanc. Roedd Pannwr yn ŵr duwiol heb fod yn sych ddywiol. Gallai fwynhau ei hun yn dysgu drama i bobl ifanc. Cefais i y profiad yma gydag ef pan oeddwn yn byw yn Llech-y-Cwm ac wedi bod mewn amryw o’i ddramau. Cael digon o hwyl yn ymarfer yn festri’r capel. Rhoes ei orau i’r ardal.
Bu'n glerc y Cyngor Plwyf am gyfnod maith, hefyd bu'n aelod o Gyngor Dosbarth Deudraeth, ac hefyd yn aelod o fwrdd llywodraethwyr ysgolion cylch Ffestiniog. Roedd yn gymwynaswr, ac ato ef y rhedai bawb mewn argyfwng. Roedd bob amser yn ddoeth ei gyngor a chadarn ei farn. Bu farw fel y bu fyw, yn dawel. Rhoddwyd ef i orwedd ym mynwent Utica gyda Margiad eilun ei galon, ar Hydref 2il 1950.
----------------------------------------
Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2005 sydd uchod. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon