Rhyfedd fel mae crefydd yn dal ei afael mewn dyn ar hyd ei oes. Beth bynnag wnaiff dyn, neu lle bynnag yr aiff, mae yn sicr o ddod i gysylltiad â chrefydd mewn rhyw ffurf neu gilydd. Yn ystod fy niferus deithiau, deuais innau, yr hen bechadur o Feirion, i gysylltiad â chrefydd mewn llawer lle, ac er nad wyf yn grefyddwr bybyr, melus ydyw gweled fod Brenin y Brenhinoedd yn eistedd yn gadarn ar ei orsedd.
Yr wyf yn gwybod yn eitha bod hanes gweddol ddigalon i eglwysi Cymru ar hyn o bryd, ond mae'n debyg mai bywyd esmwyth sy'n gyfrifol i ran helaeth am hynny. Wedi gweled llawer math ar grefydd ar hyd a lled y byd, yr wyf yn credu fod yn hen bryd i Gymru newid peth ar ddull y molianau yn y capeli. Hwyrach fod gormod o seremonio mewn eglwysi, ond yr wyf yn berffaith sicr fy meddwl fod rhy ychydig o seremonio mewn capeli. Yr un drefn ers cyn cof, emyn, darllen, emyn a gweddio, cyhoeddi, emyn, pregeth a'r fendith. Onid gwledd fuasai canu anthemau, pregeth fer a holi dipyn ar y pregethwr ar y diwedd. Credaf hefyd fod oes y codwr canu fel yr adnabyddir ef wedio mynd heibio.
Awd i gostau mawr i brynu offerynnau gwych, ond yr hyn sydd yn digwydd yn aml iawn ydyw rhyw gystadleuaeth rhwng y codwr canu a'r organ, a'r gynulleidfa yn methu gwybod p'run i'w ddilyn. Nid ydyw peth fel hyn yn gynorthwy i greu awyrgylch, ac wedi'r cwbwl, mae awyrgylch briodol yn anhebgorol angenrheidiol i wasanaeth crefyddol.
Cofiaf unwaith i mi aros yn Salt Lake City, cartref y Mormoniaid -Saint y Dyddiau Diwethaf- ac os oes rhywun wedi bod yn y fan honno ac yn methu crefydda, y mae wedi ei ddamnio i golledigaeth dragwyddol, yn reit siwr. Mae'r peth tu hwnt i ddisgrifiad, y gwisgoedd a'r canu yn esgyn dyn i fyny at rhyw binaclau o orfoledd na phrofodd mohonyn gynt nac wedyn.
Cofier, gyda llaw, fod nifer fawr o golofnau y Mormoniaid yn Gymry trwyadl. Cwrddais ac amryw ohonynt tra yn y dre. Gŵr mawr yn eu plith oedd Judge Roberts, teulu'r hwn oedd yn hanu o Lanfrothen. Credaf fod y Barnwr yn gefnder i Bryfdir o Flaenau Ffestiniog, ac mae nifer fawr o'r teulu yn byw yno yn awr. Deallaf i un o'r meibion ymweled â Bryfdir tra yn y fyddin yn ystod y rhyfel diwethaf. Aeth i lawr i Groesor i weled yr anfarwol Bob Owen, a chan y gŵr amryddawn hwnnw cafodd hanes ei deulu o'r amser yr hwyliodd nifer fawr o Feirionnydd am Utah.
Cyn 1907 yr oedd tair mil o egwlysi hollol Gymreig yn yr Unol Daleithiau a Chanada. Magwyd plant ynddynt i fedru siarad yr hen iaith yn berffaith. Yn wir, yn llawer gwell nac ambell Gymro na symudodd erioed o Gymru. Iaith y Beibl Cymraeg oedd ganddynt, ac yr oeddynt yn ymffrostio yn y ffaith eu bod yn gallu siarad iaith enedigol eu cyndadau. Mae rhai, wrth gwrs wedi anghofio eu Cymeigdod, ond mae hynny yn bod hyd yn oed yr Sir Fôn!
Clywais hanesyn un tro am Gymro gweddol ymffrostgar yn yr Amerig, ac fel finnau yn llawn o 'bluff'. Gofynnwyd iddo a allasai bregethu a dywedodd ei fod yn hen law ar y gwaith. Gofynnwyd iddo gymeryd y gwasanaeth mewn capel y Sul canlynol. Un o'r capeli 'neis' oedd hwn, a gwelodd yr hen frawd wendid yr aelodau mewn munud.
Wedi pregethu yn Saesneg am ychydig o funudau, yr oedd yn bur galed ar yr hen frawd i feddwl bod eisiau cario ymlaen am chwarter awr araIl. Ac meddai
"Brothers and sisters, the urge is within me to preach to you in one of the dialects of darkest Africa, and I know the good Spirit will enable you to follow my teachings".Dialect Affrica Dywyll oedd Cymraeg, ac yr oedd yr hen frawd mewn hwyl fawr yn dweud pob math o bethau.
Wedi bod wrthi am beth amser sylwodd fod un gŵr yn un o'r seddau cefn yn chwerthin nes oedd yn ysgwyd. Ac meddai'r hen frawd, gan ostwng ei lais yn effeithiol,
"A thi, yr hwn sydd yn chwerthin yn y set ôl, os Cymro wyt ti, cau dy geg, neu byddwn ein dau yn uffern".----------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 1999.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon