12.9.16

Stiniog a’r Rhyfel Mawr- erchylltra y Somme

Bu gwasanaethau yng Nghymru, Prydain a’r cyfandir eleni i gofio canrif ers brwydr erchyll y Somme. Yma mae Vivian Parry Williams yn parhau â’i gyfres, yn edrych ‘nôl ar y llythyrau oedd milwyr ‘Stiniog yn yrru adra o’r ffrynt.

Ar 22 Gorffennaf 1916, yn y golofn reolaidd yn Y Rhedegydd, 'Ein Milwyr', cofnodwyd hanes un o frwydrau mawr y rhyfel, Brwydr y Somme. Er i'r ymladd ddechrau yno ar 1 Gorffennaf, aeth tair wythnos heibio cyn cael unrhyw wybodaeth am y frwydr erchyll honno. Lladdwyd, neu anafwyd dros 60,000 o filwyr Prydain ar y dydd cyntaf o'r frwydr, a barhaodd hyd 18 Tachwedd.

Erbyn diwedd Brwydr y Somme, dywed i dros filiwn o filwyr, o'r ddwy ochr gael eu lladd neu eu hanafu. Yr oedd nifer fawr o filwyr o Gymru yn rhan o erchylltra un o frwydrau gwaethaf y Rhyfel Mawr.

Dyma ddywed gohebydd y papur yn ystod y dyddiau cynnar o'r frwydr:
“... wythnos o bryder mawr fu'r un ddiweddaf yn yr ardal hon a'r cylch, am ei bod yn wybyddus hefyd fod nifer fawr o'n bechgyn yn cymeryd rhan yn yr ymgyrch gyda'r 14th R.W.F, ac adrannau eraill, a phrofodd y newyddion ddaeth i law nad oedd y pryder hwnw ddim yn ddi-sail, a bod pethau gwaeth na'r gwir wedi ei ddweud mewn rhai achosion.”
Cyfeiriwyd wedyn at y llythyrau a ddaeth i law o gyfeiriad y mwynwyr, y rhai oedd yn cael eu defnyddio i dwnelu o dan ffosydd milwyr yr Almaen ar y pryd. Yr oedd adroddiadau wedi cyrraedd yn amlwg o'r brwydro mawr diweddaraf, gan greu pryder mawr ymysg anwyliaid y milwyr adref.

Disgrifir y golygfeydd yn dilyn yr ymladd ffyrnig, ac am effeithiau eraill y brwydro ar rai milwyr.
Daeth amryw lythyrau i law oddiwrth aelodau'r Meinars, a da gennym weled oddi wrthynt nad yw pethau lawn cyn waethed a'r si a aeth allan yn eu cylch. Ysgrifena Sapper Robert Humphreys, Manod Road at ei wraig o Ffrainc, a dyweyd ‘Yr wyf ar hyn o bryd mewn Hospital mewn pentref bychan tebyg iawn i bentref Cymreig. Nid ydwyf wedi fy nghlwyfo, ond wedi gyrru fy hun i lawr braidd. Yr oeddwn wedi cael fy mhenodi yn un o bedwar i ofalu am y Saps yn ystod y tânbelenu, a nos Iau daeth shell i fewn a chauwyd arnom yn y Sap, ac effeithiodd yr awyr drwg a'r shock ychydig arnaf, ond rwy'n disgwyl y byddaf yn barod i fynd yn ol at y bechgyn yfory.’"
Cofgolofn Llan Ffestiniog. Llun Paul W.
 Dychrynllyd oedd disgrifiad y Sapper R.M.Hughes, Ffordd Manod o'r un frwydr, dan bennawd Tranoeth y Frwydr Fawr'. Mae'n debyg ei fod yn cyfeirio at y ffrwydriad fwyaf a fu erioed i fyny i'r cyfnod hwnnw. Digwyddodd hynny ar 1 Gorffennaf 1916, pan fu i adran o'r mwynwyr oedd yn twnelu dan ffosydd yr Almaenwyr danio ffrwydriadau enfawr a elwid yn Lochnagar mine. Dywedir i'r ffrwydriad gael ei chlywed cyn belled i ffwrdd â Llundain. Lladdwyd miloedd gan y ffrwydriad.
'

Gadawn i Sapper Hughes ddisgrifio:
“...miloedd ar filoedd yn gorwedd yn domennydd a dim rhyfel mwy - cannoedd ar gannoedd o garcharorion yn pasio drwy'r dydd, a chlwyfedigion; ond diolch, dim ond dau o'r meinars o Ffestiniog...Y dydd o'r blaen roedd y lle rwyf ynddo yn llawn o ynau mawrion, a'r rhai hyny yn arllwys eu tân yn ddi-dor. Ond y mae y lle yn llawn o geffylau. Yfory, hwyrach y bydd yma ddim ond y ni yn aros. Rym wedi cael llwyddiant eithriadol...Da iawn genyf ddweud ein bod i gyd yn alright, a gobaith cryf y cawn ddod adref i gyd ryw ddiwrnod cyn bo hir. Brysied y dydd.”
Mewn llythyr arall ychydig yn ddiweddarach, dyma ddywedodd yr un milwr:
“Diolch i Dduw, mae y gwaethaf drosodd, a minnau yn fyw ac yn iach, ac erbyn hyn yn ddiogel o gyrraedd y gelyn, a'r hen bennill anwyl yn wir :     Y frwydr wedi troi
     Gelynion wedi ffoi.
 Rwyf yn credu fod ein gwaith ni wedi darfod. Yr ydym wedi gweithio yn galed iawn, ac mae'r gwaith ardderchog wedi ei goroni a llwyddiant. Gwnaethom achub miloedd ar filoedd o'n milwyr ni, a lladdasom filoedd o'r gelynion. Maent yn domennydd mewn Dug-outs wedi eu chwythu gan y meins, a golwg ofnadwy arnynt...”
Un o'r rhai oedd yn gwasanaethu gyda'r Royal Engineers yn Ffrainc oedd y Sarjant Phillip Woolford, mab Mr a Mrs Alf. Woolford, Penybont, Llan Ffestiniog. Cafwyd gwybodaeth yn rhifyn 22 Gorffennaf o'r Rhedegydd i Phillip dderbyn Tystysgrif Cymhwyster mewn defnyddio offer achub tanddaearol, ac am ddangos medusrwydd rhagorol yn y grefft. Ychwanegwyd ei fod wedi bod yn y ffrynt ers 18 mis, ac wedi ei anafu ddwywaith. Yn anffodus iddo, bu farw o'i anafiadau yn Ffrainc, ar yr ail o Hydref 1916. Cofnodwyd hefyd enwau nifer eraill o'r ardal a oedd wedi eu lladd neu eu clwyfo.
---------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2016.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon