24.9.16

Gwynfyd -O na fyddai’n haf o gwbl

Ymddangosodd cyfres 'Gwynfyd' am dair, bedair blynedd yn y nawdegau, yn trafod bywyd gwyllt a llwybrau troed ein bro. Dyma ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Medi 1998, yn cwyno am haf sâl arall!

O’r diwedd daeth ychydig o welliant yn y tywydd yn ystod Awst, er i’r mis hafaidd hwnnw hefyd gyflwyno ambell ddiwrnod i’n synnu.  Mi fu’n haf difrifol i wylio gloynod byw er enghraifft.  Felly hefyd pryfetach ar y cyfan.  Mae tri chwarter y coed eirin damson ger dalcen y tŷ ‘cw wedi methu dod a ffrwyth eleni, a hynny mae’n debyg oherwydd cyfnod gwlyb yn y gwanwyn pan oedd yn blodeuo, a’r pryfed a gwenyn sy’n arfer peillio wedi methu hedfan dros rhai o fisoedd gwlypaf yr ardal ers dechrau cofnodi’r tywydd.

Llun Paul W
Bu’n haf difrifol am ladd gwair hefyd, ac er mai silwair ydi rhan fwyaf y cnwd bellach, mantais y toriad hwyr ar ffermydd lle maent yn dal i gynaeafu gwair oedd rhoi cyfle i’r blodau ymysg y glaswellt i flodeuo’n llawn a rhoi sioe liwgar hen ffasiwn.  Ers 1945 collwyd 95% o weirgloddiau a dolydd blodeuog Prydain gan eu troi yn gaeau unffurf-unlliw gwyrdd, wedi eu haredig a’u hadu efo gweiriau amaethyddol a meillion gwyn, a’u gwrteithio yn ddwys nes colli’r amrywiaeth liwgar oedd wedi bodoli ers canrifoedd.  Collwyd eraill trwy adeiladu arnynt ond mae ambell lecyn a thalar sy’n werth eu gweld o hyd.

Ar un o’r ychydig ddyddiau braf aethom fel teulu bach am dro o Dyddyn Gwyn i lawr y llwybr rhwng terfyn y Neuadd Ddu a’r lein.  Roedd ymylon y llwybr yn gyfoeth o liw gyda blodau gwyllt diwedd Gorffennaf, gan gynnwys blodau sy’n tyfu dim ond ar hen groen, lle na fu gwrteithio nag aredig ers degawdau, fel pys y ceirw a’r pengaled, ac roedd ceiliog tingoch yn hedfan igam ogam o’n blaenau o gangen i gangen gan chwibanu.

Llun Paul W
Cyn cyrraedd gwaelod y llwybr troesom i fyny ac o dan y lein tuag at Benygwndwn.  Rhwng y lein a’r stâd tai yma mae safle y byddai rhai yn ei ddisgrifio fel tir diffaith, ond mewn gwirionedd roedd yn le bendigedig gyda gloynod byw fel y gwibiwr bach, gwrmyn y ddôl a iâr fach y glaw yn hedfan ymysg y grug.

Wrth gerdded ar hyd lwybr trol yr hen waith sets roedd yn bosib gweld blodau gwyllt amrywiol a chlywed grwndi parhaus ceiliog y rhedyn a chân cynhyrfus y dryw bach, sydd bob tro yn synnu gyda’r fath swn yn dod o aderyn mor eiddil.

Cerdded wedyn ar draws y cae y buom ni hogia Heol Jones, Dorfil a Fron Fawr, yn cerdded iddo ar hyd y lein i chwarae peldroed yn erbyn hogia’r Manod ‘stalwm, - ac oddi yno heibio clawdd isa’ mynwent Bethesda ac yn ôl i fyny’r Ffordd Goed wedi mwynhau ychydig o haul a gyda boddhad mawr o ail-ddarganfod safle natur hyfryd, reit ar gyrion y dre.

Darn o wynfyd mewn ffaith.
---------------------------------------------


Awdur cyfres Gwynfyd oedd Paul Williams. Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon