10.9.16

Y Dref Werdd- Cymuned a Chynefin


Erbyn hyn daeth y cwrs i ben ac mae criw o blant brwdfrydig a bywiog wedi cymryd rhan mewn chwe sesiwn ac wedi cael dysgu amrywiaeth o sgiliau gwahanol gan arbenigwyr lleol.

Daeth y syniad o ddatblygu’r sesiynau yma yn dilyn cwrs tebyg i oedolion cafodd ei ddatblygu gan Antur Stiniog rhai blynyddoedd yn ôl ac yn ddilyniant i’r Clwb Natur roedd Y Dref Werdd yn ei drefnu yn y gorffennol. Sesiynau llawn hwyl oedden nhw, ond wrth gael hwyl, roedd pawb yn dysgu am amrywiaeth o bynciau gwahanol fel hanes, treftadaeth, yr amgylchedd, daeareg a bywyd gwyllt.

Yn y sesiwn cyntaf, aeth Twm Elias a’r criw allan i Landecwyn ar ddiwrnod braf lle cafwyd bob math o straeon difyr am yr ardal cyn darfod y diwrnod ar draeth Llandanwg, ger Harlech.

Yr adborth gan y plant ar ddiwedd y dydd i’w rhieni oedd, “Mae Twm Elias yn ôsym, mae o’n gwbod pob dim am bob dim”!!



Sesiwn ychydig mwy anturus oedd wedyn, gydag Iwan Cynfal yn arwain y plant i ddringo ar greigiau yn Nhanygrisiau iddynt gael blas o’r cyfoeth o weithgareddau awyr agored sydd ar gael ym Mro Ffestiniog.

Mae Catrin Roberts a Iona Price wedi bod wrthi yn chwilota am fwyd gwyllt sy’n tyfu o’n cwmpas ers rhai blynyddoedd bellach ac yn mynd ati i wneud jamiau, marmalêd a llawer o bethau blasus eraill. Felly, yn y trydydd sesiwn, aeth y criw allan i ardal Cwm Cynfal i ddarganfod planhigion blasus sydd ar gael yno, gyda phob plentyn yn casglu cynhwysion gwyllt eu hunain. Pan ddaeth y glaw, aeth pawb yn ôl i’r Ganolfan Gymdeithasol i ddefnyddio cegin y Gofal Dydd, a choginio pitsas cartref efo’r planhigion bwytadwy a gasglwyd i ychwanegu blas arbennig. Er y llanast oedd yn y gegin ar y diwedd, cafodd y plant fwynhad mawr !


Mae sgiliau gwylltgrefft, neu bushcraft  yn Saesneg, wedi dod yn fwy poblogaidd yn ddiweddar, felly o dan oruchwyliaeth Hefin Hamer a Megan Thorman, aeth y plant i lawr i safle Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yng Ngwaith Powdwr, Penrhyn, lle cafwyd dysgu nifer o sgiliau newydd oedd yn cynnwys defnyddio cyllell i greu darnau o gelf, cynnau tân yn ddiogel, adeiladu ‘den’ a llawer mwy. Braf oedd gweld y plant yn cael dysgu gymaint â chael hwyl gyda Hefin a Megan, sydd â chymaint o arbenigedd i’w rannu.

Yn y ddau sesiwn olaf, bu Hefin a Megan yn chwilio am olion anifeiliaid i lawr ar yr aber ac o gwmpas Bro Ffestiniog, a bu Selwyn Williams a Maia Jones, Y Dref Werdd, yn son am dreftadaeth cyn gorffen yn y Pengwern am sesiwn greadigol.

Roedd pob un o’r plant sydd wedi bod yn rhan o’r sesiynau Cynefin a Chymuned yn derbyn tystysgrif Gwobr John Muir ar y diwedd fel cydnabyddiaeth o beth maent wedi ei ddysgu ar y cwrs arbennig hwn. Gwyliwch allan hefyd am arddangosfa’r plant yn oriel Antur Stiniog yn ystod mis Medi!

Os oes plant neu blentyn gennych chi a fydd gyda diddordeb ymuno â’r hwyl, cysylltwch gyda Daniel ar 01766 830 082 neu daniel[AT]drefwerdd.cymru

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon