Erthygl gan Emyr Glyn Williams. Y cyntaf mewn cyfres o ysgrifau gwadd yn ymateb i Uffarendwm Ewrop yn haf 2016.
Rhaid cyfaddef fy mod i, yn ddiweddar, wedi dechra teimlo’n genfigennus o drigolion ifanc Blaenau (mwy am hyn nes ymlaen). Yn gyntaf, a ninne yng nghanol cyfnod mwyaf cythryblus a thyngedfennol ein hanes fel aelodau o’r teulu Ewropeaidd, dwi am fachu ar y cyfle i rannu rhywfaint o bositifrwydd yn y testun hwn.
Pam? Wel, jest er mwyn ceisio lleddfu tamaid ar y boen o weld cynifer o’n cwmpas yn syrthio o dan ddylanwad meddylfryd cas, hiliol a senoffobic yr eithafwyr yna sy am ein gweld ni fel Cymry yn cefnu ar ein perthynas â gweddill y cyfandir. Digon o reswm i mi. Isio rhannu rhai o’r profiadau a theimladau sy wedi dychwelyd yn sgil penderfyniad i fynd ati i sgwennu llyfr yn Gymraeg sbel yn ôl am fyd sinema dramor, dyna i gyd dwi’n ei gynnig.
Mae Is-Deitla’n Unig wedi ei alw’n ‘llythyr cariad’ i ddiwylliannau estron gan rai, ac yn 'hunangofiant drwy ffilm' gan eraill, gan fy mod i yn plethu’r cariad hwn at ddiwylliant a bydolwg sinema ‘y lleill’ efo fy stori bersonol i yn tyfu i fyny yn Blaenau a gweithio gyda cherddoriaeth, ffilm a theledu Cymraeg dros y 30 mlynedd diwethaf.
Yn bersonol, dwi’n ddiffinio’r llyfr fel ymgais i normaleiddio dyhead sydd ynom fel pobl a chenedl (yn enwedig yr ifanc) i fod yn rhan o’r byd mawr y tu hwnt i ffiniau ein gwlad fechan. Yn dal i greu trwy’r Gymraeg, wrth gwrs, tra’n byw yn gydradd ac yn oddefgar ysgwydd wrth ysgwydd â’r holl diwyllianau eraill sy’n rhannu ein byd.
Ro’n i’n credu wrth ysgrifennu’r llyfr fod y teimladau yma’n rhai ddigon cyffredin a synhwyrol, ond ers cyhoeddi canlyniad y refferendwm, ma’ hi wedi dod yn amlwg fod y rhan fwyaf o’r boblogaeth allan yna (yng Nghymru hefyd) yn ei gweld hi’n anodd derbyn bod amrywiaeth diwyllianol yn beth positif.
Ond hoffwn ddadlau yma fod natur arbennig celf sinema’n medru gweithio i ailadeiladu’r teimlad hanfodol yna o fod yn perthyn i’n gilydd sydd yn amlwg wedi dirywo cymaint ers y bleidlais ar 24 Mehefin. Yn fy marn i, does ’na ddim dewis arall yn bodoli – gyda’n gilydd yw’r unig ffordd i deithio tua’r dyfodol, a chredaf mai sinema yw’r peiriant gora ar gyfer y dasg o hwyluso’r paratoadau ar gyfer ailgychwyn ar y siwrnai hon.
Ers cyhoeddi’r llyfr, dwi wedi profi ymateb uniongyrchol gan ddarllenwyr a beirniaid i’r pwnc, ac wedi ymfalchio mewn ymateb positif gan mwyaf, sy’n hapus i dderbyn bod sinema’n medru bod yn gelf yn ogystal ag yn fusnes; yn iaith rydym oll yn medru ei deall (gan mai’r lluniau sy’n siarad!); ac yn bwysicaf oll, cydnabyddiaeth ei bod hi’n gelf sy’n perthyn i bawb (dyna’r union reswm mae’n bodoli ym mhob twll a chornel o’r blaned).
Gan wybod o flaen llaw fod y rhinweddau yma’n dderbyniol, hoffwn eich annog chi ddarllenwyr Llafar Bro i wneud ymdrech o’r newydd i gofleidio byd ffilmiau a’i gwneud hi’n rhan o’ch bywyd bob dydd.
Yn ôl at y cyfaddediad hwnnw o genfigen ar y cychwyn – wel, yn syml, mae un o’r peiriannau gwyrthiol dwi’n eu haddoli ar fin glanio yn Blaenau! Toedd ddim fath beth yn bodoli yn fy mhlentyndod i, a fedra i ddim gorbwysleisio gymaint o anhreg dwi’n credu fydd bodolaeth sinema i’r dref.
Mae wir angen diolch i griw CellB am gynnig y cyfle anhygoel hwn i brofi hud a gwefr bod yn rhan o gynulleidfa mewn sinema ‘go iawn’ unwaith eto. Nawr bydd cyfle rheolaidd i bob un ohonoch i brynu tocyn – i ddianc am gwpl o oriau wrth gwrs, ond hefyd i gael cyfle i brofi storïau o bob cwr o’r byd ar sgrin fawr yn eich cynefin a sylweddoli nad ydi clywed mwy am wahanol bobl a diwyllianau ym mhen draw’r byd yn gwneud dim heblaw dod â ni’n agosach et ein gilydd yn y pen draw. Un ddynoliaeth sydd, wedi’r cyfan, a chynnig tystoliaeth o’r ffaith hyfryd hon y mae celf sinema.
Mae ’na wyrthiau a phrofiadau bythgofiadwy yn aros amdanoch chi yn y stafell dywyll yna yn yr hen Orsaf Heddlu, a dwi’n eich annog i gefnogi’r fenter newydd hon o’r dechrau’n deg, yn enwedig pan mae’r arolygon y tu allan yn gaddo crebachu ar ehangu gorwelion. Buck the trends! Mynnwch eich lle, gofalwch amdani, defnyddiwch hi ac mi wneith hi ffynnu!
-- --
Cyrhaeddodd Isdeitla’n Unig gan Emyr Glyn Williams (Gwasg Gomer, £8.99) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2016, ac mae o dal ar gael yn eich siop leol.
-----------------------------------------
Ymddangosodd erthygl Emyr yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2016.
Mae rhifyn Medi ar gael yn y siopau a gan y dosbarthwyr tan ganol Hydref. Mae'r gyfres Ewropeaidd yn parhau efo erthyglau gan Dewi Prysor, Ifor Glyn, Sharon Jones, Mici Plwm, a'r Theatr Genedlaethol.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon