4.1.16

Llyfr Taith Nem- 'y canwr mwyaf difrifol..'

Pennod arall o  hanesion rhyfeddol Nem Roberts Rhydsarn yn ‘Merica.

1930’au
Meddyliais un tro buaswn yn hoff o fod yn ganwr.  Yr oeddwn wedi gwrando ar amryw, a phob tro yr oeddwn yn eiddigeddus o’u doniau.  Doeddwn yn gwybod fawr ddim am gerddoriaeth, ond teimlwn na fuaswn yn hir yn dysgu canu, a mwya’n y byd feddyliwn am y peth, sicraf yn y byd oeddwn fod defnydd canwr o fri ynof.  Ymddengys i mi wneud peth camgymeriad ar ddechrau yr yrfa.  Yn lle myned at athrawes profiadol i geisio dysgu, eis ati i addysgu fy hunan.  Rhaid dysgu plentyn i gerdded, rhaid dysgu pregethwr i bregethu, ac yn siwr rhaid dysgu perchen llais sut mae ei ddefnyddio.

Wedi rhai wythnosau yr oedd eisteddfod yn y ddinas lle’r oeddwn yn aros, ac heb feddwl ddwywaith penderfynais ymgeisio ar yr unawd tenor.  Yr unawd odd ‘Y Dyddiau Gynt’.  Cefais sgwrs ac un dadganwr profiadol a dywedodd wrthyf mai peth doeth cyn canu yn gyhoeddus oedd peidio bwyta drwy’r dydd y gystadleuaeth, a’i bod yn haws canu ar ystumog wag, ond yr oedd yn bwysig cario potel o wisgi yn y boced, a dipyn o glycerine ynddo, a chymeryd swig yn achlysurol.  Pe tawn wedi clywed am yr ystumog wag yn gynt, mae’n debyg y buaswn wedi rhoddi heibio uchelgeisio fel dadganwr.

Daeth diwrnod y gystadleuaeth, a thra’n gweithio yn y ffactri dychmygwn glywed cymeradwyaeth y dorf – yn wir clywn fy hunan yn taro C uchaf fel Caruso.

Fel y dywedodd rhyw feirniad rhwy dro:
waeth i ddau heb a chanu deuawd ‘y ddau forwr’ a hwythau yn edrych fel dau deiliwr
felly rhaid oedd gwisgo yn briodol i’r dasg.

Tua chwech o’r gloch y noson honno, gwelais y brawd roddodd y cyngor i mi am yr ystumog wag, a’r peth cyntaf ddywedodd oedd, “Beth am fynd am lasiad neu ddau i dafarn Jack Jones?”  I mewn a ni yn ddioed, ac wedi glasiad neu ddau, anghofiodd ef a minnau am bwysigrwydd ystumog wag, a bwyta ac yfed buom nes oeddym yn llawn at y gwddf, ac yna i ffwrdd a ni i’r Eglwys Gymraeg, lle cynhelid yr eisteddfod. 

Gŵr tal a locsyn du ganddo oedd arweinydd y cyfarfod, a llais fel udgorn ganddo.  Dangosodd fy nghyfaill y beirniad canu i mi, a chymerais yn erbyn y brawd ar fy union, er na welais i erioed mohono o’r blaen.  Wedi cystadleuaeth neu ddwy, awd ymlaen at gystadleuaeth yr unawd tenor – moment y gogoniant neu’r gwymp.  Yr oedd saith wedi anfon eu henwau, ond er galw ac ail alw amdanynt nid oedd neb yn ateb.  Fy enw i oedd yr olaf ar y rhestr, ac meddai’r arweinydd, 

A ydyw E.R. yn bresennol.”  
Yr oeddwn yn fud a chlywn fy mhengliniau yn taro yn eu gilydd fel drwm.  

Os ydyw E.R. yn bresennol, fe gaiff y wobr”  meddai’r arweinydd.
YMA!” meddwn mewn llais uchel o’r sedd uchaf yn yr oriel, ac i ffwrdd a mi i’r llwyfan i dderbyn y wobr, gan anadlu yn rhydd wrth feddwl nad oedd angen i mi ganu.  Ond pan gyrhaeddais y llwyfan, cefais sioc ddyrchrynllyd pan dywedodd yr arweinydd, “Er nad oes neb arall wedi dod i ymgeisio ar yr unawd, rhaid profi teilyngdod, felly distawrwydd, os gwelwch yn dda i E.R. ganu ‘Y Dyddiau Gynt.”  

Yn rhyfedd daeth rhyw hyder i mi o rhywle, wn i ddim o ble daeth, pa un ai’r ddiod, neu’r ffaith nad oedd neb arall yn cystadlu yn fy erbyn, ynte gweld deg dolar o fewn fy llaw megis.  Ta waeth, mi es drwy’r unawd, ond cymysglyd iawn oedd y gymeradwyaeth, ac nid fel oeddwn i wedi ei glywed yn fy nychymyg yn ystod y dydd.

Daeth y beirniad i gyflwyno ei feirniadaeth ar fy ymdrech gyntaf fel dadganwr, ond fel y digwyddodd hi, honno oedd fy ymdrech olaf hefyd.  Yr oeddwn wedi fy namnio yn ei frawddeg gyntaf.  

Meddai: 
Dyma’r dadganwr mwyaf difrifol glywais ar lwyfan erioed.  Nid oedd yn gwybod yr unawd, nis gallai gynhyrchu ei lais, ac nid oedd ganddo lais i’w gynhurchu.
Yr wyf am iddo gael y wobr, nid am ei ddadganiad, ond am ei ddigywileidra yn dod i’r llwyfan.
”  

Ac felly y bu.

Er hynny i gyd, credaf hyd heddiw i’r beirniad hwnnw fod yn rhy llym o lawer.  Dywedodd y cyfeilydd wrthyf bod gennyf ddefnydd llais da, ond fy mod angen llawer o hyfforddiant.

Ar wahan i fy ymdrech drychinebus credaf fod beirniad yn rhy frwnt o lawer wrth gystadleuwyr ieuanc.  Sathru yr ymgeisydd yn lle ei helpu a’i annog i fwy o ymdrech.  Wedi’r cwbl pe tae pob ymgeisydd yn berffaith ni fuasai cystadleuaeth.  Pwy wyr, hwyrach pe tae’r beirniad hwnnw wedi bod yn garedicach y noson honno, y buaswn erbyn heddiw yn nodedig fel un ddatganwyr operataidd mwyaf Cymru.

--------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 1998. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon