24.1.16

Rhod y Rhigymwr- Plygain a Machlud

Erthygl gan Iwan Morgan.

Daeth blwyddyn eto i ben’ ydy’r agoriad i’r hen garol a gofnodwyd yng nghasgliad cynta’r diweddar Ganon Geraint Vaughan-Jones – casgliad a gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1987. Gwnaeth Geraint lawer iawn dros achub yr hen draddodiad Cymreig o ganu carolau plygain. Fel Rheithor Mallwyd, Llanymawddwy a Chemaes, fe fu wrthi’n ddiflino am lawer blwyddyn yn casglu a diogelu’r carolau hyn, a sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno yng ngwasanaethau’r Plygain a oedd mor gyffredin yn Ne Meirionnydd, Maldwyn a rhai mannau eraill yr adeg honno. Fel y gwyddom, mae’r arferiad o gynnal ‘Plygeiniau’ yn rhywbeth cyffredin a phoblogaidd bellach, a thrwy benderfyniad a dycnwch Pegi Lloyd Williams, mae’r brwdfrydedd bellach wedi cyrraedd y Blaenau.


Gellir dweud mai goroesiad ydy’r ‘Plygain’ o wasanaeth Nadolig o’r cyfnod cyn Diwygiad Protestanaidd yr 16eg ganrif, wedi ei addasu i siwtio’r amodau Protestanaidd newydd. Credir i’r arferiad gymryd lle Offeren Hanner Nos y cyfnod Catholigaidd, a chafodd canu’n yr iaith frodorol le amlwg yn dilyn derbyn Beibl Cymraeg William Morgan ym 1588. Ers talwm, dechreuodd gwasanaeth y plygain yn oriau mân y bore. Daw’r gair ‘plygain’ o’r Lladin, wrth gwrs, - ‘pulli cantio’ -‘cyn caniad y ceiliog.’

Un a wnaeth lawer i hyrwyddo gwasanaethau Plygain yn ddiweddar ydy Arfon Gwilym. Cyhoeddodd ef, a’i briod, y cerddor, Sioned Webb, ‘60 o Garolau Plygain ynghyd â chanllawiau ymarferol’ yn 2006. Carolau ydy’r rhain gan fwyaf ‘a gadwyd yn fyw mewn rhai ardaloedd yn unig, ond a anghofiwyd i bob pwrpas gan weddill y wlad.

Yn amlach na pheidio, cerddi crefyddol ac athroniaethol eu naws oedd y carolau hyn, ond roedd eu gwreiddiau yng nghanu gwerin poblogaidd eu dydd. Mae eu mydr yn aml yn gymhleth, ac fe’u cenid ar geinciau baledi poblogaidd. Fel arfer, mae’r carolau plygain yn hir – dros ugain a mwy o benillion. Yn ogystal â sôn am eni Crist, ceir cyfeiriad at y Croeshoeliad ynddynt yn ogystal.

Daeth y traddodiad o gyfansoddi a chanu carolau’n boblogaidd yn yr 17eg ganrif. Cyhoeddodd Charles Edwards ei ‘Llyfr Plygain gydag Almanac’ ym 1682. Y meistr pennaf ar gyfansoddi’n yr oes honno oedd Huw Morys (Eos Ceiriog), 1622-1709. Yn y 18fed ganrif, ceir nifer o garolau gan Jonathan Hughes yn ei lyfr – ‘Bardd y Byrddau’. Rhai o gyfansoddwyr carolau’n y 19eg ganrif oedd Gwallter Mechain, Dafydd Ddu Eryri, Eos Iâl, Ab Ithel ac Elis Wyn o Wyrfai i enwi ond ychydig.

Addas i ni yn ardal ‘Llafar Bro’ ydy cofnodi carol a gyfansoddwyd gan Humphrey Jones ‘Bryfdir’ (1867-1947’ – ar gyfansoddiad hyfryd y cerddor Owain Huws Davies o’r Blaenau – ‘Dim Lle yn y Llety’. Tybed faint ohonoch sy’n gyfarwydd â hi:

Ar ryfedd daith flinedig, faith
Bu Mair a Joseff, trist yw’r ffaith,
Cyn gweled Bethlem dref;
Mynd heibio iddynt wnâi y llu
Heb ystyr fod y ddeuddyn cu
Ar neges dros y nef,
Ac oerach na’r iâ ar y palmant fu’r gair:
‘Dim lle yn y llety i Joseff a Mair’.

Dolefai’r gwynt o lwyn i lwyn
Tra Mair mewn ing sibrydai’i chŵyn
Yn ddistaw wrth y nos;
Yn sŵn gorfoledd tyrfa fawr
Ei grudd oedd laith gan ddagrau’n awr
Fel grudd y lili dlos;
Y gair a glybuwyd dywyllodd yr aer:
‘Dim lle yn y llety i Joseff a Mair’.

Agorwyd drws y preseb tlawd
I Mair a Joseff, ddrwg eu ffawd,
A’r nos yn duo’r nef,
Ac yno mewn tawelwch trist
A thlodi, ganwyd Iesu Grist
Tu fas i rwysg y dref;
Sisialai yr awel rhwng cangau yr yw:
‘Dim lle yn y llety i Iesu Fab Duw’.

Mae’r byd mewn gorymdeithiau fyrdd
Yn dringo hyd drofaog ffyrdd
I wyliau clod a bri;
Ni sylwa ar gardotyn llwm
Yn gam ei gefn o gwm i gwm,
Ni chlyw ei ingol gri,
Cau drws ar y truan wna balchder y byd:
‘Dim lle yn y llety i Iesu o hyd’.


******

Cymylwyd ardaloedd Ardudwy a Ffestiniog o glywed am farwolaeth Haf Williams (Thomas gynt). Bu’n athrawes gydwybodol a phoblogaidd yn Ysgol y Moelwyn am 34 o flynyddoedd (1976 -2010). Fe’i cofiaf hi’n ferch ifanc benfelen, hwyliog, dlos  yn cyrraedd Coleg y Drindod, Caerfyrddin ym mis Medi 1971. Fe’i magwyd yng Nghaerdydd a derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd. Un a ddechreuodd yn y Coleg yr un pryd â hi oedd Gerallt Rhun, Trawsfynydd (Rhydymain yr adeg honno). Yn y gwasanaeth a gynhaliwyd yn Eglwys Sant Tanwg, Harlech, cyflwynwyd yr englyn canlynol a ysgrifennodd Gerallt er cof amdani:
Machlud Haf (Medi 2015)
Mae ing Haf bach Mihangel. – Bowlia’r
       Goch belen dros orwel;
Yn ddifraw, llithra’n dawel
I hedd hir y nos a ddêl.
Ar y 25ain o Dachwedd, roedd hi’n flwyddyn ers i’r un dwy ardal golli un o bileri cymdeithas – un arall y bu ei enw’n perarogli dros gyfnod maith. Cyfeirio’r ydw i at y diweddar Frawd Arwel Jones, Erw Las, Bethania – fu’n bennaeth Ysgol y Moelwyn o 1986-92, yn weinidog gydag enwad y Bedyddwyr Albanaidd am 30 mlynedd ac yn gynrychiolydd tre’r Blaenau fel cynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd am rai blynyddoedd wedi iddo ymddeol. Dymuniad aelodau Rehoboth, (y ‘Capel Ucha’), Harlech oedd gosod plac coffa ar un o’r muriau, a braint ac anrhydedd i mi oedd cael gwahoddiad gan y Chwaer Bethan Johnson i lunio cwpled i’w osod arno - esgyll yr englyn canlynol - er cof annwyl amdano:
Bu inni’n ‘Frawd’ arbennig, - un fu’n gefn,
    Yn gaer, mor frwdfrydig;
Un oedd ef na wyddai ddig,
Un oedd yn ŵr bonheddig.
-----------------------------------------

Addaswyd o erthyglau a ymddangosodd yn rhifynnau Tachwedd a Rhagfyr 2015.
Gallwch ddilyn y  gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon