16.1.16

Sgotwrs Stiniog- helfa dda

Llun- Paul W.
Erthygl arall o gyfres bysgota y diweddar Emrys Evans. 

Blwyddyn Newydd Dda i holl sgotwrs yr ardal ac i holl garedigion ‘Llafar Bro’, pa le bynnag yr ydych, ymhell ac yn agos. 


Cododd fy nghyfaill Vivian Parry Williams hanesyn bach diddorol o’r hen bapur newydd, ‘Baner ac Amserau Cymru’ a’i roi o imi yn ddiweddar.  Dyddiad y papur ydi yr 16eg o Awst 1871.  Fel hyn y mae’r hanesyn yn y papur.
‘Y dydd o’r blaen daliodd boneddwr o Leamington ‘salmon’ anferth yn afon Conwy.  Erbyn ei agor cafwyd ei fod wedi lyncu llysywen fawr, a bwysai dros ddau bwys.  Erbyn ei hagor hithau drachefn cafwyd brithyll, ymysg pethau eraill o’i fewn a bwysai 1¾ pwys, ac erbyn agor y brithyll yr oedd yntau wedi llyncu wyth o bilcod (minnows), oll yn gwneud cyfanrif o un-ar-ddeg o bysgod'.

Dyna helfa go dda ar un tafliad, ynte?  Fel y dywedir, a cheisio cyfieithu ymadrodd o’r Saesneg. ‘Mae y gwir yn rhyfeddach yn aml na ffuglen.’  Tybed a oes rhywun o ddarllenwyr ‘Llafar Bro’ wedi cael profiad rhywbeth yn debyg i hyn?  Byddai’n ddiddorol cael yr hanes, neu hanes ryw ddigwyddiad anghyffredin arall o fyd y pysgod.  Anfonwch air.  Diolch i Vivian am yr hanesyn yma.  Melys moes mwy.

Ychydig cyn y Nadolig bum yn mynd drwy ‘Lawlyfr y Pysgotwr’, sef llyfryn o waith William Roberts, Ty’n y Maes, Bethesda.  Cyhoeddwyd y llyfryn yma yn 1899, ac er nad wyf yn berffaith sicr o hynny, mi dybiwn i mai hwn yw y cyntaf o’i fath yn Gymraeg.

Ceiliog hwyaden corff lliw gwin*

Ei gynnwys, yn bennaf, yw patrymau plu, ac mae gan William Roberts ei ddull a’i ffordd ei hun o’u cyfleu.  Dyma enghraifft ganddo: ‘Aden Ceiliog Hwyaden ar gorff lliw gwin a thraed duflaengoch.’  Dyma ein ‘Ceiliog Hwyad Corff Lliw Gwin’ ni.

Plu ar gyfer afonydd a llynnoedd ardal Bethesda, Llanberis ac i lawr Dyffryn Llugwy sydd ganddo yn bennaf.  Ond ar dudalen olaf ei lyfryn mae William Roberts yn rhestru ychydig o blu ar gyfer ‘Llynnoedd Ffestiniog’, ac yn dweud

....Bum yn gweithio o blu i rai o’r cyfeillion yn y lle.  Plu dipyn yn fras a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin gan y pysgotwyr.’  Yna mae’n rhoi patrymau ugain o blu, gydag aml i hen ffefryn yn eu plith.  Mae chwarter y plu a chorff paun ganddynt, a naw allan o’r ugain a thraed ‘du-flaengoch’ iddynt.

Wn i ddim am rai eraill sy’n cawio plu ond tydw i ddim wedi gwneud fawr ddim deunydd o blu yr aderyn pioden.  Mae gan William Roberts ymhlith y plu yma ar gyfer Llynnoedd Ffestiniog batrwm a phlu pioden ynddo, ‘Aden Bioden ar gorff paun a thraed du-flaengoch.’

Mae hwn yn batrwm newydd i mi cyn belled ag y mae ‘Plu Stiniog’ yn bod.  Oes rhywun arall yn gwybod amdano neu wedi clywed amdano?
---------------------------------

*Llun y bluen gan Gareth T Jones, o lyfr Emrys Evans 'Plu Stiniog' 2005 lle gallwch weld patrwm ei chawio hi hefyd.

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1998.
Dilynwch gyfres Sgotwrs Stiniog efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon