20.1.16

Stiniog a’r Rhyfel Mawr- 'bywyd mewn mwd a llaid'

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.
 
Ymddangosodd pedwerydd llythyr y Lefftenant Evan Jones (Rhosydd) o'r ffosydd ar dudalennau'r Rhedegydd ar 18 Rhagfyr 1915, ac yntau'n cynghori'r golygydd... 'Os gwelwch hynny yn briodol, gellwch roddi yr hyn sydd na fydd yn fantais i'r gelyn yn y "Rhedegydd."
Aiff ymlaen i ddisgrifio'r amgylchiadau'n eglur i'r darllenwyr.   
Mae yn dda gennyf fi a'r bechgyn oll ein bod wedi dod allan i wneyd ein rhan bach...pe buasai cyflwr ein gwlad heb fod y peth ydyw, ac nid cyflwr ein gwlad ni yn unig, ond tynged y byd gwareiddiedig, mai gwell fuasai cael hapusrwydd gartref. Ond mae bywyd o wyliadwriaeth yn y trenches mewn mwd a llaid, oerni a gwlaw, a cheisio cysgu ar enw o wely yn y ddaear, a llygod mawr yn poeni enaid dyn, yn rhoddi mwy o hapusrwydd i gydwybod dyn na byw adref fel Canary. Yr ydwyf yn disgwyl y gwêl Duw yn dda o'i drugaredd roddi iechyd i ni oll fod yma hyd y diwedd, a chael gweled cyfiawnder yn dwyn barn i fuddugoliaeth. Carem fyw yn mhob ystyr, ond gwell marw mewn gwlad estronol fel gwirfoddolwr, na gorfod mynd pan mae pethau yn rhy hwyr. Mae genyf gaib (pick) wedi ei pacio i chwi i'w chadw neu ei rhoddi yn y Library. Nid wyf yn meddwl y caf ei hanfon, ond deuaf a hi pan yn dod am dro. Daethum ar ei thraws yn eigion y ddaear nos Fercher. Cewch weld sut shâp sydd arnynt...Yr oedd y tir yn glaiog ac yn ogleuo ffrwydron...Bu Bob Jones a finnau dan dân am rhyw hanner awr ddoe. Yr oedd Bob Jones (Wrexham) yn bwydo y Canaries wrth ddrws y caban yn y trenches. Mae yn rhaid eu bod wedi ei spotio. daeth bwled drwy y Sandbag, a chyn pen tri munyd yr oedd tri ar ddeg o fwledi drwy yr un twll. Fe aethom oddiyno ar ein pedwar, rhag ofn mai bomb fyddai y nesaf. Nid wyf am fynd yno eto...
Yn ogystal â'r uchod, cyhoeddwyd llythyr Evan Jones arall, sef y Sapper o'r un enw o griw'r mwynwyr o 'Stiniog. Digon hiraethus oedd geiriau'r Sapper Jones:
Tra mewn unigrwydd 'hedodd fy meddwl ar ei aden atoch. Yr oeddwn yn gweled y dorf gariadus honno o fy mlaen yn eglur, sef y noswaith ein hymadawiad oddiyna i faes y gyflafan, yn wir, yr oedd y teimlad yn angerddol. Peth mawr i ardal a phob pentref yw ffarwelio a brodyr a chwiorydd, yn enwedig i fynd i faes y gwaed, ac felly i'r sawl sydd yn ffarwelio a'i aelwyd a'i gartref. Ond wedi'r cyfan, y mae y teimlad yn cyfnewid, yn enwedig wedi cyrraedd yr ochr hon. Ofn y mae dyn yn gweled beddau ei gyd-frodyr ar y maes yma, a'r brodyr hyn wedi sefyll hyd fedd dros ryddid a chyfiawnder. Mae'r dyn yn ennill nerth i sefyll yn wrol dros gyfiawnder yr un fath...Yr ydym wedi gweled rhyfeddodau mawrion erbyn hyn, ac os bywyd ac iechyd a gawn, i ddod adref eto, ni a fyddwn yn dystion o'r pethau mawrion a'r gyflafan mwyaf erchyll a welodd y byd erioed. Does gan neb ond y sawl sydd ar y maes heddyw syniad am allu a chryfder Prydain Fawr. Ni raid i neb yn Nghymru fach ofni dim mwyach, - y mae pob ergyd ar ôl ergyd yn dweyd "never," a phob milwr yn ei weithredoedd yn dweyd "never be slaves"...
Erbyn diwedd 1915, yr oedd tudalennau o enwau colledigion a chlwyfedigion wedi ymddangos ar dudalennau papur wythnosol 'Stiniog, a phapurau wythnosol eraill. Ymddangosodd lluniau o filwyr oedd yn gwasanaethu, a'r rhai a laddwyd, ac a glwyfwyd dros yr wythnosau. Cynyddodd niferoedd yn llythyrau a anfonwyd o'r ffrynt i deuluoedd ym mhlwy Ffestiniog wrth i'r flwyddyn dynnu at ei therfyn.

Yn wahanol i'r sefyllfa dros fisoedd cyntaf y rhyfel, pryd y cyhoeddwyd adroddiadau am yr ymgyrch recriwtio, ac am y cyfarfodydd cyhoeddus niferus yn ymwneud â hynny, roedd yr adroddiadau erbyn diwedd 1915 yn canolbwyntio mwy ar y digwyddiadau ar faes y gad. Roedd llai o bwyslais i'w weld ar geisio codi cywilydd ar y rhai nad oeddynt wedi ymuno, a mwy ar amgylchiadau yn y ffrynt.

Ond, yr oedd gorfodaeth filwrol yn agos, a byddai adroddiadau am y tribiwnlysoedd a gynhelid drwy'r sir yn cael sylw cynyddol o 1916 ymlaen.

Isod - Rhestr o enwau rhai o'r mwynwyr o Stiniog a ymrestrwyd gyda pherswâd Evan Jones, Rhosydd:

Robert Jones, Newborough St.:Thomas W.Owen, Maenofferen; Robert M.Hughes, Manod Rd.; Sapper Evan Jones, (wedyn Is-gorporal), High St.; Abraham Jones, Tanygrisiau; William Humphreys, Manod; John Roberts; Bob Roberts: Robert Roberts (tad y ddau flaenorol); John Jones, Glynllifon St.; Sapper Robert Humphreys, Manod Rd.; Phillip Woolford, Llan; Robert Morris, Plas Weunydd Lodge; David Joseph Jones, Bryn Bowydd; R.T.Jones, Lord St; Robert Morris, Glanaber; Rees Roberts, Lord St.

Ymrestrodd Caradog Jones a Rhys Roberts ar y dechrau hefyd, ond gorfu i'r ddau ohonynt ddychwelyd oherwydd gwaeledd iechyd. (Rhedegydd 1 Ebrill 1916).
-----------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2015.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon