18.1.16

Naw llythyr i Mark Drakeford

Y diweddaraf o Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Goffa.
(O rifyn Ionawr 2015)

Bydd llawer ohonoch yn cofio gweld datganiad Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd, yn y wasg ar Ragfyr 17eg yn cyfeirio at gynlluniau’r Betsi ar gyfer adeilad yr Ysbyty Coffa. Rhag ichi gael eich twyllo, cyfeirio at yr un cynlluniau yn union oedd o ag a gafodd eu llunio gan y Bwrdd Prosiect ddwy flynedd yn ôl.

Felly, pam deud yr un peth eto ond mewn geiriau gwahanol, fel petai’n rhoi rhyw anrheg Nadolig hael inni? A pham gneud y datganiad hwnnw ddiwrnod yn unig cyn i’r Senedd gau dros y gwyliau, sef yr adeg y mae gwleidyddion Llundain yn ei alw yn ‘graveyard period’? Hen dacteg warthus ac annemocrataidd ydi hon gan weinidogion y Llywodraeth, er mwyn gwarafun cyfle i aelodau etholedig herio eu cynlluniau amhoblogaidd.

Ar Radio Cymru, ychydig cyn y Nadolig, roedd ein haelod ni yn y Cynulliad yn traethu’n huawdl iawn ar ryw fater neu’i gilydd oedd yn bygwth y drefn ddemocrataidd ym Mae Caerdydd. Byddai’n rhaid cynnal refferendwm ar beth felly, meddai, gan mai dyna’r ffordd ddemocrataidd o weithredu. Ac roedd o yn llygad ei le, wrth gwrs! Wedi’r cyfan, onid dyletswydd gwleidyddion o bob plaid ydi cynrychioli llais a lles y rhai sydd wedi eu hethol nhw i’w swyddi yn y lle cyntaf, yn hytrach na dilyn eu mympwyon a’u hamcanion hunanol eu hunain?

Ers iddo gael ei benodi yn 2013 i’w uchel (ac arswydus) swydd, mae Mr Drakeford wedi derbyn 9 o lythyrau maith a manwl oddi wrth y Pwyllgor Amddiffyn yn tynnu ei sylw at broblemau’r ardal hon o ganlyniad i benderfyniadau trychinebus y Betsi. Fe gaed rhyw fath o ymateb oddi wrtho i’r llythyrau hynny, ond dewis anwybyddu’r dadleuon mae o wedi’i neud, dro ar ôl tro, gan guddio tu ôl i’r esgus  ‘Wna i ddim ail-agor materion y cafwyd cytundeb arnynt yn lleol.’ Cytundeb gan bwy yn lleol, felly?

Yn sicr nid gan drwch poblogaeth yr ardal hon! 

Fel swyddogion y Betsi, mae yntau hefyd yn dewis troi clust fyddar i lais y werin bobol trwy anwybyddu protestiadau cyhoeddus a ralïau, a chanlyniadau holiaduron, deisebau a dau refferendwm. Mewn geiriau eraill, mae’r Gweinidog Iechyd yn wfftio at y drefn ddemocrataidd y mae Dafydd Elis Thomas (o bawb!) yn dadlau mor gryf o’i phlaid!

Dros y deunaw mis diwethaf, mae Mr Drakeford wedi derbyn cymaint â 5 cais i gyfarfod  dirprwyaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn ond er inni gynnig mynd i lawr i Gaerdydd i’w weld, gwrthod mae o wedi’i neud bob tro. ‘It would not be appropriate for me to meet the Defence Committee to discuss this matter’, meddai, ond heb byth egluro pam. Sy’n profi bod Dafydd Elis Thomas unwaith eto’n iawn i awgrymu nad ydi rhai gwleidyddion yn gwybod ystyr y gair ‘Democratiaeth’, neu mi fydden nhw’n barotach i roi lles eu hetholwyr o flaen unrhyw amcan personol arall.
.................................

Sawl gwaith sydd raid taro’r post er mwyn i’r pared glywed?                                  
Oherwydd bod nifer y cwynion y cawn ni glywed amdanynt yn cynyddu o wythnos i wythnos, yna mae’r Pwyllgor Amddiffyn wedi penderfynu trefnu cyfle i bawb ohonoch, sy’n dymuno hynny, gael cofnodi unrhyw gŵyn(ion) ar daflen arbennig, ac i ganmol hefyd, wrth gwrs, os mai dyna’ch dymuniad.

Ar Ionawr 18fed, dair blynedd union yn ôl, fe bleidleisiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gau ein Hysbyty Coffa a rhuthro i neud hynny’n syth wedyn er mwyn cael trosglwyddo’r nyrsys a’r staff i gyd i lawr i ysbyty newydd Alltwen, fel ffordd hawdd o ddatrys y problemau staffio dyrys yn fan’no. Ac fel y gŵyr pawb ohonoch, bellach, dyna pryd y cychwynnodd problemau’r ardal hon.

Yn ystod y dair blynedd a aeth heibio, ydi pethau wedi gwella yn eich barn chi? Er enghraifft, pa mor fodlon ydych chi efo’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan y Practis Meddygon ers i’r Betsi gymryd gofal o hwnnw? Beth am hwylustod neu anhwylustod trefnu apwyntiad Pelydr-X yn Alltwen neu dderbyn triniaeth mân anafiadau neu driniaeth ffisiotherapi yn lleol yn Stiniog?

Beth yw’r anawsterau i chi, bobol Dolwyddelan a Llan, ymweld â’r feddygfa yn Blaenau? Beth mae’n ei olygu i rai ohonoch orfod teithio i Alltwen neu Ddolgellau, a hyd yn oed i Bryn Beryl neu Gaernarfon, i ymweld ag anwyliaid sy’n gleifion-tymor-hir yn yr ysbytai hynny?

Os oes gennych gŵyn o unrhyw fath, bach neu fawr, yna, da chi, manteisiwch ar eich cyfle i’w chofnodi hi.

I’r pwrpas hwn, bydd y Pwyllgor Amddiffyn yn trefnu cyfleon ichi lenwi’r ffurflen gŵyn, os mai dyna’ch dymuniad.

Mae’r Mid Wales Health Collaborative Board, sef y Bwrdd sydd, ar hyn o bryd, yn ystyried ffyrdd o ad-drefnu ac o wella’r gwasanaeth iechyd yng nghefn gwlad Cymru, yn dangos cryn ddiddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yn yr ardal hon, sef Ucheldir Cymru ac, yn ôl a ddeallwn, maen nhw’n bwriadu cynnal dwy sesiwn eu hunain yn nhre’r Blaenau ar Chwefror 11eg (pnawn a min nos), er mwyn rhoi cyfle i chi, bobol yr ardal, gael deud eich deud unwaith eto. Felly gwnewch nodyn o’r dyddiad oherwydd, ar yr un diwrnod, bydd y Pwyllgor Amddiffyn yn dosbarthu ffurflenni i bwy bynnag fydd â chŵyn i’w gneud.

Mae’n arwyddocaol bod y Cyngor Iechyd Cymunedol (CIC) hefyd yn bwriadu anfon cynrychiolwyr i Stiniog ar Chwefror 9fed. Felly, os oes gennych chi deimladau cryfion ynglŷn â’r sefyllfa, yna mae mor bwysig eich bod chi’n manteisio eto ar eich cyfle!  
Go brin y bydd cyfle arall ar ôl hwn.

Gyda llaw, nid pawb sy’n prynu nac yn darllen Llafar Bro, felly rydym yn gofyn ichi neud gwaith cenhadu ymysg y bobol hynny, i’w siarsio nhwtha hefyd i fanteisio ar eu cyfle. Diolch o galon.
GVJ

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon