8.1.16

Gwynfyd- crwydro

Erthygl arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro.
 
Pur anaml y bydd neb yn cadw at eu haddewidion calennig, ond ar ôl Nadolig diog yn y tŷ 'cw, dwi am geisio crwydro rhywfaint o Wynedd, ac efallai ymhellach, yn ystod Ionawr a'r mis bach.

Dyma ychydig o syniadau am weithgareddau a dyddiau allan:
Cysylltir y goeden ywen â mynwentydd yn aml a chredir i bobl gynnar Ewrop, fel y Celtiaid, blannu'r coed bytholwyrdd yma ar eu safleoedd cysegredig, cyn i'r cristnogion godi eu haddoldai ar yr un safleoedd. Mae enghreifftiau gwych yn yr ardal hon, yn arbennig ym mynwent Maentwrog, ond gellir gweld coeden hynaf Cymru ger eglwys Llangernyw. Credir iddi fod dros 4000 o flynyddoedd oed.

Bydd nifer ohonom wedi tynnu’r addurniadau 'Dolig i lawr erbyn y 6ed -Gwyl Ystwyll- gan gynnwys yr uchelwydd (mistletoe). Dyma blanhigyn arall a ystyriwyd yn sanctaidd gan yr hen Gymry, ac mae'n ymddangos ei fod yn prinhau trwy Brydain. Tyfu ar goed derw a choed afalau y mae yn bennaf, ac mae’r Gymdeithas Fotanegol wrthi yn cynnal arolwg o'i ddosbarthiad, felly chwiliwch rwan tra bo'r coed heb eu dail.

Ym Mhen Llŷn ceir hen goel bod y brain yn priodi ar y 18fed o Ionawr, ac mae Porth Ceiriad yn un lle da i wylio aelod o'r teulu hwn, y frân goesgoch. Enw arall ar yr adar yma yw brân Arthur, ar ôl chwedl fod ysbryd y brenin yn byw ynddynt. Mae'r frân bellach wedi ei gyfyngu i'r gwledydd Celtaidd a De Ewrop, ond er nad yw wedi magu yng Nghernyw ers 1947*, mae'n cael ei ystyried yn aderyn 'cenedlaethol' yno o hyd.

Dafydd yn edmygu Pendraw'r Byd ac Ynys Enlli. Llun Paul W.
Mae'r olygfa tuag Ynys Enlli o'r Mynydd Mawr ym mhen pellaf Llŷn yn un cofiadwy iawn, ond gorau oll os byddech ddigon ffodus i fedru gwylio hebog tramor yn hela dros y creigiau yno.

Ar y 24ain o Ionawr, 1283 ildiodd y Cymry gastell Dolwyddelan i fyddin Edward y 1af; beth am daith yno eleni?

Ar y 25ain mae Gŵyl Santes Dwynwen, nawdd sant y cariadon. Mae Ynys Llanddwyn ym Môn, lle ceir weddillion eglwys Dwynwen yn safle arbennig hefyd, lle mae'n bosib gweld y fulfran werdd yn ogystal â’i gefnder, y bilidowcar.

Eglwys Santes Dwynwen, Ynys Llanddwyn. Llun Paul W.
Gwelir rhai planhigion prin yno yn y gwanwyn, ond mae'r cyfnod cyn hynny yn gyfle i ymweld ag ardaloedd prydferth Gwynedd heb ddod ar draws y pla deugoes hwnnw, -twristiaid!!

Mae'r 25ain hefyd yn Ddydd Sant Paul pryd rhagwelir y tywydd am weddill y flwyddyn...

Fel arfer, mae gan Gymdeithas Edward Llwyd raglen lawn o deithiau bob bore Sadwrn: manylion ar eu GWEFAN. Felly hefyd Glwb Mynydda Cymru: GWEFAN.
----------------------------

* Mae'r brain coesgoch wedi bod yn magu eto yng Nghernyw ers 2002. 

Ymddangosodd yr erthygl uchod yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1996.

Awdur cyfres Gwynfyd ydi Paul Williams. Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon