10.1.16

Tanygrisiau Ddoe- Yr Ysgol

Pennod tri yng nghyfres Mary Jones am y gymuned rhwng 1920-36.
 
Y cof cyntaf sydd gennyf o fynd i’r ysgol oedd pan oeddwn ychydig dros dair oed. Cefais i fy hun yn nosbarth y babanod yn ddigon di-seremoni fel a gofiaf ymysg gryn ddau ddwsin o blant gwinglyd a swnllyd fel finnau. Gyda phleser cofiaf y dosbarth a’r athrawes a’r llais mwyaf addfwyn.

Dysgodd i ni ganu –y gân yma fyddai cân yr ysgol fach bob bore:
    “Diolch i ti Arglwydd,  
     Am dy ofal cu,
     Drwy’r hirnos dywyll, 

     Gwyliaist drosom ni.”

Symud wedyn i’r dosbarth 1af a dysgu ysgrifennu a darllen a gwrando ar stori cyn mynd adre’n y pnawn. Y llyfrau darllen fwyaf cofiadwy oedd Nedw, Hunangofiant Tomi. Roedd rhaid hefyd ddysgu darllen yn uchel ar ein traed a llyfr yn ein dwylo, naill ar ôl y llall yn darllen pedair brawddeg. Mr Jones oedd yn ein dysgu ac yn ein gorfodi i gofio bob gair, ac mi oedd pob un ohonom yn y dosbarth yn medru darllen cyn gadael.

Roedd y Prifathro yn rhoi gwersi i ni yn y bore – darlleniad o’r Beibl a barddoniaeth; ei ffefryn oedd Eifion Wyn. Un wers oedd Misoedd y Flwyddyn, gan ddarllen y bennill cyntaf o Ionawr, yna rhoi eglurhad (Wyt Ionawr yn oer a’th farug yn wyn / iar fach yr hesg / amser y flwyddyn / tywydd). Byddai bob un o’r gwersi yma ganddo yn cynnwys bywydeg, lleoliad, coed, natur, hanes, blodau, a gallu’r bardd gyda geiriau ac odlau. Rhaid oedd i ni gofio’r rhain hefyd er mwyn eu darllen allan. Rhoddodd Mr Jones hoffter i mi at lenyddiaeth Eifion Wyn ac am flwyddyn o wersi misoedd y flwyddyn.

Dim cinio ysgol, dim dŵr poeth yn y tapiau. Dim ond y plant hynaf oedd yn cael chwarae allan yn y tywydd oer iawn. Tân glo ymhob ystafell yn y gaeaf. Llechen las a phin sgwennu o lechen yw rhai o’m atgofion o ysgol y babanod yr adeg yma.

Y cof olaf sydd gennyf ein bod i gyd yn yr ysgol adeg lecsiwn a chael ein harwain allan at Siop y Post gan fod ryw g’warfod ar y groesffodd a chael ‘rosette’ coch ar ein brest a chanu “Rhowch Vote i John Jones Roberts” neu “Haydn Jones”. Nid wyf yn cofio yn iawn nag yn hidio llawer am y lecsiwn ar y pryd, ond ei fod yn hwyl.


LLUN.  Un o hen deuluoedd Tanygrisiau: rhieni, brodyr a chwiorydd Mary Jones. Tynnwyd y llun gan Ll. Griffiths yn y cae ger y bont, Tŷ’nddôl.
--

Yn yr haf byddem yn mynd i chwarae i Ddolrhedyn. Roedd yr afon yma yn lân iawn ac wedi cael argae yn y rhan uchaf, agosaf at rediad Pistyll Pant y Friog, a hynny yn gwneud pwll nofio da ac yn is i lawr roedd yna bwll bach arall: ‘Llyn hogia’ a ‘Llyn genethod’ fel y’i gelwid. Bu llawer iawn o hwyl diniwed yno. Roedd dynion hefyd wedi gwneud darn o dir o flaen rhes West End yn gae i chwarae coets (quoits), a byddai gwŷr o bob oed yno yn cael gêm gyda’r nosau yn yr haf efo brwdfrydedd iach.

Byddem fel plant hefyd yn mynd am bicnic i Gwmorthin a sglefrio i lawr yr inclên trwy eistedd ar duniau rhostio. Roedd corlan ddefaid ym Modychain odditan y creigiau, lle byddai geifr yn dod i lawr (o flaen y glaw fel y dywedid!). A chofio fel y byddem yn gweiddi yn uchel “Nani-Goat -a-Bili-Goat-a-Bow-ow-ow”, er mwyn i’r eco o’n lleisiau ei daflu yn ôl. Roedd y garreg ateb yn gweithio bob tro a byddai y geifr yn sgrialu yn uwch i’r creigiau.

-----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon