Bum yn ceisio cofio enwau rhai o’r hen dimau pêl droed lleol yn ddiweddar, ond roedd amryw wedi mynd o’m cof. O ganlyniad, edrychais ar restr yr oeddwn wedi ei wneud ychydig flynyddoedd yn ôl. Dyma rai ohonynt, ar wahân i dim pêl droed Blaenau ei hun:
Black Stars, Blue Boys, Celts, Comrades, Dixie Eleven, Dixie Kids, Granville Rovers, Happy Eleven, Maenofferen Rangers, Manod Swifts, Manod Villa, Moelwyn Rangers, Offeren City, Rhiw Corinthians, Rhiw Institute, Rhiw United, Tanygrisiau, Thursday FC, Ystradau Celts.
Er fy mod wedi chwarae cryn dipyn o bêl droed pan oeddwn yn hogyn a chael hwyl efo hen hogiau’r Rhiw, ni fum yn fawr o beldroediwr. Y mae Cian, fy ŵyr yn gallu trin y bêl yn llawer gwell nas gallwn i pan oeddwn ei oed.
Bu amryw o gaeau pêl droed yn y Blaenau tros y blynyddoedd, ac rwyf wedi sôn am Haygarth Park yng Nglan y Pwll o’r blaen. Cofiaf fy mam yn dweud wrthyf bod taid wedi bod yn chwarae yng nghae Holland Park -na nid yn Llundain- ond mewn cae sydd wedi diflannu o dan rwbel Domen Fawr, Chwarel Oakeley ers blynyddoedd bellach.
Roedd gennym ninnau, hogiau Rhiw a Glan y Pwll gae o fath yng ngodre’r Domen Fawr yn yr 1950au, ac os y chwaraeid yno ar ddyddiau gwyliau ysgol, a’r chwarel yn gweithio, byddai’n rhaid inni fod yn wyliadwrus rhag ofn i garreg fawr dreiglo i lawr i’r cae ar ôl tipio o ben y domen. Cofiaf un achlysur pan wnaeth carreg fawr dreiglo i lawr a phob un ohonom yn galw ar y goli yn y pen agosaf i’r domen i’w heglu hi oddi yno nerth ei garnau. Rhyw gaeau digon pethma oedd gennym yr adeg honno, dau ohonynt yn ochr Afon Barlwyd, ac yno byddai’r bêl yn aml iawn!
Dyma un neu ddau o ganlyniadau gemau o’r gorffennol a godais o hen bapurau:
Bu gêm gartref gyfeillgar rhwng tîm Blaenau a Llanrwst ar un o gaeau’r ardal ym mis Ionawr 1898, ac yn ôl yr adroddiad yn y Towyn on Sea a Merioneth County Times, prif chwaraewyr y Blaenau oedd y rhai canlynol gyda’r cyfenwau Thomas, Barlow a Hughes. Bechod nad oedd eu henwau cyntaf ar gael ynte! Beth bynnag, y sgôr ar ddiwedd y gêm oedd Blaenau 5 - Llanrwst 1.
Yn dilyn ceir cipolwg ar rai gemau gan y gwahanol dimau lleol:
Ebrill 1908 – St David’s Guild - 1 … Manod Swifts - 0
Mai 1929 - Tanygrisiau - 2 ... Cricieth - 0
Ebrill 1932- Bethesda Victoria - 6…. Offeren City - 0
Mehefin 1992 – Gêm a chwaraewyd yn y cystadlaethau Rhyng-Chwarelyddol (Inter Quarries) Dam Busters (Pwerdy Tanygrisiau) 3 … All Stars Porthmadog 2
Tybed pwy oedd yn nhîm y Pwerdy?
Rwyf wedi gweld dau lun o chwaraewyr o’r flwyddyn 1927/28 pan oedd tîm pêl-droed Blaenau Ffestiniog yn enillwyr y gwpan a’r gynghrair, ond yr unig un rwyf yn ei adnabod ynddynt yw’r diweddar Glyn Bryfdir Jones sy’n eistedd ar y dde eithaf. Tybed pwy all enwi rhai o’r gweddill?
O.N. – Roedd Tecwyn yn holi am yr enw cae Haygarth. Credaf imi roi esboniad amdano yn Llafar Bro yn 2022. Beth bynnag, dyma air pellach amdano oddi wrth Nia Williams (Glanypwll Villa gynt) - wedi ei godi o weithredoedd 4 Tai’n Foel, Glanypwll, ac ewyllys Richard Parry, Llwyn Ynn, Sir Ddinbych yn 1834, sef cyn berchennog stad Glanypwll.
Trosglwyddwyd y stad i’w nai y Cyrnol Haygarth (1820-1911), ac yna i’w frawd y Canon Henry William Haygarth (1821-1902), Ficer Wimbledon a chanon anrhydeddus Eglwys Gadeiriol Rochester. Daeth y stad yn ôl drachefn i’w frawd y Cyrnol. Tua 1913 aeth y stad ar werth.
Dyma lun unwaith eto o Haygarth Park yn ei ogoniant.
- - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2025
CYFRES Pêl-droed yn y Blaenau
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon